Iechyd Cyhoeddus
Iechyd Cyhoeddus
Mae'r Tîm Iechyd Cyhoeddus yn gyfrifol am ymdrin à nifer fawr o wasanaethau gwahanol cysylltiedig â diogelu iechyd, diogelwch a lles y cyhoedd.
Mae'r tîm yn gweithredu i hyrwyddo a diogelu iechyd, diogelwch a lles y cyhoedd trwy ddarparu cyngor, cymorth a rheoliad yn unol â pholisi cenedlaethol a lleol.
Pob blwyddyn mae'r tîm yn rhoi sylw i fwy na 7000 o ymholiadau oddi wrth y cyhoedd, llawer mewn perthynas â'r canlynol:-
- Niwsans Statudol
- Draeniad Diffygiol
- Adeiladau / Safleoedd Budron a Phryfedog
- Gwrychoedd Uchel
- Claddu'r Meirw a Chwalu'r Lludw
- Datgladdu
- Llygredd Golau
- Difa Pla
- Y Gwasanaeth Rheoli Cŵn
- Tîm Gorfodi Tai’r Sector Preifat
- Safleoedd Cartrefi Preswyl Symudol
Hysbysu cwyn
Ar yr adegau hyn, mae’r Ganolfan Gysylltu’n cael llawer o alwadau ac, os gallwch o gwbl, byddem yn gofyn i chi beidio â galw dros y ffôn.
Felly, byddem yn gofyn i chi gynorthwyo ein hymdrechion trwy hysbysu’r gŵyn lle bo modd trwy e-bost ar naill ai pollution.control@pembrokeshire.gov.uk ar gyfer cwynion masnachol neu domestp@pembrokeshire.gov.uk ar gyfer cwynion domestig.
Defnyddio’r Ap Sŵn i wneud cwynion ynghylch sŵn
Lle gallwn, byddwn yn gofyn i achwynwyr gofnodi a recordio cwynion ynghylch sŵn trwy’r Ap Sŵn. Ar hyn o bryd ni fydd modd gosod citiau sŵn mewn eiddo er diogelwch y cyhoedd a’n staff ein hunain.
Ymateb i gwynion
Dan yr amgylchiadau, rydym yn dilyn cyngor y llywodraeth ac wedi dod i’r casgliad na fyddwn ond yn gallu cynnig camau gweithredu cyfyngedig wrth geisio datrys eich cwynion. Bydd y rhain yn cynnwys rhyw fath o gyfathrebu o bell gyda’r troseddwr honedig fel llythyr, e-bost neu alwad ffôn. Ni fydd modd ymweld â chartrefi. Gan ddibynnu ar natur y gŵyn, gallwn hefyd ofyn am gyfranogiad asiantaeth allanol fel yr Heddlu, yn enwedig os oes pryderon eraill fel ymddygiad gwrthgymdeithasol. Felly, byddem yn gofyn i chi ddarparu gymaint o wybodaeth ag y gallwch am eich cwyn er mwyn i ni allu gwybod pwy yw’r troseddwr honedig. Mae cwynion dienw neu’r rhai lle na enwyd y safle troseddol yn annhebygol o gael sylw.
Gwybodaeth ar gyfer cysylltu:
Ffôn 01437 764551
E-bost ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn