Iechyd Cyhoeddus
Adeiladau/Safleoedd Budron a Phryfedog
Beth yw safle sy'n fochynnaidd fudr neu â fermin?
Mae safleoedd sy'n fochynnaidd fudr neu â fermin yn eiddo sy’n cael ei ystyried â fermin (gan gynnwys llygod mawr, llygod, wyau, larfa a chwilerod pryfed neu barasitiaid) neu sydd mewn cyflwr mor fudr fel eu bod yn niweidiol i iechyd.
Nodweddir eiddo o'r fath yn aml gan bentyrru deunydd a all wneud mynediad i eiddo'n anodd ac a allai achosi perygl ffisegol neu berygl o dân i ddeiliaid neu eiddo cyfagos.
Beth ddylwn i ei wneud os credaf fod safle mewn cyflwr sy'n fochynnaidd fudr neu â fermin?
Os ydych yn credu bod eiddo mewn cyflwr sy'n fudr neu â fermin, dylech gysylltu â Thîm Iechyd y Cyhoedd ar unwaith.
Rhoi gwybod am gŵyn
Rhowch wybod am y gŵyn lle bo modd trwy e-bost at naill ai ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk ar gyfer cwynion masnachol neu ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk ar gyfer cwynion domestig.
Beth ellir ei wneud i fynd i'r afael â safleoedd o'r fath?
Mae gan Dîm Iechyd y Cyhoedd ddyletswydd statudol i ymdrin ag eiddo sy'n fochynnaidd fudr neu â fermin, o dan adran 79 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 ac adran 83 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936.
Unwaith y bydd y Cyngor wedi cael gwybod am eiddo o'r fath, bydd Swyddog o'r Tîm Iechyd Cyhoeddus yn cynnal archwiliad o'r eiddo i benderfynu a oes angen cymryd camau gorfodi. Unwaith y bydd hyn wedi ei benderfynu, cynhelir trafodaethau â'r perchennog/deiliad i geisio dod i gytundeb i gael gwared ar yr holl sbwriel ac eitemau ac i lanhau'r eiddo'n drylwyr. Os bydd y perchennog/deiliad yn methu cydymffurfio, gall y Cyngor gyflwyno hysbysiad statudol yn mynnu bod yr eiddo’n cael ei lanhau a chael gwared ar yr holl sbwriel ac eitemau budr.
Gall methu cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad arwain at naill ai erlyniad a/neu'r Cyngor yn gwneud y gwaith o ganlyniad i ddiffyg cyflawni (h.y. penodi contractwr) ac adennill y costau gan y perchennog/deiliad.