Iechyd Cyhoeddus

Carbon Monocsid

  • Os ydych chi’n byw mewn tŷ cyngor ac yn tybio bod problem gennych chi, cysylltwch â’r adran atgyweirio tai. 
  • Os ydych chi’n byw mewn cartref ar rent preifat cysylltwch â’ch landlord. 
  • Os ydych chi’n berchen tŷ cysylltwch â gosodwr wedi ei gofrestru gyda Gas Safe neu Nwy Prydain. 
  • Os ydych chi’n tybio mai o’r tŷ drws nesaf y mae’r broblem yn dod, cysylltwch â’r Adran Iechyd Cyhoeddus i gael ymchwiliad. 

Beth yw Carbon Monocsid?

Mae Carbon Monocsid yn nwy sy’n eithriadol o wenwynig i bobl ac anifeiliaid fel ei gilydd. Ond mae’n gallu bod yn anodd ei adnabod oherwydd: 

  • Dim Lliw
  • Dim Arogl
  • Dim Blas

Os yw eich offer yn llosgi unrhyw danwydd ffosil fel nwy, glo neu olew, mae carbon monocsid yn gallu dod i mewn i’ch cartref os nad ydynt wedi eu gosod yn gywir neu heb eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd. 

Mae angen aer ar offer nwy hefyd

Mae angen aer ar  offer nwy i losgi’n ddiogel. Gyda digon o aer, mae llosgi tanwydd domestig yn creu carbon diocsid a dŵr mewn meintiau diogel. Fel arfer mae simnai neu ffliw yn mynd â’r rhain bant.  

Fodd bynnag, os nad oes digon o aer, gellir cynhyrchu carbon monocsid. Mae hyn yn gallu digwydd hefyd os yw’r simnai neu’r ffliw wedi eu rhwystro neu ar gau. Gwyliwch am yr arwyddion o berygl. 

Os byddwch yn anwybyddu’r rhain, gallai fod yn angheuol.

Yr Arwyddion o Berygl

Os oes staeniau, huddygl neu afliwiad o amgylch tân nwy neu ar ben twymydd dŵr nwy, gallai hynny olygu bod rhywbeth yn rhwystro’r ffliw neu’r simnai. 

Ni ddylai’r fflam yn eich tân nwy neu dwymydd dŵr fod yn felyn nac yn oren. 

Ni ddylai’r offer nwy wneud gwynt rhyfedd tra mae’n gweithio. 

Os ydych chi’n poeni o gwbl am offer nwy, cymerwch y cyngor a amlinellir yma a cheisiwch gymorth. Peidiwch ag oedi a pheryglu eich hun neu bobl eraill. 

Symptomau Gwenwyno gan Garbon Monocsid

Mae’r symptomau yn annelwig ac yn gallu bod yn debyg i rai y mae mathau eraill o dostrwydd yn eu hachosi – hyd yn oed anwyd neu’r ffliw. Ond os oes gan rywun yn eich tŷ unrhyw rai o’r symptomau canlynol wedi defnyddio offer nwy, ewch at eich meddyg: 

  • Pen tost, doluriau ar y frest neu wendid yn y cyhyrau nad oes esboniad iddynt 
  • Chwydu, dolur rhydd neu boenau yn y stumog 
  • Y benddot sydyn wrth sefyll lan 
  • Syrthni cyffredinol.

Rhowch y gorau i ddefnyddio’r offer ar unwaith a pheidiwch â’i ddefnyddio eto hyd nes y bydd wedi ei archwilio gan osodwr o Nwy Prydain neu gwmni arall sydd wedi ei gofrestru gyda Gas Safe. 

Twymyddion Dŵr

Mae’r rhan fwyaf o’r twymyddion dŵr diweddar wedi eu selio oddi wrth yr ystafell.  Golyga hyn nad yw cynhyrchion gwastraff yn gallu dod i mewn i’r ystafell. Fodd bynnag, mae rhai o’r twymyddion dŵr hŷn gyda ffliw agored yn dal i fodoli, yn enwedig mewn tai neu fflatiau ar rent.  Dylech ddilyn y camau diogelwch isod pan fyddwch yn defnyddio’r offer, neu gysylltu â ffitiwr sydd wedi ei gofrestru gyda’r corfforaeth Gas Safe am gyngor ar sut i ddefnyddio’r teclyn yn ddiogel.â sut i ddefnyddio’r offer yn ddiogel.  Dylid cynnal a chadw pob twymydd dŵr o’r math hwn (ffliw agored) o leiaf unwaith y flwyddyn.  Byddwch yn siŵr bod eich landlord yn trefnu hyn. 

Defnyddio eich twymydd dŵr yn ddiogel

Sicrhewch fod digon o aer yn gallu dod i mewn i’ch ystafell ymolchi. Peidiwch byth â chau na rhwystro agorfeydd aer. 

Agorwch ddrws neu ffenestr yr ystafell ymolchi bob tro y byddwch yn rhedeg dŵr. 

Diffoddwch y twymydd dŵr cyn i chi fynd i mewn i’r bath. Peidiwch byth â rhedeg rhagor o ddŵr pan fyddwch chi yn y bath. 

Peidiwch â rhedeg twymydd dŵr ebrwydd heb ffliw am fwy na phum munud ar y tro. Nid ydynt wedi eu gwneud i lenwi bath, cawod neu beiriant golchi. 

Os ydych chi’n poeni o gwbl am yr offer, rhowch y gorau i’w ddefnyddio ar unwaith a cheisiwch gymorth. 

Yr hyn ddylech chi ei wneud

 Mae eich landlord yn gyfrifol am sicrhau bod eich cartref yn ddiogel. 

Yn anffodus, mae rhai landlordiaid yn anwybyddu’r cyngor hwn gyda chanlyniadau trychinebus. Fodd bynnag, mae diogelwch yn gyfrifoldeb i bawb ac mae rhai pethau y gallwch chi ei gwneud i sicrhau bod pawb yn eich cartref yn ddiogel.  

Holwch gyda’r landlord, y swyddfa neu asiantaeth letya pa bryd y cafodd yr offer nwy eu harchwilio ddiwethaf gan rywun cymwys. Os oedd yr archwiliad olaf dros 12 mis yn ôl, gofynnwch am gael gwneud archwiliad. 

Peidiwch byth â chau unrhyw fentiau, oherwydd y byddwch yn cau mas yr aer sydd ei angen ar eich offer i losgi’n ddiogel.  Gofalwch nad oes dim yn rhwystro griliau, ffliwiau neu friciau aer ar y tu fas. 

Peidiwch byth â defnyddio offer nwy yr ydych yn amau nad yw’n gweithio’n iawn. Peidiwch byth â cheisio newid neu drwsio offer nwy eich hunan.  

Gweithredwch heb oedi os gwelwch chi un o’r arwyddion perygl. Os bydd eich landlord yn gwrthod eich ceisiadau am waith cynnal a chadw, rhowch wybod am eich pryderon i’r awdurdod lleol. Cofiwch fod y gyfraith o’ch plaid chi. 

Hyd yn oed os oes gennych chi landlord cyfrifol ac mae eich offer yn hollol ddiogel, wedi eu gosod gan arbenigwyr ac yn cael eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd, bydd damweiniau yn dal i ddigwydd os nad ydych chi’n defnyddio’r offer yn iawn. 

Cofiwch ddilyn y cyfarwyddiadau bob tro a dim ond defnyddio offer i wneud yr hyn y mae wedi ei gynllunio i’w wneud. Er enghraifft, peidiwch â defnyddio stôf goginio i dwymo ystafell. 

Pan fyddwch yn chwilio am le i fyw, defnyddiwch y manylion yma fel rhestr wirio. 

Yr hyn ddylai eich landlord ei wneud

Mae tri phrif ddull o leihau bygythiad carbon monocsid: 

Prynwch offer sydd wedi eu harchwilio ar gyfer diogelwch yn unig.  Pan fyddwch yn prynu offer ail law, byddwch yn siŵr o gael gwarant gan y gwerthwr. 

Gwnewch yn siŵr fod offer nwy yn cael eu harchwilio a’u cynnal a’u cadw’n flynyddol gan ffitiwr sydd wedi ei gofrestru gyda Gas Safe.

Sicrhewch fod offer nwy yn cael eu harchwilio a’u cynnal a’u cadw’n flynyddol un ai gan Nwy Prydain neu osodwr arall sydd wedi ei gofrestru gyda Gas Safe

Offer ail law

Gofal piau hi os byddwch yn prynu offer ail law. Byddwch yn siŵr bod y gwerthwr yn rhoi gwarant ysgrifenedig i chi a gofynnwch bob tro am gopi o’r cyfarwyddiadau i ddefnyddwyr. Os cewch chi drafferth, cysylltwch â’ch Swyddfa Safonau Masnachu leol. 

Sicrhewch fod y teclyn yn cael ei osod yn broffesiynol gan ffitiwr sydd wedi ei gofrestru gyda CORGI.

Cysylltiadau Defnyddiol

Nwy Prydain (yn agor mewn tab newydd): Edrychwch yn eich llyfr ffôn o dan GAS (Nwy). Os byddwch yn ffonio gyda’r rhifau hyn, dim ond cost galwad leol y byddwch yn ei thalu. 

I gael manylion gosodwr nwy cofrestredig yn eich ardal chi, ffoniwch Gas Safe ar 0800 408 5500.

Cyngor y Defnyddwyr Nwy: I gael manylion eich cangen leol, edrychwch yn eich llyfr ffôn o dan GAS (Nwy), neu ar gefn eich bil nwy.   

ID: 2381, adolygwyd 21/11/2023