Iechyd Cyhoeddus

Claddu mewn Gerddi

Nid oes gwaharddiad cyffredinol ar gladdu gweddillion dynol y tu mewn i ffiniau tir sy’n eiddo i rywun, fodd bynnag, rhowch sylw i’r pwyntiau isod. 

  • Ni fyddai angen caniatâd cynllunio nac o fath arall gan yr Awdurdod hwn ond ni ddylai’r dull o gladdu achosi niwsans statudol nac o fath arall ac ni ddylai fod mewn man lle gallai lygru cwrs dŵr.  Argymhellir felly y dylid ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd.   Gellir cysylltu â hwy ar 0300 065 3000
  • Argymhellir hefyd eich bod yn holi i sicrhau nad oes cyfamod cyfyngu ar yr eiddo sy’n gwahardd claddu cyrff pobl.  Mae claddu cyn cael tystysgrif marwolaeth a chyn cynnal cwest, os oes angen un, yn drosedd, a dylid dilyn canllawiau’r Swyddfa Gartref ar gyfer claddu’n gywir. 
  • Mae’n rhaid hysbysu’r Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau lle bydd y claddu.  Nid yw claddedigaethau o’r fath wedi eu cofrestru ar y Gofrestr Taliadau Tir Lleol, ond efallai y byddai modd cytuno ar drefn gyda’r Cofrestrydd lle byddai’n rhoi gwybod i staff y Taliadau Tir Lleol unrhyw dro y cleddir corff y tu allan i fynwent reolaidd er mwyn rhoi cofnod ‘Gwybodaeth yn Unig’ yn y gofrestr.  Nid oes fodd bynnag unrhyw ddyletswydd i wneud hyn. 
  • Gallai unrhyw un sy’n prynu eich eiddo yn y dyfodol symud unrhyw gorff neu unrhyw garreg fedd pe ceid trwydded gan yr Ysgrifennydd Gwladol.  
ID: 2404, adolygwyd 22/02/2023