Iechyd Cyhoeddus

Claddu'r Meirw a Chwalu'r Lludw

O dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd i drefnu angladd pan ddaw'n amlwg nad oes gan yr ymadawedig gyfeillion na theulu sy'n gallu gwneud y trefniadau neu fod yn gyfrifol am dalu'r ffioedd sy'n gysylltiedig. 

Gall y Cyngor adennill o ystâd yr ymadawedig neu gan unrhyw un oedd yn gyfrifol am gynnal yr ymadawedig cyn iddo/iddi farw unrhyw gostau a ddaw o drefnu'r angladd ar ffurf dyled sifil y gellir ei hadennill o fewn 3 blynedd. Ar gyfer costau'r angladd y mae'r hawliad cyntaf ar ystâd yr ymadawedig. Nid oes gan y Cyngor bwerau i dderbyn cyfrifoldeb pan fydd trefniadau angladd preifat wedi eu gwneud. 

Gallwn gadarnhau bod yr Angladdau Iechyd Cyhoeddus canlynol wedi'u gweinyddu gan Gyngor Sir Penfro ers 1 Ebrill 2018

 

Dyddiad y farwolaeth

Dyddiad Geni

Man Marwolaeth

Perthynas agosaf

Cyfeiriwyd at Gyfreithiwr y Trysorlys

14/05/2018

16/08/1935 

 Ridgeway Nursing Home, Llawhaden

Yes

No

14/05/2018

11/11/1938

 Ridgeway Nursing Home, Llawhaden

No

No

23/10/2018

N/A Family Registered

Home

Yes

No

19/11/2018

02/09/1965

Home

Yes

No

30/12/2018

30/08/1941

Meadows Home Nursing Home, Johnston

No

No

29/12/2018

14/02/1949

Home

Yes

No

24/03/2018

17/09/1947

Home

Yes

No

09/04/2020

09/10/1962

Home

Yes

No

02/08/2020

23/03/1934

Meadows Home Nursing Home, Johnston

Yes

No

31/01/2021

12/01/1951

Home

Yes

No

22/04/2021

21/07/1978

Home

Yes

No

06/05/2021

13/07/1951

Parc Y Llyn Nursing Home, Ambleston

Yes

No

27/09/2021

12/06/1949

Caldey Grange Residential Care Home, Kilgetty

No

Yes

03/10/2021

11/11/1941

Home

Yes

No

27/09/2021

12/06/1949

Caldey Grange Residential Care Home, Kilgetty

No

No

19/06/2023

Anhysbys

South Pembs Hospital

No

No

10/07/2023

Anhysbys

Home

No

No

Pwy sy'n gyfrifol os bydd rhywun yn marw mewn ysbyty neu gartref gofal?

Os bydd rhywun yn marw mewn ysbyty, neu mewn ambiwlans ar y ffordd i'r ysbyty, cyfrifoldeb yr Awdurdod Iechyd yw trefnu'r gladdedigaeth.

Pan fydd rhywun yn marw yn un o gartrefi'r awdurdod lleol neu mewn llety tros dro, gall y bwrdd iechyd, yr Ymddiriedolaeth GIG neu adran gwaith cymdeithasol yr awdurdod lleol drefnu'r angladd. Gall yr awdurdod sy'n trefnu'r angladd hawlio oddi wrth ystâd yr ymadawedig i adennill y gost o wneud hynny.

Alla'i gladdu un annwyl ar fy nhir fy hun neu dir preifat?  

Mewn mynwentydd y mae claddedigaethau yn digwydd fel arfer. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn dewis cael eu claddu mewn tir preifat, fel tir fferm, coedwig neu erddi preifat. Fodd bynnag, dylid ystyried goblygiadau cymdeithasol bob tro, oherwydd y byddai cymdogion, heb amheuaeth, yn pryderu am unrhyw gladdedigaethau a fyddai'n digwydd yn agos iawn at eu cartrefi. Cofier hefyd y gallai claddu ar dir eiddo effeithio ar ei werth, oherwydd y gallai droi pobl oddi ar ei brynu.

Beth fydd rhaid i mi ei wneud os bydd arnaf eisiau claddu ar fy nhir fy hun neu dir preifat? 

Wrth ystyried claddu ar dir preifat, dylid nodi'r wybodaeth ganlynol:

  • Os yw'r tir o dan sylw yn eiddo i chi, mae'n rhaid i chi edrych ar y gweithredoedd rhag ofn bod cyfyngiadau ar yr hyn y gellir defnyddio'r eiddo ar ei gyfer. 
  • Mae Crwner neu Gofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau yn dosbarthu tystysgrif gwarediad pan gofrestrir marwolaeth. Mae'n rhaid llenwi'r darn datodadwy a'i ddychwelyd i'r Cofrestrydd.
  • Mae'n rhaid rhoi gwybod i'r Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau lle bydd y claddu. Oherwydd mai 5-6 blynedd yn unig y maent yn cadw cofnodion o gladdedigaeth breifat, bydd rhaid creu "Cofrestr Gladdu". Cofnod yw hwn a gedwir gyda gweithredoedd yr eiddo sy'n dangos pwy sydd wedi ei gladdu, lle claddwyd a phryd; oherwydd os gwerthir y tir neu wneud gwaith adeiladu arno, yna bydd rhaid i'r heddlu a phwy bynnag sy'n berchen ar yr eiddo wybod am y safle. Argymhellir ychwanegu newid i'r gofrestrfa dir fel bod cofnod parhaol ar gael ar gyfer prynwyr yn y dyfodol.

Beth yw gofynion penodol claddedigaeth breifat?  

  • Dylai claddedigaethau fod o leiaf 10 metr oddi wrth unrhyw ddraen maes neu ffos sy'n draenio i mewn i gwrs dŵr, 30 metr oddi wrth unrhyw ffynhonnell neu ddŵr sy'n sefyll neu'n llifo ac o leiaf 50 metr oddi wrth unrhyw ffynnon, dyfrdwll neu darddell sy'n cyflenwi dŵr i unrhyw ddiben.
  • Mae'n rhaid i safle'r claddu gydymffurfio â chanllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd oherwydd y gellid datgladdu corff o ganlyniad i fethu â chydymffurfio â'r canllawiau hyn.
  • Nid oes dyfnder lleiaf y dylid claddu corff, er bod argymhelliad y dylai o leiaf 1 metr fod rhwng wyneb yr arch ac wyneb y pridd. Nid oes dŵr i fod yn sefyll yng ngwaelod y bedd wedi ei dorri.
  • Os oes bwriad i osod cofeb ar gyfer y sawl a gleddir, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio gan adran gynllunio'r cyngor ar gyfer codi'r gofeb oherwydd bod y gyfraith gynllunio genedlaethol yn ystyried unrhyw gofeb yn adeilad. Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd angen caniatâd cynllunio ar yr amod na fyddai cofeb sylweddol yn cael ei chodi. Nid yw'n debygol yr ystyrid tir lle mae un wedi ei gladdu yn fynwent ond gallai hyn newid pe cleddid dau neu ragor yr un modd.
  • Wedi claddu'r gweddillion, ni cheir aflonyddu arnynt na'u symud heb awdurdod. Nid oes unrhyw sicrwydd y byddai perchnogion yr eiddo yn y dyfodol yn caniatáu i gladdedigaeth orwedd mewn hedd a gallent wneud cais am drwydded datgladdu gan y Swyddfa Gartref. Hefyd, gallai perchnogion yn y dyfodol wrthod mynediad i berthnasau sy'n dymuno dangos parch ar lan y bedd.

Beth yw'r gyfraith ynghylch chwalu'r lludw?  

Yn wahanol i gladdedigaethau ac ail-gladdedigaethau, nid oes deddf ynghylch chwalu'r lludw. Y cwbl y mae'n rhaid i chi ei wneud yw sicrhau bod gennych ganiatâd perchennog y tir lle mae'r lludw i'w chwalu a sicrhau nad oes cyrsiau dŵr gerllaw na chynefinoedd bywyd gwyllt sensitif y gellid amharu arnynt.

Fel arfer, wrth chwalu lludw, ni ddylech: -

  • Chwalu lludw o fewn 1 cilometr lan yr afon o unrhyw gyflenwad dŵr yfed.
  • Chwalu lludw lle defnyddir y dŵr i ddibenion masnach, amaeth neu hamdden, megis marina.
  • Ei wneud oddi ar bont dros afon a ddefnyddir gan gychod neu ganŵau.
  • Ei wneud unrhyw le ar bwys pysgotwyr.
  • Cynnal defodau os yw'n wyntog neu ar bwys adeiladau oherwydd bod perygl y gellid chwythu'r lludw o gwmpas. Dylech daenu'r lludw mor agos at wyneb y dŵr ag y bo'n bosibl o fewn rheswm.
  • Gadael i bethau eraill nad ydynt yn gallu pydru, fel torchau a bagiau plastig fynd i'r dŵr.

Wrth chwalu lludw, ystyriwch yr adeg o'r dydd. Argymhellir gwneud ben bore neu fin nos ac ystyried pobl sy'n mynd heibio neu ar bwys y fan.   

ID: 2379, adolygwyd 09/11/2023