Iechyd Cyhoeddus

Coelcerthi

Beth sy’n bod ar Goelcerthi?

Llygru’r Aer

Mae llosgi gwastraff yr ardd yn gwneud mwg yn enwedig os yw’n llaith ac yn mudlosgi. Bydd hyn yn cynnwys llygrwyr yn cynnwys carbon monocsid, diocsinau a gronynnau. Mae llosgi plastig, rwber neu ddefnyddiau wedi eu paentio nid yn unig yn creu arogl annifyr ond mae hefyd yn cynhyrchu nifer o wahanol gyfansoddion gwenwynig.

Effeithiau ar Iechyd

Mae gollyngiadau o goelcerthi yn gallu amharu ar iechyd. Mae niwed difrifol yn anhebygol os bydd rhywun yn y mŵg am gyfnod byr yn unig. Fodd bynnag gall problemau ddigwydd i bobl ag asthma, rhai sy’n dioddef gyda llid y frest, pobl gyda rhyw gyflwr ar y galon a phlant.

Annifyrrwch

Mae awdurdodau lleol yn derbyn llawer o gwynion am fwg, duon a gwynt drwg o goelcerthi. Mae mŵg yn rhwystro eich cymdogion rhag mwynhau eu gerddi, agor y ffenestri neu ddodi dillad mas ar y lein, ac mae’n ei gwneud yn anoddach i weld yn y gymdogaeth ac ar yr heolydd. Mae gerddi ar osod ar bwys cartrefi yn gallu achosi problemau arbennig os bydd deiliaid y lleiniau yn mynnu llosgi gwastraff yn gyson.

Diogelwch

Mae tân yn gallu ymledu i ffensys neu adeiladau a deifio coed a phlanhigion. Mae poteli a thuniau yn ffrwydro yn gallu bod yn beryglus wrth losgi sbwriel. Yn aml, bydd anifeiliaid yn llechu mewn pentyrrau o wastraff gerddi, felly gwyliwch am fywyd gwyllt yn gaeafu ac anifeiliaid anwes yn cysgu.

Adrodd am Broblem Tân Gwylly (yn agor mewn tab newydd)

Os yw’r goelcerth yn beryglus ffoniwch y frigâd dân neu’r heddlu ar 999. Peidiwch â chwblhau’r ffurflen hon.

Beth arall sydd i’w wneud yn lle llosgi?

Compostio

Yn hytrach na llosgi gwastraff eich gardd, gall gwastraff pren gael ei rwygo a’i wneud yn addas at gompostio neu daenu.

Gwasanaeth Gwastraff Gardd

Mae Cyngor Sir Penfro yn cynnig casgliad Gwastraff Gardd bob pythefnos, tanysgrifiad yn unig, gan ddefnyddio biniau olwynion. Bydd y gwasanaeth yn rhedeg rhwng yr wythnos y mae 1 Mawrth yn glanio a’r wythnos y mae 30 Tachwedd yn glanio, yn gynhwysol.

Tanysgrifio i’r Gwasanaeth Gwastraff Gardd

Gwasanaeth Gwastraff Swmpus

Y mae’r casgliad o wastraff swmpus yn cael ei gyflawni ar ein rhan gan Frame, mudiad elusennol lleol.

Gall ceisiadau am y gwasanaeth gael eu cwblhau drwy lenwi’r ffurflen Ffurflen Casgliad Gwastraff Swmpus drwy ‘Fy Nghyfrif’ ar eich cyfrif Cyngor ar-lein.

Tipio Anghyfreithlon

Nid yn unig mae tipio anghyfreithlon yn anharddu'r tirlun, ond os aiff ar dân gall achosi gwir ddifrod i’r amgylchedd ac eiddo.

Adrodd Tipio Anghyfreithlon (yn agor mewn tab newydd)

Coelcerthi a’r Gyfraith

Camsyniad cyffredin yw bod deddfau lleol penodol sy’n gwahardd coelcerthi mewn gerddi neu’n nodi amserau penodol pryd y gellir eu cynnau. Nid oes. Fodd bynnag, os yw cymydog yn achosi niwsans trwy logi sbwriel mae’r gyfraith o’ch plaid chi. Yn unol â Deddf Gwarchod yr Amgylchedd (DGA) 1990, mae niwsans statudol yn cynnwys ‘mŵg, tarth neu nwyon sy’n dod o adeilad/eiddo mewn modd a allai beryglu iechyd neu’n niwsans’. Yn ymarferol, er mwyn cael ei ystyried yn niwsans statudol, byddai’n rhaid i goelcerth fod yn broblem barhaus, yn amharu’n sylweddol ar eich lles, eich cysur neu eich mwynhad o’ch eiddo. Os yw coelcerth o wastraff diwydiannol/masnachol yn creu mŵg du, rhoddir sylw iddi dan Ddeddf Aer Glân 1993.

Os yw mŵg yn eich poeni ewch at eich cymydog i egluro’r broblem. Efallai y byddwch yn teimlo’n chwithig ond efallai nad ydynt hwy yn ymwybodol o’r boen y maent yn ei hachosi a bydd hynny, gobeithio, yn eu gwneud yn fwy ystyriol yn y dyfodol.

Canllawiau ar gyfer Coelcerthi

Pan fyddwch yn cynnau coelcerth byddwch cystal â dilyn y canllawiau a restrir isod i atal achosi problemau gyda chymdogion neu achosi niwsans difrifol.

  • Llosgwch bethau sych yn unig
  • Peidiwch byth â llosgi gwastraff o’r tŷ, teiars rwber na dim sy’n cynnwys plastig, ewyn neu baent.
  • Peidiwch byth â defnyddio hen oel injan, meths na phetrol i gynnau’r tân nac i roi hwb iddo.
  • Ceisiwch beidio â chynnau tân mewn tywydd anaddas – mae mŵg yn sefyll yn yr aer ar ddyddiau tamp a llonydd a gyda’r hwyr. Os oes gwynt yn chwythu, gall y mŵg chwythu i erddi cymdogion ac ar draws heolydd.
  • Ceisiwch beidio â llosgi pan fydd llawer neu lawer iawn o lygredd yn yr aer yn eich ardal. Fe gewch yr wybodaeth yma gyda rhagolygon y tywydd neu gallwch holi trwy ffonio 0800 556677, neu ar Defra, UK (yn agor mewn tab newydd)
  • Peidiwch byth â gadael tân heb neb yn gofalu amdano na gadael iddo fudlosgi – diffoddwch ef gyda dŵr os bydd rhaid.

 

ID: 2380, adolygwyd 21/11/2023