Iechyd Cyhoeddus
Gwrychoedd Uchel
Os ydych yn meddwl bod gwrych uchel yn amharu ar fwynhad rhesymol o'ch eiddo, cartref neu ardd, efallai y gallech chi wneud cwyn i'r Cyngor, o dan amodau Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, er mwyn datrys y mater.
Beth sy'n gwneud gwrych uchel?
Dyma'r modd y mae'r Ddeddf yn diffinio gwrych uchel:
- Gwrych sydd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn rhes o ddwy neu ragor o goed neu lwyni bytholwyrdd neu led-fytholwyrdd;
- Mae ei uchder yn fwy na 2 fetr;
- Mae'n rhwystro golau neu fynediad i ryw raddau; ac
- Oherwydd ei uchder, mae'n amharu ar ddefnydd a mwynhad rhesymol o eiddo ( sef y tŷ a'r ardd).
Beth ddylwn i ei wneud os bydd gwrych uchel yn peri trafferth i mi?
Pob tro, dim ond os aiff hi i'r pen y dylid cwyno i'r Cyngor. Mae'n rhaid i chi fod wedi ceisio datrys y broblem gyda'r gwrych trwy drafod gyda'ch cymydog cyn mynd at y Cyngor. Fel arall, gellid gwrthod y gwyn.
Felly, byddem yn disgwyl mai'r peth lleiaf un y dylech chi fod wedi ei wneud byddai siarad gyda'ch cymydog ynghylch eich pryderon, eich bod wedi eu gwahodd i ddod at gyfryngwyr annibynnol, a'ch bod wedi ysgrifennu atynt os nad yw trafod wyneb yn wyneb wedi llwyddo neu os nad ydych yn teimlo'n ddiogel yn siarad gyda hwy.
Dylech gadw dyddiadur o bob cysylltiad a gewch chi gyda'ch cymydog a chopïau o bob llythyr sydd wedi ei anfon. Bydd rhaid i'r cyngor weld y cofnodion hyn wrth ystyried eich cais.
Oes rhaid talu am wneud cwyn?
Mae gan y Cyngor ffi benodedig o £320.00 am roi sylw i gwynion am wrychoedd uchel. Mae'n rhaid anfon y ffi hon gyda'r ffurflen gais. Os bydd cwyn wedi ei derbyn heb daliad, bydd yn cael ei dychwelyd ac ni fydd gweithredu pellach.
Gwelwch ein hadran Ffioedd am ragor o wybodaeth.
Oes modd gwrthod fy nghwyn?
Gellir gwrthod cwyn a wneir i'r Cyngor am unrhyw un o'r rhesymau canlynol:
- Mae'r gwyn yn ymwneud ag 1 goeden neu lwyn yn unig,
- Ni chafwyd ffi gyda'r ffurflen gais,
- Mae'r coed neu'r gwrych o dan sylw yn is na 2m,
- Ni fedrwch ddangos eich bod wedi ceisio datrys yr anghydfod ar eich pen eich hun.
- Nid yw'r coed neu'r gwrychoedd o dan sylw yn amharu ar eich mwynhad o'ch eiddo.
- Mae eich cwyn yn ymwneud â difrod gan wreiddiau neu faterion eraill nad ydynt yn gysylltiedig ag uchder y coed neu'r llwyni.
Pan fydd y Cyngor yn gwrthod ceisiadau, bydd yn egluro'r rhesymau tros wrthod eich cwyn. Hefyd, gellid talu cyfanswm neu ran o'r ffi a dalwyd gyda'r cais yn ôl i chi.
Beth fydd y Cyngor yn ei wneud i ddatrys yr anghydfod?
Y peth cyntaf y bydd y Cyngor yn ei wneud fydd penderfynu a yw uchder y coed neu'r gwrychoedd o dan sylw yn amharu ar eich mwynhad rhesymol o'ch eiddo, yn cynnwys yr ardd.
Os bydd y Cyngor yn penderfynu y dylid gweithredu i ddatrys y gwyn, byddant yn cyflwyno rhybudd ffurfiol i'r sawl sy'n gyfrifol am y gwrych, gan egluro'r hyn y mae'n rhaid ei wneud ac erbyn pryd. Gelwir hyn yn hysbysiad adfer. Mae'n debygol y byddai hyn yn cynnwys cadw'r gwrych yn is am gyfnod hir, ond gallai gynnwys torri'r gwrych yn is na 2 fetr, neu gael gwared ag ef.
Ni fydd y Cyngor yn cyfryngu nac yn datrys y gwyn yn anffurfiol. Y cwbl y byddwn yn ei wneud fydd barnu a oes angen gweithredu ffurfiol.
Alla'i apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor?
Os nad ydych yn fodlon ar delerau penderfyniad y Cyngor, mae'n rhaid cyflwyno ffurflen apelio i'r Arolygaeth Gynllunio yng Nghaerdydd cyn pen 28 o ddyddiau wedi i'r Cyngor gyhoeddi ei benderfyniad. Mae gan yr achwynydd a pherchennog y coed yr hawl i apelio yn erbyn telerau penderfyniad y Cyngor.
Beth os methir â chydymffurfio â'r rhybudd?
Byddai methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad adfer yn drosedd. O'i gael/ei chael yn euog mewn Llys Ynadon, gellid dirwyo perchennog y gwrych cymaint â £1,000. Ar ben, neu yn lle dirwy, gallai'r llys hefyd roi gorchymyn i'r troseddwr wneud y gwaith sydd ei angen o fewn cyfnod penodedig o amser. Byddai methu â chydymffurfio â gorchymyn y llys yn drosedd arall, agored i ddirwy arall o £1,000. O'r amser hwnnw ymlaen, gallai'r llys hefyd fynnu dirwy ddyddiol am bob dydd y byddai'r gwaith heb ei wneud.
Os na fydd y gwaith sydd wedi ei nodi yn yr hysbysiad adfer wedi ei wneud, mae gan y Cyngor bwerau i wneud y gwaith ei hun, gan adennill y gost oddi wrth berchennog y gwrych. Ond, nid oes gofyn na rhaid iddynt ymyrryd fel hyn.