Iechyd Cyhoeddus

Niwsans Sŵn

Mae sŵn cymdogion yn niwsans cyffredin. Y prif broblemau yw cŵn yn cyfarth, cerddoriaeth neu deledu swnllyd, gweiddi, drysau’n clepian a gwaith trwsio ac ati yn y tŷ. Cofiwch nad oes yr un tŷ  wedi ei ynysu’n llwyr rhag sŵn – gall pawb ddisgwyl rhywfaint o sŵn gyda’r cymdogion. Fe allai sŵn cymdogion fod yn aflonyddu arnoch chi am y rhesymau canlynol : -

  • Mae’r cymdogion yn ymddwyn yn afresymol, er enghraifft trwy chwarae cerddoriaeth swnllyd yn hwyr gyda’r nos neu ganiatáu i’w ci gyfarth trwy’r dydd. 
  • Mae’r cymdogion yn ymddwyn yn arferol, ond efallai nad yw eich cartref wedi ei ynysu rhag sŵn yn ddigon da i gadw mas sŵn bywyd bob dydd. 
  • Mae sensitifrwydd pobl i sŵn a gwahanol fathau o sŵn yn amrywio – mae seiniau y mae rhai pobl yn eu mwynhau yn gallu bod yn boen i bobl eraill. 

Beth fedrwch chi wneud?

Yn gyntaf, ewch at eich cymydog ac egluro bod sŵn yn eich poeni. Efallai bod hyn yn anodd i chi, ond weithiau nid yw pobl yn ymwybodol eu bod nhw'n achosi problem. Bydd llawer yn fodlon gwneud eu gorau i leihau'r sŵn. Fodd bynnag, ymdriniwch â'r mater yn ofalus os tybiwch y bydd eich cymydog yn ymateb yn flin i gŵyn.

Os yw eich cymydog yn parhau i achosi niwsans:

  • Cysylltwch â'r Cyngor a siaradwch ag Adran Iechyd yr Amgylchedd am gyngor/cymorth.
  • Dechreuwch ysgrifennu dyddiadur i gofnodi dyddiadau am amserau sŵn eithafol, beth yw'r sŵn a'r effaith mae'n ei gael arnoch. Os oes gennych ddyfais glyfar addas gallech ddefnyddio'r Noise App yn hytrach nag ysgrifennu manylion y digwyddiadau. 
  • Ysgrifennwch at eich cymdogion i egluro'r effaith mae'r sŵn yn ei gael arnoch. Gofynnwch iddynt atal y niwsans sŵn, gan gyfeirio at unrhyw sgyrsiau a gawsoch eisoes a beth, os o gwbl, y cytunon nhw ei wneud am y peth.
  • Os yw eich cymdogion yn byw yn eiddo'r Cyngor, cysylltwch â'r Adran Dai. Mae'r mwyafrif o Amodau Tenantiaeth yn gofyn bod tenantiaid ddim yn amharu ar gymdogion; efallai gallwn weithredu os bydd niwsans yn digwydd.  
  • Cofnodwch unrhyw sgyrsiau a gewch neu lythyrau rydych wedi'u hysgrifennu. 

Gweithredu gan y Cyngor

Dan Adran 80 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, mae'n rhaid i ni gymryd "yr holl gamau rhesymol" i archwilio eich cwyn. Efallai byddwn yn ysgrifennu at y person sy'n achosi'r niwsans i ddweud bod cwyn wedi'i dderbyn, ac yn gofyn iddynt gymryd camau i leihau'r sŵn. Os credwn fod  niwsans statudol yn digwydd neu'n debygol o ddigwydd neu'n ailddigwydd mae'n rhaid i ni weithredu. Diffinnir niwsans statudol yn y Ddeddf fel - "sŵn a ddaw o eiddo sy'n niweidiol i iechyd neu'n niwsans".

Os yw'r sŵn yn parhau, bydd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (EHO) neu Swyddog Technegol yn ymweld, yn ddelfrydol ar adeg rydych chi'n disgwyl i'r sŵn ddigwydd, i farnu a yw'r sŵn yn niwsans statudol. Efallai gofynnir i chi recordio'r sŵn, efallai am nad ydynt yn gallu ymweld ar adeg y sŵn, neu yn ychwanegol i'r ymweliad. Bydd hyn yn galluogi'r Swyddog i bennu a yw'r sŵn yn achosi niwsans neu beidio. Gallwch chi recordio'r sŵn ar ôl i Swyddog osod cyfarpar monitro sŵn yn eich cartref, neu drwy ofyn i chi recordio'r sŵn ar eich dyfais glyfar eich hun a'r Noise App os yn addas.

Byddant yn ystyried y math o sŵn, pa mor uchel ydyw, pa mor aml a pha amser mae'n digwydd. Os ydym yn fodlon ei fod yn niwsans statudol gallwn roi hysbysiad i ofyn i'r cymydog atal y niwsans. Os nad yw'r person, heb achos rhesymol, yn cydymffurfio  â'r hysbysiad mae ef neu hi yn euog o drosedd a gellir eu herlyn. Hefyd mae gennym y grym i gymryd ymaith yr offer sy'n achosi'r niwsans sŵn.

Mae EHO yn arbenigwyr ac mae eu barn broffesiynol yn bwysig iawn - os ydyn nhw'n ystyried bod niwans yn bodoli, bydd Ynad fel arfer yn derbyn eu barn. Fodd bynnag, mewn rhai achosion bydd EHO yn ymwybodol o'r effaith mae'r sŵn yn ei gael arnoch, ond ni fydd yn gallu dweud ei fod yn niwsans i'r person "cyffredin".

Rydym yn ystyried problemau sŵn yn ddifrifol a gwnawn ein gorau i helpu. Fodd bynnag, os teimlwch nad ydym yn cyflawni ein dyletswyddau cyfreithiol, gallwch fel cam olaf, wneud cwyn i ombwdsmon yr awdurdod lleol.

Insiwleiddiad Sŵn

Os yw’n ymddangos mai diffyg insiwleiddio rhag sŵn yw’r broblem, mae pethau y gallwch chi wneud eich hun i helpu: mae cyhoeddiad "Improving Sound Insulation in Homes" gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu Taflen rhad ac am ddim (yn agor mewn tab newydd)

Gweithredu ar eich liwt eich hun

Mae rhai mathau o sŵn sy’n digwydd o bryd i’w gilydd neu gyda’r nos.  Os nad oes modd i SIA fod yn dyst iddo efallai na fydd yn teimlo bod modd iddo weithredu ar ran unigolyn sydd wedi cwyno.  Pe byddai hyn yn digwydd gallech weithredu’n annibynnol trwy gwyno’n uniongyrchol i Lys yr Ynadon o dan adran 82 Deddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990.  Mae hyn yn weddol rhwydd ac nid oes rhaid iddo fod yn ddrud; nid oes rhaid i chi gyflogi cyfreithiwr, ond byddai’n well i chi gael cyngor cyfreithiol. 

Cyn mynd at y llys mae’n syniad da i chi ysgrifennu at y sawl sy’n gwneud y sŵn i ddweud os na fydd y sŵn wedi ei atal erbyn rhyw ddyddiad arbennig (e.e. ymhen pythefnos) y byddwch yn cwyno i Lys yr Ynadon.  Cadwch gopi o bob gohebiaeth.  Os bydd y sawl sy’n gwneud y sŵn yn anwybyddu un ai cais ar lafar neu gais ysgrifenedig gennych chi i atal y sŵn, cysylltwch â Swyddfa Clerc yr Ustusiaid yn eich Llys Ynadon lleol i egluro eich bod yn dymuno gwneud cwyn o dan adran 82 Deddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990.  Dylai Clerc y Llys fedru rhoi rhagor o gyngor i chi.  Bydd rhaid i chi roi o leiaf dri diwrnod o rybudd o’ch bwriad i gwyno i Lys yr Ynadon i’r sawl y tybir ei fod yn gyfrifol am y sŵn.  Dylai’r rhybudd roi manylion y gwyn a gellir ei ddanfon trwy law neu drwy’r post.  Gall cyfreithiwr wneud hyn ar eich rhan (bydd llythyr cyfreithiwr yn dangos eich bod o ddifrif).  Bydd rhaid i chi brofi i’r ynad, y tu hwnt i amheuaeth resymol, bod y sŵn yr ydych yn cwyno amdano yn gyfystyr â niwsans.  Bydd y dyddiadur yr ydych yn ei gadw yn dystiolaeth bwysig.  Er bod y gyfraith yn dweud mai un person yn unig sy’n gorfod dioddef er mwyn i niwsans fodoli, yn ymarferol bydd tystiolaeth tystion eraill yn cryfhau eich hawliad. 

Bydd dyddiad yn cael ei bennu ar gyfer y gwrandawiad a bydd y person yr ydych yn cwyno amdano yn cael ei wysio i’r Llys.  Bydd rhaid i chi egluro eich problem a chyflwyno tystiolaeth o’r aflonyddiad.  Bydd rhaid i chi roi eich tystiolaeth eich hun a chroesholi’r tyst sy’n eich cefnogi i dynnu eu tystiolaeth mas.  Bydd y cymydog yn gallu eich croesholi chi a’ch tyst a gall gyflwyno ei dystiolaeth ei hun.  Bydd cyfreithiwr yn helpu, ond gallwch weithredu ar eich liwt eich hun.  Mae’r gyfraith ynglŷn ag adeiladau/eiddo busnes ychydig yn wahanol: maent yn gallu amddiffyn eu hunain trwy brofi eu bod yn defnyddio’r “modd ymarferol gorau” i atal y sŵn.  

Os byddwch yn profi eich achos bydd y Llys yn gwneud gorchymyn sy’n mynnu bod y sŵn yn cael ei atal, a/neu wahardd i’r sŵn ailddigwydd.  Mae ganddo hefyd y grym yr adeg y gwneir y gorchymyn niwsans i ddirwyo’r diffinydd (hyd at £5,000 ar hyn o bryd).  Os anwybyddir y gorchymyn hwn, bydd angen rhagor o weithredu gan y Llys; bydd rhaid felly i chi barhau i gadw cofnodion o’r niwsans sŵn rhag ofn y bydd rhaid dychwelyd i’r Llys.  Os byddwch yn methu â phrofi eich achos efallai bydd rhaid i chi dalu rhai o gostau’r diffinydd o ddod i’r Llys.  

A oes rhywbeth arall y gellid ei wneud yn lle mynd i gyfraith? 

Dim ond os daw hi i’r pen y dylid mynd i gyfraith.  Mae’n annifyr ac mae’n anochel y bydd yn suro rhagor ar eich perthynas gyda’ch cymydog.  Mae’n bwysig iawn eich bod yn gwneud eich gorau i ddatrys y broblem yn gyfeillgar.  Mewn rhai ardaloedd mae gwasanaethau canoli sy’n gallu eich helpu chi i ddatrys problemau gyda sŵn cymdogion.  I ddarganfod a oes un yn eich ymyl chi, cysylltwch â : -

Mediation UK
Alexander House
Telephone Avenue 
Bryste / Bristol
BS1 4BS. 
Ffôn. 0117 904 6661.

Mae’r Rhwydwaith Sŵn / Noise Network hefyd yn gallu cynnig cyngor a gwybodaeth ynglŷn â sŵn cymdogion: 

Y Rhwydwaith Sŵn / Noise Network
Blwch SB / PO Box 968
Llundain / London
SE2 9RL.
Ffôn: 01923 664500 (ymgynghoriaeth wedi ei brisio)

Cyngor ar Swn (yn agor mewn tab newydd)

I gael rhagor o wybodaeth, neu wneud cwyn ynglŷn â sŵn, mae croeso i chi gysylltu â ni ar: 

Ffôn: (01437) 764551  

 
ID: 2383, adolygwyd 21/11/2023