Iechyd Cyhoeddus
Yr Ap Sŵn
Mae ap sŵn yn ffordd hawdd a chyflym i recordio sŵn sy'n achosi dicter neu niwsans. Fel arfer, byddai Swyddogion Tai neu Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd yn danfon taflenni dyddiadur at gwsmeriaid fel rhan o ymchwiliad sŵn. Ar ôl i'r taflenni dyddiadur gael ei llenwi a'i dychwelyd, byddai apwyntiad yn cael ei drefnu a byddai swyddog yn mynd i dŷ'r cwsmer a gosod mesurydd sŵn.
Erbyn heddiw, gallwch lawrlwytho'r Ap Sŵn a dechrau recordio'r sŵn sy'n creu trafferth yn syth. Mae'r recordiadau yn cael eu llwytho'n syth i wefan ddiogel lle mae gan Swyddogion y Cyngor fynediad iddo a gallant lunio barn gyflym o'r sŵn a pha gamau sydd angen eu gweithredu. Gallwch wneud cymaint o recordiadau a fynnwch gyda phob recordiad yn parhau am 30 eiliad.
Noder: bydd angen dyfais ‘clyfar' arnoch i ddefnyddio'r ap a bydd mynediad byd eang i'r rhyngrwyd yn well na defnyddio lwfans data'r ddyfais ‘clyfar'.
Sut i ddechrau defnyddio'r Ap
Cyn lawrlwytho'r Ap, cysylltwch â'n Canolfan Gyswllt os gwelwch yn dda ar 01437 764551 a gofynnwch am gael siarad ag un o'n Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd. Byddant yn medru cymryd eich manylion a neilltuo Swyddog Ymchwilio.
Cam 1
Lawrlwythwch yr Ap o The Noise App website (yn agor mewn tab newydd) neu chwiliwch am ‘The Noise App RHE' yn ‘Google Play' neu'r ‘Apple App Store'.
Cam 2
Crëwch gyfrif a dewiswch ‘Pembrokeshire County Council' fel eich darparwr gwasanaeth i ymchwilio eich adroddiadau sŵn.
Cam 3
I gofnodi niwsans, tapiwch yr eicon, gwnewch recordiad 30 eiliad o'r sŵn, llenwch ffurflen a chyflwynwch eich adroddiad ar-lein.
Cam 4
Arhoswch am ymateb wrthym ni.
Byddwch yn ymwybodol bod yr holl recordiadau yn cynnwys stamp GPS sy'n galluogi'r swyddogion i fod yn ymwybodol o'ch lleoliad pan fyddwch yn gwneud recordiad, a bod yr holl recordiadau yn cario stamp dyddiad ac amser.
Methu defnyddio'r Ap?
Os nad oes gennych ddyfais ‘clyfar' gallwch ddweud am faterion sŵn ar-lein drwy fynd i ‘My Account' - Eich cyfrif Cyngor Ar-lein.