Iechyd Porthladd

Iechyd Porthladd

Mae Cyngor Sir Penfro yn Awdurdod Iechyd Porthladd oherwydd bod Ardal Iechyd Porthladd Aberdaugleddau yn gorwedd o fewn ardal y Cyngor. Mae Porthladdoedd Aberdaugleddau ac Abergwaun hefyd wedi'u dynodi yn "Bwyntiau Mynediad" ar gyfer mynediad neu ymadawiad rhyngwladol i deithwyr, cargo, cynwysyddion ac ati, o dan Reoliadau Iechyd Rhyngwladol 2005.

Mae'r Tîm Iechyd Porthladd yn gyfrifol am:

  • Gynnal archwiliadau o longau sy'n ymweld â phorthladdoedd Sir Benfro
  • Ymchwilio i adroddiadau o glefydau heintus, anifeiliaid anghyfreithlon neu gyflwr hylendid gwael ar longau o'r fath 
  • Cymeradwyo ac archwilio llongau ffatri (prosesu pysgod)
  • Samplu a monitro ardaloedd cynaeafu pysgod cregyn dynodedig yn rheolaidd
  • Ymchwilio i gwynion am niwsans statudol sy'n digwydd o fewn yr Ardal Iechyd Porthladd

Cysylltwch â ni: Tîm Iechyd Porthladd

Drwy'r post:  Isadran Diogelu'r Cyhoedd
                     Cyngor Sir Penfro
                     Neuadd y Sir 
                     Hwlffordd
                     Sir Benfro
                     SA61 1TP

Drwy e-bost: porthealth@pembrokeshire.gov.uk 
Dros y ffôn:  01437 776389/90 
Oriau gwaith:  08.00 - 19.00 bob dydd 
Cyswllt y tu allan i oriau gwaith: 0845 6015522  

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn

ID: 2932, adolygwyd 22/02/2023