Iechyd Porthladd
Cymeradwyo Llongau Ffatri a Rhewi
Pryd mae angen i longau gael eu cymeradwyo?
Caiff mathau penodol o longau pysgota ble caiff pysgod eu prosesu a/neu'u rhewi ar fwrdd y llong eu dosbarthu naill ai'n ‘llongau ffatri' neu'n ‘llongau rhewi' a bydd angen iddynt gael eu cymeradwyo gan Gyngor Sir Penfro.
Mae llongau ffatri yn golygu llongau ble y gwneir un neu ragor o'r gweithgareddau canlynol i gynnyrch pysgod gan eu lapio neu'u pecynnu wedi hynny ac, os oes angen, eu hoeri neu'u rhewi:
- Ffiledu
- Sleisio
- Tynnu'r croen
- Tynnu'r cregyn
- Plicio
- Malu, neu
- Brosesu
Mae llongau rhewi yn golygu llongau ble y rhewir cynnyrch pysgod arnynt, yn dilyn gwaith paratoadol, os yw'n briodol, megis gwaedu, diberfeddu a gwaredu pennau ac esgyll ac, os bydd angen, eu lapio neu'u pecynnu wedi hynny.
Mae gofyn i longau o'r fath gael cymeradwyaeth ble bynnag y maent yn pysgota ac yn dod â'r ddalfa i'r lan, cyhyd ag y bwriedir mynd â'r cynnyrch pysgod i farchnadoedd o fewn yr UE. Mae Awdurdodau Lleol yn y DU yn gyfrifol am gymeradwyo llongau o'r fath os ydynt wedi'u cofrestru yn y DU. Dylai llongau sydd wedi'u cofrestru yng ngwledydd eraill yr UE gael eu cymeradwyo gan awdurdodau perthnasol yn y gwledydd hynny.
Bydd Cyngor Sir Penfro yn cymeradwyo llongau o'r fath sydd wedi'u cofrestru yn y DU os mai yn gyfnodol yn unig y maent yn ymweld â Phorthladd Aberdaugleddau. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i swyddogion o'r Tîm Iechyd Porthladd gynnal archwiliadau cyfnodol er mwyn sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth berthnasol.
A oes unrhyw gategori o longau sydd wedi'u heithrio rhag eu cymeradwyo?
Dim ond llongau a gaiff eu hystyried yn ‘llongau ffatri' neu'n ‘llongau rhewi', fel y'u diffinnir uchod, sydd angen eu cymeradwyo. Nid oes angen i longau pysgota sy'n dod â'u dalfa i'r lan yn ddyddiol, neu sy'n pacio pysgod mewn rhew yn syml, gael eu cymeradwyo.
Beth yw ystyr cymeradwyaeth?
Rhoddir Rhif Adnabod i longau cymeradwy sy'n unigryw i'w gweithrediad hwy. Bydd yn rhaid iddynt ddarparu'r wybodaeth hon drwy osod Nod Adnabod ar labeli'u cynnyrch. Ledled Ewrop, caiff y nod adnabod ei dderbyn yn arwydd bod y cynnyrch wedi'i gynhyrchu mewn safle a gymeradwywyd o dan ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd
Rhaid i longau cymeradwy gydymffurfio â'r un ddeddfwriaeth sy'n gymwys ar gyfer pob busnes bwyd, ond rhaid ateb gofynion ychwanegol yn dibynnu ar y cynnyrch penodol yr ymdrinnir ag ef.
Sut mae gwneud cais am gymeradwyaeth?
Drwy lenwi'r ffurflen gais berthnasol. Nid oes ffi am wneud cais am gymeradwyaeth. Rhaid cwblhau a llofnodi'r ffurflen gais a'i hanfon i'r Tîm Iechyd Porthladd yn y cyfeiriad hwn:
Tîm Iechyd Porthladd
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi anfon ffurflen gais am gymeradwyaeth?
Os gwneir cais am gymeradwyaeth, bydd swyddog o'r Tîm Iechyd Porthladd yn cysylltu gydag asiant y llong i drefnu archwiliad. Bydd yn rhaid cynnal archwiliad o'r llong er mwyn sicrhau ei bod yn cydymffurfio â gofynion strwythurol, gweithredol a rheoli diogelwch bwyd y ddeddfwriaeth berthnasol.
Os bydd popeth yn ateb y gofynion, caiff y llong ei chymeradwyo a rhoddir Rhif Adnabod cysylltiedig. Fel arall, bydd y swyddog archwilio yn pennu natur a maint y gwaith sydd angen ei wneud er mwyn cyrraedd meini prawf cymeradwyaeth a bydd yn esbonio hynny wrth y perchennog/asiant. Mewn amgylchiadau penodol, gellir rhoi ‘cymeradwyaeth amodol' am gyfnod o hyd at 3 mis er mwyn gwneud gwaith. Mewn amgylchiadau penodol gall yr Adran wrthod y cais am gymeradwyaeth hefyd. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae gan y perchennog/asiant yr hawl i apelio i Lys Ynadon.