Iechyd Porthladd

Dosbarthiad Pysgod Cregyn

Mae Ardal Iechyd Porthladd Aberdaugleddau'n cynnwys rhyw 30 milltir o ddyfroedd aberol yn bennaf. O fewn yr ardal hon mae llawer o welyau pysgod cragen sy'n cael eu cynaeafu'n fasnachol o bryd i'w gilydd.

Mae'r Tîm Iechyd Porthladd yn monitro'r gwaith o gynaeafu cocos, wystrys, cregyn gleision a molysgiaid deufalf eraill, i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau priodol o ran prosesu er mwyn atal salwch i ddefnyddwyr. Mae gan y tîm hefyd gyfrifoldeb dros fonitro unrhyw waith cynaeafu  pysgod cregyn ar hyd holl arfordir Sir Benfro, sydd oddeutu 190 o filltiroedd o hyd. 

Er mwyn cael dosbarthu ardal newydd ar gyfer rhywogaeth arbennig o feddalogion dwygragennog byw, rhaid gwneud cais i Gyngor Sir Penfro a'r Asiantaeth Safonau Bwyd.

Bydd yr Awdurdod wedyn yn ymgynghori â phobl berthnasol sydd â diddordeb cyn cychwyn ar y rhaglen samplu.  Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ‘dynodi' yr ardal ar argymhelliad CEFAS (Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu) ar ôl iddynt dderbyn data digonol ynghylch ansawdd y dŵr a'r pysgod cregyn yn y safle.  Gall gymryd hyd at 6 mis rhwng cychwyn a gorffen.

Caiff dogfennau cofrestru eu cyhoeddi ar gais i bysgotwyr masnachol sydd eisiau cynaeafu meddalogion dwygragennog byw o safleoedd dynodedig, er mwyn iddynt allu cludo eu daliad i weithfeydd prosesu. I ofyn am ddogfennau cofrestru, cysylltwch â thîm Iechyd y Porthladd.

Mae Cyngor Sir Penfro yn aelod o Grŵp Gweithredu Lleol De-orllewin Cymru a sefydlwyd yn 2007 o dan fesurau a gyflwynwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer Dosbarthiad Hirdymor yr Ardaloedd Cynaeafu Pysgod Cregyn Dynodedig.  Mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o amryw asiantaethau perthnasol yn ogystal â chynrychiolwyr o'r diwydiant pysgod cregyn.

Mae gan y Grŵp Gynllun Gweithredu Lleol a roddir ar waith pan gyrhaeddir cyrraeddnodau o ran halogiad. Ceir tair haen o ymateb, yn dibynnu ar lefel y bacteria E.Coli a ganfyddir mewn samplau monitro cnawd pysgod cregyn. Mae ymateb Haen 1 yn cychwyn ar ymchwiliad bach, a byddai ymchwiliad Haen 3 yn llawer helaethach a gallai arwain at gau'r ardal cynaeafu cregyn pysgod dan sylw. Rhennir gwybodaeth gan aelodau'r Grŵp Gweithredu er mwyn sicrhau cysondeb.

Mae Cyngor Sir Penfro hefyd yn gyfrifol am fonitro ansawdd y dŵr a'r pysgod cregyn o ran biotocsinau algaidd.  Caiff samplau o bysgod cregyn a dŵr a gesglir gan swyddogion Iechyd Porthladd eu hanfon i labordai CEFAS yn Weymouth a Lowestoft i'w dadansoddi er mwyn canfod tocsinau Gwenwyn Amnesig Pysgod Cregyn (ASP), Gwenwyn Dolur Rhydd Pysgod Cregyn (DSP) a Gwenwyn Parlysol Pysgod Cregyn PSP).  Os bydd lefelau uwch na therfynau gweithredu diffiniedig o'r tocsinau hyn yn bresennol yng nghnawd pysgod cregyn, gallai achosi salwch a marwolaeth ymysg defnyddwyr y cynhyrchion hyn.

Felly mae gan Gyngor Sir Penfro y grym i gau unrhyw welyau pysgod cregyn yr effeithiwyd arnynt er mwyn diogelu defnyddwyr posibl.  Cysylltwch â'r Tîm Iechyd Porthladd i gael rhagor o wybodaeth am statws cyfredol gwelyau'r pysgod cregyn yn Sir Benfro.  

ID: 2945, adolygwyd 17/02/2023