Iechyd Porthladd
Rheoli Amgylcheddol
Mae dyletswydd ar Gyngor Sir Penfro i orfodi darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, ac mae'r Tîm Iechyd Porthladd yn gweithredu yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer aelodau'r cyhoedd a busnesau o ran niwsans statudol a llygredd sy'n codi yn yr Ardal Iechyd Porthladd.
Mae'r Tîm Llygredd Masnachol sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, yn cynnig cymorth i'r Tîm Iechyd Porthladd ar faterion o'r fath, a hefyd yn gyfrifol am ymchwilio i faterion sy'n codi y tu allan i ardal y porthladd.
Mae hysbysiadau a chwynion cyffredin a dderbynnir gan y Tîm Iechyd Porthladd yn cynnwys:
- niwsans sŵn o'r llongau sy'n defnyddio Dyfrffordd Aberdaugleddau
- mwg o longau ar y ddyfrffordd
- tipio/dympio anghyfreithlon yn ardal y porthladd
Llygredd Dŵr
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am gynnal neu wella ansawdd dŵr croyw, dŵr y môr, dŵr wyneb a dŵr thanddaearol yng Nghymru. Yn aml, fodd bynnag, Tîm Iechyd y Porthladd yw'r pwynt cyswllt cyntaf i'r cyhoedd a diwydiant mewn perthynas â materion o'r fath yn Ardal Iechyd Porthladd Aberdaugleddau. Bydd y tîm yn cydweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn archwilio a datrys problemau'n ymwneud â llygredd dŵr yn yr ardal.
Gwastraff Arlwyo o Longau
Mae gwastraff arlwyo o longau sy'n cyrraedd i'r DU yn amodol ar reolaethau a chyfyngiadau penodol.
Dylai fod gan borthladdoedd gyfleusterau wedi'u cymeradwyo gan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA) ar gyfer derbyn gwastraff o longau.
Rhaid i'r holl Wastraff Arlwyo Rhyngwladol (ICW) gael ei wahanu oddi wrth wastraff cyffredinol a'i gadw'n ddiogel mewn cynhwysydd hawdd ei adnabod ac wedi'i labelu "Category 1 Animal By-Product for disposal only". Os yw wedi'i gymysgu gyda gwastraff arall, rhaid ymdrin â'r gwastraff cyfan fel ICW. Rhaid cludo'r gwastraff hwn i safle gwaredu cymeradwy mewn cynwysyddion penodol di-ollwng wedi'u gorchuddio. Mae'r Tîm Iechyd Porthladd, ar y cyd â swyddogion o'r Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol, yn gyfrifol am sicrhau y caiff ICW ei waredu yn gywir, a chynnal gwiriadau rheolaidd er mwyn sicrhau y caiff ICW ei drin a'i waredu yn unol â deddfwriaeth berthnasol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am ICW ar wefan DEFRA.