Iechyd Porthladd

Rheoli Clefydau Heintus

Mae dyletswydd ar Gyngor Sir Penfro i reoli clefydau heintus o fewn ei ardal.

Gall clefydau heintus megis gwenwyn bwyd, SARS, Twbercwlosis a Norofeirysau gael eu lledaenu gan griwiau a theithwyr ar longau, a gallant ddod i mewn i'r DU drwy'i phorthladdoedd. 

Gwaith y Tîm Iechyd Porthladd yw ymchwilio i achosion tybiedig ac achosion wedi'u cadarnhau o glefydau heintus yn ardaloedd y Porthladdoedd.

Rhaid i gapteiniaid llongau sy'n cyrraedd porthladd yn Sir Benfro (Aberdaugleddau, Penfro neu Abergwaun) hysbysu'r Tîm Iechyd Porthladd o glefyd neu salwch tybiedig ar fwrdd y llong cyn dod i mewn i'r porthladd fel y gellir sicrhau bod trefniadau digonol yn eu lle er mwyn rhoi cymorth a/neu gyngor meddygol i unrhyw griw neu deithwyr sâl, ac er mwyn rheoli'r risg o glefydau heintus yn effeithio ar y boblogaeth leol.

 

Mae   yn rhoi arweiniad pellach a manylion cyswllt mewn argyfwng. Rhaid cwblhau 'Datganiad Iechyd Morol' hefyd pan fydd angen cyflwyno adroddiad.

ID: 2933, adolygwyd 17/02/2023