Ieuenctid Sir Benfro
Codi Llais - Gweithdrefn Cwynion a Phryderon Gwasanaeth Ieuenctid Penfro
Os nad ydych chi'n hapus ar y ffordd rydych chi wedi cael eich trin neu am rywbeth sydd wedi digwydd gyda Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro, mae gennych chi'r hawl i godi eich pryder neu gŵyn. Byddwn yn parchu eich hawl i gyfrinachedd a byddwn ond yn trosglwyddo gwybodaeth i bobl eraill a allai fod yn delio â'ch cwyn/pryder neu os oes rhaid i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Bydd eich cwyn neu bryder yn cael ei gofnodi a byddwn yn cydnabod eich pryder/cwyn yn ffurfiol o fewn pum diwrnod gwaith ac yn rhoi gwybod i chi sut rydym yn bwriadu delio ag ef. Os yw'r gŵyn yn ymwneud â rhywun y tu allan i'r Gwasanaeth Ieuenctid, byddwn naill ai'n anfon y gŵyn ymlaen at Gwynion Corfforaethol Cyngor Sir Penfro neu byddwn yn cefnogi gwneud cwyn yn uniongyrchol.
Gwahaniaeth rhwng pryder a chwyn
Pryder yw pan fydd rhywbeth yn teimlo'n anghywir neu'n ofidus, ac rydych chi eisiau i rywun wybod amdano. Efallai nad ydych chi'n siŵr beth sy'n digwydd, ond nid yw'n teimlo'n iawn.
Cwyn yw pan fyddwch chi'n teimlo bod rhywun wedi gwneud rhywbeth o'i le ac rydych chi eisiau i’r mater gael ei ymchwilio ac ymateb iddo’n briodol.
Diogelu
Os ydych chi'n teimlo bod hwn yn argyfwng diogelu ac mae angen i chi siarad â rhywun ar unwaith, mae angen i chi neu oedolyn dibynadwy ffonio:
-
Tîm Asesu Gofal Plant: 01437 776444 (o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 5pm)
-
Tîm Diogelu Oedolion: 01437 776056 (o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 5pm)
-
Tîm Dyletswydd Argyfwng y Gwasanaethau Cymdeithasol: 0300 123 5519 (5pm i 9am, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 24 awr dydd Sadwrn, dydd Sul, a gwyliau banc)
Yr heddlu:
-
Mewn argyfwng, ffoniwch 999
-
Pan nad yw’n argyfwng: 101
Dull Sy'n Seiliedig ar Hawliau
Credwn fod gan bob unigolyn ifanc yr hawl i fod yn ddiogel, i gael ei glywed, ac i fod yn rhan o benderfyniadau am ei fywyd.
-
Erthygl 12 – yr hawl i fynegi barn yn rhydd.
-
Erthygl 19 – amddiffyn rhag niwed.
-
Erthygl 3 – budd gorau'r plentyn yw’r prif ystyriaeth.
Gweithdrefn
-
Mae gennych bryder - Mae gan bob unigolyn ifanc yr hawl i gwyno neu godi pryder i'r gwasanaeth ieuenctid
-
Codwch y broblem gyda gweithiwr ieuenctid - Rhowch wybod i weithiwr bod gennych gŵyn neu bryder. Byddwn yn ceisio datrys y broblem ar unwaith
-
Gwneud cwyn - Cwblhewch Ffurflen Gwynion a Phryderon Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd), byddwn yn ymateb o fewn pum diwrnod gwaith
-
Ymchwiliad - Bydd rheolwr neu uwch aelod o staff yn ymchwilio, byddwch yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf
Pan fyddwch chi’n cyflwyno’r ffurflen hon, ni fydd yn casglu eich manylion megis enw a chyfeiriad e-bost yn awtomatig oni bai eich bod chi’n eu darparu eich hun.
Rwy'n deall, drwy gwblhau’r ffurflen hon, y bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw ar system Gwasanaeth Ieuenctid yn unol â'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Am ragor o wybodaeth e-bostiwch: speakup@pembrokeshire.gov.uk