Ieuenctid Sir Benfro
Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc
Mae'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn Sir Benfro yn arwain ar y gwaith o gyflawni Cyfranogiad a Hawliau Plant a Phobl Ifanc ar gyfer Cyngor Sir Penfro.
Mae'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) i sefydliadau, gwasanaethau, gweithwyr proffesiynol ac i blant a phobl ifanc.
Mae'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn hwyluso sawl darn o waith ar draws y sir. Mae'r rhain yn cynnwys prosiectau ieuenctid a fforymau ieuenctid mewn cymunedau, Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro a grwpiau diddordeb arbennig. Mae'r gwaith hwn yn galluogi pobl ifanc i ddweud eu dweud am y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw ac mae hefyd yn eu galluogi i gymryd rhan weithredol yn eu cymuned a dylanwadu ar benderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol.
Mae'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn Sir Benfro yn arwain y gwaith o gyflawni cyfranogiad a hawliau plant a phobl ifanc yn Sir Benfro. Rôl y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc yw cyflawni'r canlynol:
- Sicrhau bod gan bobl ifanc o Sir Benfro lais cenedlaethol a'u bod yn rhan o rwydwaith cenedlaethol i ddylanwadu ar newid.
- Hwyluso cynulliad ieuenctid rhagweithiol gan sicrhau bod pobl ifanc o bob rhan o'r sir yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.
- Hwyluso a chefnogi rhwydwaith o gynghorau ieuenctid cymunedol a grwpiau diddordeb arbennig i sicrhau bod ystod amrywiol o bobl ifanc yn Sir Benfro yn cael eu cynrychioli.
- Ymrwymo Sir Benfro i CCUHP
- Datblygu a darparu hyfforddiant i bobl ifanc ac oedolion.
- Gweithio ar brosiectau sy'n bwysig i bobl ifanc e.e. Pleidleisiau yn 16 oed, diogelu, yr amgylchedd, banc ieuenctid ac ati.
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch: CYPRO@pembrokeshire.gov.uk
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc ar:
- Tudalen Facebook y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc (yn agor mewn tab newydd)
- Tudalen Instagram y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc (yn agor mewn tab newydd)
- Tudalen Twitter y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc (yn agor mewn tab newydd)
Fforymau Ieuenctid
Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro
Mae Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro yn fforwm ieuenctid ledled y sir sy’n cynnwys dau gynrychiolydd o bob ysgol, grŵp diddordeb arbennig a fforwm ieuenctid yn Sir Benfro. Mae’r grŵp yn cyfarfod unwaith y mis i ddod at ei gilydd i drafod materion a phynciau sy’n effeithio ar bobl ifanc yn Sir Benfro.
Gwaith Cenedlaethol
TMae'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc hefyd yn cefnogi'r gwaith cenedlaethol sy'n digwydd ac yn cefnogi pobl ifanc i fod yn rhan o fforymau ieuenctid cenedlaethol. Mae hyn yn caniatáu i lais pobl ifanc gael ei glywed a'i ystyried ar lefel genedlaethol.
Banc Ieuenctid Sir Benfro
Mae banc Ieuenctid Sir Benfro yn cynnwys panel o bobl ifanc sy’n dod at ei gilydd i ystyried ceisiadau gan brosiectau sy’n cael eu harwain gan bobl ifanc o fewn y gymuned. Gall y bobl ifanc sy'n rhan o banel y Banc Ieuenctid benderfynu pa brosiectau y gellir rhoi arian iddyn nhw. Gall prosiectau sy'n digwydd mewn ardaloedd lleol sy'n cael eu harwain gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, wneud cais am hyd at fil o bunnoedd. Mae hyn yn galluogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau a chyfranogi yn y gymuned. Mae Banc Ieuenctid Sir Benfro yn cyfarfod yn fisol i edrych ar geisiadau, ymweld â phrosiectau sy'n cael eu hariannu ac adeiladu cydberthnasau yn Sir Benfro.
Cyngor Ieuenctid Aberdaugleddau
Fforwm ieuenctid cymunedol yw Cyngor Ieuenctid Aberdaugleddau sy'n cyfarfod yn wythnosol i greu a hwyluso prosiectau amrywiol i wella'r gymuned. Maent hefyd yn gweithio o fewn y gymuned i sicrhau enw da i bobl ifanc. Mae Cyngor Ieuenctid Aberdaugleddau wedi cynnal amryw o brosiectau llwyddiannus dros y blynyddoedd wrth feithrin cydberthnasau o fewn y gymuned. Mae'r bobl ifanc hefyd wedi hwyluso prosiectau sy'n gwella cydberthnasau proffesiynol anffurfiol â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar lefel leol a sirol.
Cyngor Ieuenctid Hwlffordd
Mae Cyngor Ieuenctid Hwlffordd yn cyfarfod yn wythnosol i weithio ar brosiectau amrywiol y mae pobl ifanc a’r gymuned am fod yn rhan ohonynt yn eu barn nhw. Mae'r cyngor ieuenctid wedi gweithio gyda sefydliadau o fewn y gymuned i'w wneud yn amgylchedd gwell.
Lleisiau Ifanc dros Ddewis
Fforwm ieuenctid yw Lleisiau Ifanc dros Ddewis ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol/anableddau. Maent yn dod at ei gilydd i amlygu a thrafod materion sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae'r grŵp yn rhoi cyfleoedd i sefydliadau, cwmnïau a gweithwyr proffesiynol ymgynghori ag aelodau'r fforwm ieuenctid a chanfod beth yw eu barn. Daw'r bobl ifanc at ei gilydd i greu a threfnu digwyddiadau a gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o faterion y mae pobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac anableddau yn eu profi. Mae’r grŵp hefyd yn darparu cyfleoedd gwych i gymdeithasu a chyfarfod â phobl ifanc eraill ond yn bwysicaf oll, cyfleoedd i gael hwyl!