Ieuenctid Sir Benfro

Tîm Allgymorth Ieuenctid Sir Benfro

Mae Tîm Allgymorth Ieuenctid Sir Benfro yn cefnogi Pobl Ifanc 16-25 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth i oresgyn rhwystrau er mwyn atal hyn. Trwy ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, rydym yn cefnogi Pobl Ifanc i nodi eu hanghenion ac yn defnyddio gweithgareddau ymgysylltu, gwaith grŵp a gwaith un i un. Rydym hefyd yn cefnogi'r rhai mewn addysg a hyfforddiant i gynnal eu lleoliad.

Mae Tîm Allgymorth Ieuenctid Sir Benfro yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu i Bobl Ifanc. Rydym yn canolbwyntio’r rhain ar fuddiannau’r unigolion rydym yn eu cefnogi. Gallant amrywio o goginio, diwrnodau traeth, pysgota, certio, crefft y gwyllt, teithiau preswyl awyr agored a llawer mwy. Mae effaith hyn ar bobl ifanc yn anfesuradwy, ond mae'r wên ar wynebau a'r hwb i hyder yn dweud y cyfan!

Am fwy o wybodaeth: youthoutreach@pembrokeshire.gov.uk

 

 

ID: 11051, adolygwyd 09/11/2023