Ieuenctid Sir Benfro
Tim Camddefnyddio Sylweddau
Mae Ieuenctid Sir Benfro yn gweithredu gwasanaeth camddefnyddio sylweddau ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed y mae eu defnydd o alcohol neu sylweddau anghyfreithlon wedi dod â nhw i sylw’r system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o ymwneud â hi. Mae'r tîm hefyd yn cynnig gwaith grŵp ataliol a sesiynau gwybodaeth yn y gymuned, ysgolion a lleoliadau addysgol eraill. Mae’r gwaith hwn ar gael i bobl ifanc o dan 25 oed.
Mae'r tîm camddefnyddio sylweddau hefyd wedi cynhyrchu adnoddau i ysgolion i'w helpu i ymgymryd â mwy o addysg ynghylch sylweddau yn uniongyrchol gyda myfyrwyr. Bydd hyn yn galluogi'r tîm i ganolbwyntio rhagor o adnoddau ar ymyriadau therapiwtig gyda phobl ifanc gyda'r nod o leihau'r defnydd o sylweddau a'r niwed cysylltiedig.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: youth.support.team@pembrokeshire.gov.uk
Mae cymorth cyffuriau ac alcohol am ddim i bob unigolyn ifanc arall o dan 18 oed ar gael gan Choices.
Mae gwasanaeth Choices yn cynnig cefnogaeth, gwybodaeth atal a lleihau niwed, a chymorth therapiwtig ac ymarferol i blant, pobl ifanc, ac eraill sy'n poeni am eu hanwyliaid.
Mae Choices a Thîm Camddefnyddio Sylweddau Ieuenctid Sir Benfro yn cynnig cymorth gan ddefnyddio model lleihau niwed ac yn cyfarfod yn rheolaidd â chydweithwyr arbenigol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) i rannu arferion, i asesu risg a diogelu, ac i gefnogi pontio i wasanaethau oedolion ar gyfer pob unigolyn ifanc sy’n gymwys i gael mynediad i wasanaethau camddefnyddio sylweddau.
Mae Ieuenctid Sir Benfro a Choices yn gweithredu un pwynt cyswllt ar gyfer pob atgyfeiriad y tu allan i’r system cyfiawnder troseddol ieuenctid. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Dewisiadau (yn agor mewn tab newydd).