Ieuenctid Sir Benfro

Tîm Cyfiawnder Ieuenctid

Mae Tîm Cyfiawnder Ieuenctid Sir Benfro yn cynnwys:

  • Rheolwr
  • Dau uwch-ymarferydd
  • Rheolwyr achos (gweithwyr ieuenctid hyfforddedig)
  • Swyddog yr heddlu ar secondiad
  • Swyddog y Gwasanaeth Prawf ar secondiad
  • Gweithwyr camddefnyddio sylweddau
  • Swyddog cyswllt dioddefwyr
  • Swyddog gwneud iawn
  • Hyfforddwr gweithgareddau awyr agored
  • Dadansoddwr Perfformiad a Gwybodaeth
  • Gweinyddwr Ieuenctid Sir Benfro
  • Gweinyddwr y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid

 

Gall y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid reoli’r holl bobl ifanc sy’n destun gorchmynion llys a datrysiadau y tu allan i’r llys. Bydd gofyn i’r person ifanc fynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda’i swyddog achos a fydd yn canolbwyntio ar ei droseddu a ffactorau a allai leihau’r tebygolrwydd y bydd y person ifanc yn aildroseddu. Gwneir atgyfeiriadau at asiantaethau eraill lle bo'n briodol.

Mae rheolwyr achos y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn ymateb i anghenion troseddwyr ifanc mewn ffordd gynhwysfawr. Mae'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn asesu anghenion pob person ifanc, gan ddefnyddio offeryn asesu cenedlaethol i nodi'r problemau penodol sy'n gwneud i'r person ifanc droseddu, ac yn mesur y risg o niwed difrifol y gallai ei achosi i eraill a’i ddiogelwch a’i lesiant ei hun.

Mae'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn darparu ymyriad cymesur a nodir drwy'r broses asesu hon. Nodir cryfderau / anghenion amrywiol pobl ifanc ac adeiladir arnynt. Bydd rheolwyr achos hefyd yn paratoi adroddiadau fel adroddiadau llys, adroddiadau ar gyfer y Panel Gorchmynion Atgyfeirio, ac adroddiadau ar gyfer paneli y tu allan i'r llys.

Mae’r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid hefyd yn darparu ymyrraeth atal er mwyn tynnu sylw pobl ifanc o ymddygiadau troseddol posibl ac o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cwblheir asesiad atal cynhwysfawr i lywio'r cynllun ymyrryd, yn dilyn atgyfeiriad atal gan weithwyr proffesiynol neu rieni pryderus. Ymgymerir â’r gwaith hwn fel cytundeb gwirfoddol rhwng y person ifanc a'i riant/gofalwr.

Mae'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn eiriol dros gyfiawnder adferol a bydd yn ceisio dod â'r rhai sydd wedi'u niweidio gan drosedd neu wrthdaro a'r rhai sy'n gyfrifol am y niwed i gysylltiad, gan alluogi pawb yr effeithir arnynt gan ddigwyddiad penodol i chwarae rhan mewn atgyweirio'r niwed a chanfod ffordd gadarnhaol ymlaen. Mae hyn yn rhan o faes ehangach o'r enw arferion adferol a gall gynnwys ymagwedd ragweithiol at atal niwed a gwrthdaro a gweithgareddau sy'n atgyweirio niwed lle mae gwrthdaro eisoes wedi codi.  Mewn rhai achosion, gellir cynnal cyfarfod adferol wedi'i hwyluso. Mae hyn yn galluogi unigolion a grwpiau i gydweithio i wella eu cyd-ddealltwriaeth o fater a dod o hyd i'r ateb gorau sydd ar gael ar y cyd. Ond mewn llawer o achosion gall dull llai ffurfiol, yn seiliedig ar egwyddorion adferol, fod yn fwy priodol.

E-bostiwch Prevention-Referrals@pembrokeshire.gov.uk am fwy o wybodaeth. 

ID: 10941, adolygwyd 31/01/2024