Ieuenctid Sir Benfro
Tîm Allgymorth Ieuenctid Sir Benfro
Mae Tîm Allgymorth Ieuenctid Sir Benfro yn cefnogi Pobl Ifanc 16-25 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth i oresgyn rhwystrau er mwyn atal hyn. Trwy ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, rydym yn cefnogi Pobl Ifanc i nodi eu hanghenion ac yn defnyddio gweithgareddau ymgysylltu, gwaith grŵp a gwaith un i un. Rydym hefyd yn cefnogi'r rhai mewn addysg a hyfforddiant i gynnal eu lleoliad.
Mae Tîm Allgymorth Ieuenctid Sir Benfro yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu i Bobl Ifanc. Rydym yn canolbwyntio’r rhain ar fuddiannau’r unigolion rydym yn eu cefnogi. Gallant amrywio o goginio, diwrnodau traeth, pysgota, certio, crefft y gwyllt, teithiau preswyl awyr agored a llawer mwy. Mae effaith hyn ar bobl ifanc yn anfesuradwy, ond mae'r wên ar wynebau a'r hwb i hyder yn dweud y cyfan!
Am fwy o wybodaeth: youthoutreach@pembrokeshire.gov.uk
Y Tîm Digartrefedd Ieuenctid
Nod y Tîm Atal Digartrefedd Ieuenctid yw cynorthwyo, addysgu ac uwchsgilio pobl ifanc er mwyn osgoi digartrefedd. Lle nad yw hyn yn bosibl, rydym yn ceisio sicrhau bod y sefyllfaoedd hyn yn brin, yn fyr ac yn anfynych. Er mwyn gwneud hyn rydym yn hwyluso ystod eang o gymorth a chefnogaeth:
Llety â Chymorth Dros Dro
Ar hyn o bryd mae gennym dair uned llety (dwy fflat ac un tŷ) sy’n darparu amgylchedd diogel, cadarnhaol lle gall pobl ifanc 18-25 oed ddatblygu ystod o sgiliau byw’n annibynnol cyn byw ar eu pen eu hun. Mae’r lleoliadau yn para am uchafswm o ddwy flynedd.
Cymorth lle bo’r angen
Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth i wneud cais am lety priodol, ei sicrhau a’i gadw, wrth fod yn aelod gweithgar o’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.
Cynllun benthyca dodrefn ac offer
Gall cyfarparu cartrefi fod yn ddrud ac yn anodd am nifer o resymau. Mae’r cynllun hwn yn sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at amrywiaeth o ddodrefn ac offer cartref y mae eu hangen i wneud tŷ yn gartref. Mae mynediad at yr eitemau yn seiliedig yn unig ar ymgysylltu gweithredol ar ein rhaglenni cymorth eraill.
Y Ganolfan Byw’n Annibynnol (ILC)
Credwn fod dysgu trwy brofiad yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddatblygu ystod o sgiliau y mae eu hangen i wneud llwyddiant o fyw’n annibynnol. Mae gan ein Canolfan Byw yn Annibynnol adnoddau ac offer arbenigol sy’n galluogi pobl ifanc i brofi’r hyn y mae ei angen i redeg cartref. Cynigir y gweithdai hyn ar sail un-i-un ond hefyd mewn grwpiau.
Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE)
Mae’r platfform rhyngweithiol hwn yn rhoi mynediad i bobl ifanc at ystod o ddeunyddiau dysgu gan gynnwys fideos, clipiau sain, heriau rhyngweithiol a chwisiau, sy’n eu galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau byw’n annibynnol ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw, mewn amgylchedd y maent yn gyfforddus ag ef. Mae yna hefyd gyfleuster sy’n caniatáu iddynt gysylltu â gweithwyr ieuenctid o’r tu mewn i’r platfform pe bai angen unrhyw gyngor, arweiniad neu ychydig eglurder ar rywbeth.
Codi Ymwybyddiaeth
Mae amrywiaeth o ffactorau cyfrannol ac amddiffynnol yn gysylltiedig â digartrefedd. Weithiau ni all llwybrau cymorth fod yn amlwg. Rydyn ni’n cynnig Gweithdai Digartrefedd i ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant a grwpiau cymunedol, lle rydyn ni’n ymweld â’r lleoliadau hyn ac yn darparu ystod o weithdai yn seiliedig ar anghenion y bobl ifanc sy’n mynychu.
Grymuso pobl ifanc
Mae profiadau, safbwyntiau a barn pobl ifanc sy’n rhyngweithio â gwasanaethau tai a digartrefedd yn bwysig i helpu i lunio a datblygu’r cymorth a gynigir. Mae gan y tîm nifer o ffyrdd i sicrhau bod y rhai sydd â phrofiadau byw o’r fath yn cael eu clywed gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn cael cyfle i lywio darpariaethau.
Am ragor o wybodaeth neu unrhyw ymholiadau cysylltwch â: youth.support.team@pembrokeshire.gov.uk
Tim Camddefnyddio Sylweddau
Mae Ieuenctid Sir Benfro yn gweithredu gwasanaeth camddefnyddio sylweddau ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed y mae eu defnydd o alcohol neu sylweddau anghyfreithlon wedi dod â nhw i sylw’r system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o ymwneud â hi. Mae'r tîm hefyd yn cynnig gwaith grŵp ataliol a sesiynau gwybodaeth yn y gymuned, ysgolion a lleoliadau addysgol eraill. Mae’r gwaith hwn ar gael i bobl ifanc o dan 25 oed.
Mae'r tîm camddefnyddio sylweddau hefyd wedi cynhyrchu adnoddau i ysgolion i'w helpu i ymgymryd â mwy o addysg ynghylch sylweddau yn uniongyrchol gyda myfyrwyr. Bydd hyn yn galluogi'r tîm i ganolbwyntio rhagor o adnoddau ar ymyriadau therapiwtig gyda phobl ifanc gyda'r nod o leihau'r defnydd o sylweddau a'r niwed cysylltiedig.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: youth.support.team@pembrokeshire.gov.uk
Mae cymorth cyffuriau ac alcohol am ddim i bob unigolyn ifanc arall o dan 18 oed ar gael gan Choices.
Mae gwasanaeth Choices yn cynnig cefnogaeth, gwybodaeth atal a lleihau niwed, a chymorth therapiwtig ac ymarferol i blant, pobl ifanc, ac eraill sy'n poeni am eu hanwyliaid.
Mae Choices a Thîm Camddefnyddio Sylweddau Ieuenctid Sir Benfro yn cynnig cymorth gan ddefnyddio model lleihau niwed ac yn cyfarfod yn rheolaidd â chydweithwyr arbenigol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) i rannu arferion, i asesu risg a diogelu, ac i gefnogi pontio i wasanaethau oedolion ar gyfer pob unigolyn ifanc sy’n gymwys i gael mynediad i wasanaethau camddefnyddio sylweddau.
Mae Ieuenctid Sir Benfro a Choices yn gweithredu un pwynt cyswllt ar gyfer pob atgyfeiriad y tu allan i’r system cyfiawnder troseddol ieuenctid. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Dewisiadau (yn agor mewn tab newydd).
Tîm Cyfiawnder Ieuenctid
Mae Tîm Cyfiawnder Ieuenctid Sir Benfro yn cynnwys:
- Rheolwr
- Dau uwch-ymarferydd
- Rheolwyr achos (gweithwyr ieuenctid hyfforddedig)
- Swyddog yr heddlu ar secondiad
- Swyddog y Gwasanaeth Prawf ar secondiad
- Gweithwyr camddefnyddio sylweddau
- Swyddog cyswllt dioddefwyr
- Swyddog gwneud iawn
- Hyfforddwr gweithgareddau awyr agored
- Dadansoddwr Perfformiad a Gwybodaeth
- Gweinyddwr Ieuenctid Sir Benfro
- Gweinyddwr y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid
Gall y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid reoli’r holl bobl ifanc sy’n destun gorchmynion llys a datrysiadau y tu allan i’r llys. Bydd gofyn i’r person ifanc fynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda’i swyddog achos a fydd yn canolbwyntio ar ei droseddu a ffactorau a allai leihau’r tebygolrwydd y bydd y person ifanc yn aildroseddu. Gwneir atgyfeiriadau at asiantaethau eraill lle bo'n briodol.
Mae rheolwyr achos y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn ymateb i anghenion troseddwyr ifanc mewn ffordd gynhwysfawr. Mae'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn asesu anghenion pob person ifanc, gan ddefnyddio offeryn asesu cenedlaethol i nodi'r problemau penodol sy'n gwneud i'r person ifanc droseddu, ac yn mesur y risg o niwed difrifol y gallai ei achosi i eraill a’i ddiogelwch a’i lesiant ei hun.
Mae'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn darparu ymyriad cymesur a nodir drwy'r broses asesu hon. Nodir cryfderau / anghenion amrywiol pobl ifanc ac adeiladir arnynt. Bydd rheolwyr achos hefyd yn paratoi adroddiadau fel adroddiadau llys, adroddiadau ar gyfer y Panel Gorchmynion Atgyfeirio, ac adroddiadau ar gyfer paneli y tu allan i'r llys.
Mae’r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid hefyd yn darparu ymyrraeth atal er mwyn tynnu sylw pobl ifanc o ymddygiadau troseddol posibl ac o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cwblheir asesiad atal cynhwysfawr i lywio'r cynllun ymyrryd, yn dilyn atgyfeiriad atal gan weithwyr proffesiynol neu rieni pryderus. Ymgymerir â’r gwaith hwn fel cytundeb gwirfoddol rhwng y person ifanc a'i riant/gofalwr.
Mae'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn eiriol dros gyfiawnder adferol a bydd yn ceisio dod â'r rhai sydd wedi'u niweidio gan drosedd neu wrthdaro a'r rhai sy'n gyfrifol am y niwed i gysylltiad, gan alluogi pawb yr effeithir arnynt gan ddigwyddiad penodol i chwarae rhan mewn atgyweirio'r niwed a chanfod ffordd gadarnhaol ymlaen. Mae hyn yn rhan o faes ehangach o'r enw arferion adferol a gall gynnwys ymagwedd ragweithiol at atal niwed a gwrthdaro a gweithgareddau sy'n atgyweirio niwed lle mae gwrthdaro eisoes wedi codi. Mewn rhai achosion, gellir cynnal cyfarfod adferol wedi'i hwyluso. Mae hyn yn galluogi unigolion a grwpiau i gydweithio i wella eu cyd-ddealltwriaeth o fater a dod o hyd i'r ateb gorau sydd ar gael ar y cyd. Ond mewn llawer o achosion gall dull llai ffurfiol, yn seiliedig ar egwyddorion adferol, fod yn fwy priodol.
E-bostiwch Prevention-Referrals@pembrokeshire.gov.uk am fwy o wybodaeth.
Ieuenctid Sir Benfro
Mae Ieuenctid Sir Benfro yn wasanaeth integredig sy'n cynnwys y Tîm Ieuenctid a Dargedir, y Tîm Cymorth Ieuenctid, y Tîm Ieuenctid Cymunedol a'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid.
Mae'r gwasanaeth yn darparu cyfleoedd a phrofiadau heb fod yn ffurfiol, anffurfiol a strwythuredig i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, gan wella eu datblygiad personol, emosiynol, cymdeithasol a gwleidyddol.
Mae Ieuenctid Sir Benfro yn cynnig cyngor ac arweiniad, ac yn cefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y gwahanol dimau.
Tim Gwaith Ieuenctid Cymunedol
Nod y Tîm Ieuenctid Cymunedol yw rhoi mynediad cyffredinol i bobl ifanc 11 - 25 oed at gyfleoedd, gweithgareddau a chlybiau ieuenctid yn y gymuned, yn seiliedig ar berthynas wirfoddol.
Nod y tîm yw gwneud y canlynol:
- Cyflwyno ystod o raglenni a gweithgareddau yn ymwneud ag arbenigedd cwricwlaidd e.e. dinasyddiaeth, celfyddydau, chwaraeon, TG, iechyd, y Gymraeg a’i diwylliant, mewn lleoliadau clwb ieuenctid
- Darparu cyfleoedd a phrofiadau addysgol anffurfiol i wella datblygiad personol, cymdeithasol a gwleidyddol pobl ifanc
- Cyflwyno rhaglenni achrededig ee. Gwobr Dug Caeredin (DofE), Agored Cymru, Arweinyddiaeth Chwaraeon, Heartstart
- Darparu mynediad at gyngor, gwybodaeth, cymorth ac arweiniad perthnasol
- Hwyluso fforymau ieuenctid i alluogi pobl ifanc i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a'u lle mewn cymdeithas
- Rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau
- Gweithdai yn seiliedig ar faterion
- Cyfleoedd preswyl
- Rhaglenni a gweithgareddau gwyliau
- Cyfleoedd gwirfoddoli
- Cefnogi pobl ifanc sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
- Gweithio mewn partneriaeth gydag aelodau o'r gymuned i annog pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion gweithgar a chyfrannu at eu hamgylchedd lleol
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch: CYT@pembrokeshire.gov.uk
Clybiau Ieuenctid Cymunedol
Clwb Ieuenctid Abergwaun
Cyfeiriad: Popworks, Parc y Shwt, Abergwaun, SA65 9AP
Rhif: 07341513036
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Facebook Clwb Ieuenctid Abergwaun (yn agor mewn tab newydd) a thudalen Instagram Clwb Ieuenctid Abergwaun (yn agor mewn tab newydd).
Clwb Ieuenctid Treletert
Cyfeiriad: Neuadd Goffa Treletert, Heol yr Orsaf, Treletert, SA62 5RY
Rhif: 07341513036
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Facebook Clwb Ieuenctid Treletert (yn agor mewn tab newydd)
Canolfan Ieuenctid Aberdaugleddau
Cyfeiriad: Heol Priordy, Aberdaugleddau, SA73 2EE
Rhif: 07435 800836
Mae mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook Canolfan Ieuenctid Aberdaugleddau (yn agor mewn tab newydd) a thudalen Instagram Canolfan Ieuenctid Aberdaugledau (yn agor mewn tab newydd).
Clwb Ieuenctid Trefdraeth
Cyfeiriad: Neuadd Goffa Trefdraeth, Stryd y Gorllewin, Trefdraeth, SA42 0TF
Rhif: 07341513036
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Facebook Clwb Ieuenctid Trefdraeth (yn agor mewn tab newydd) a thudalen Instagram Clwb Ieuenctid Trefdraeth (yn agor mewn tab newydd).
Clwb Ieuenctid Neyland
Cyfeiriad: Canolfan Sgiliau Neyland, Neyland, SA73 1TX
Rhif: 07435 800836
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Facebook Clybiau Ieuenctid Neyland (yn agor mewn tab newydd).
Clwb Ieuenctid Doc Penfro
Cyfeiriad: Ysgol Harri Tudur, Bush, Penfro, SA71 4RL
Rhif: 07990781360 / 07825365150
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Facebook Clwb Ieuenctid Doc Penfro (yn agor mewn tab newydd) a thudalen Instagram Clwb Ieuenctid Doc Penfro (yn agor mewn tab newydd).
Clwb Ieuenctid Tyddewi
Cyfeiriad: Neuadd y Ddinas, Heol y Bryn, Tyddewi, SA62 6SD
Rhif: 07341513036
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Facebook Clwb Ieuenctid Tyddewi (yn agor mewn tab newydd) a thudalen Instagram Clwb Ieuenctid Tyddewi (yn agor mewn tab newydd).
Clwb Ieuenctid Dinbych-y-pysgod
Cyfeiriad: Greenhill Avenue, Dinbych-y-pysgod, SA70 7LB
Rhif: 07881625267
Mae gwybodaeth ar gael ar Facebook. (yn agor mewn tab newydd)
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Facebook Clwb Ieuenctid Dinbych-y-pysgod (yn agor mewn tab newydd)
Canolfan Ieuenctid The Edge – Hwlffordd
Cyfeiriad: 104 Freemans Way, Hwlffordd, SA61 1UG
Rhif: 07825365150
Mae mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook Canolfan Ieuenctid The Edge (yn agor mewn tab newydd) a thudalen Instagram Canolfan Ieuenctid The Edge (yn agor mewn tab newydd).
Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc
Mae'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn Sir Benfro yn arwain ar y gwaith o gyflawni Cyfranogiad a Hawliau Plant a Phobl Ifanc ar gyfer Cyngor Sir Penfro.
Mae'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) i sefydliadau, gwasanaethau, gweithwyr proffesiynol ac i blant a phobl ifanc.
Mae'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn hwyluso sawl darn o waith ar draws y sir. Mae'r rhain yn cynnwys prosiectau ieuenctid a fforymau ieuenctid mewn cymunedau, Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro a grwpiau diddordeb arbennig. Mae'r gwaith hwn yn galluogi pobl ifanc i ddweud eu dweud am y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw ac mae hefyd yn eu galluogi i gymryd rhan weithredol yn eu cymuned a dylanwadu ar benderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol.
Mae'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn Sir Benfro yn arwain y gwaith o gyflawni cyfranogiad a hawliau plant a phobl ifanc yn Sir Benfro. Rôl y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc yw cyflawni'r canlynol:
- Sicrhau bod gan bobl ifanc o Sir Benfro lais cenedlaethol a'u bod yn rhan o rwydwaith cenedlaethol i ddylanwadu ar newid.
- Hwyluso cynulliad ieuenctid rhagweithiol gan sicrhau bod pobl ifanc o bob rhan o'r sir yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.
- Hwyluso a chefnogi rhwydwaith o gynghorau ieuenctid cymunedol a grwpiau diddordeb arbennig i sicrhau bod ystod amrywiol o bobl ifanc yn Sir Benfro yn cael eu cynrychioli.
- Ymrwymo Sir Benfro i CCUHP
- Datblygu a darparu hyfforddiant i bobl ifanc ac oedolion.
- Gweithio ar brosiectau sy'n bwysig i bobl ifanc e.e. Pleidleisiau yn 16 oed, diogelu, yr amgylchedd, banc ieuenctid ac ati.
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch: CYPRO@pembrokeshire.gov.uk
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc ar:
- Tudalen Facebook y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc (yn agor mewn tab newydd)
- Tudalen Instagram y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc (yn agor mewn tab newydd)
- Tudalen Twitter y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc (yn agor mewn tab newydd)
Fforymau Ieuenctid
Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro
Mae Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro yn fforwm ieuenctid ledled y sir sy’n cynnwys dau gynrychiolydd o bob ysgol, grŵp diddordeb arbennig a fforwm ieuenctid yn Sir Benfro. Mae’r grŵp yn cyfarfod unwaith y mis i ddod at ei gilydd i drafod materion a phynciau sy’n effeithio ar bobl ifanc yn Sir Benfro.
Gwaith Cenedlaethol
TMae'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc hefyd yn cefnogi'r gwaith cenedlaethol sy'n digwydd ac yn cefnogi pobl ifanc i fod yn rhan o fforymau ieuenctid cenedlaethol. Mae hyn yn caniatáu i lais pobl ifanc gael ei glywed a'i ystyried ar lefel genedlaethol.
Banc Ieuenctid Sir Benfro
Mae banc Ieuenctid Sir Benfro yn cynnwys panel o bobl ifanc sy’n dod at ei gilydd i ystyried ceisiadau gan brosiectau sy’n cael eu harwain gan bobl ifanc o fewn y gymuned. Gall y bobl ifanc sy'n rhan o banel y Banc Ieuenctid benderfynu pa brosiectau y gellir rhoi arian iddyn nhw. Gall prosiectau sy'n digwydd mewn ardaloedd lleol sy'n cael eu harwain gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, wneud cais am hyd at fil o bunnoedd. Mae hyn yn galluogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau a chyfranogi yn y gymuned. Mae Banc Ieuenctid Sir Benfro yn cyfarfod yn fisol i edrych ar geisiadau, ymweld â phrosiectau sy'n cael eu hariannu ac adeiladu cydberthnasau yn Sir Benfro.
Cyngor Ieuenctid Aberdaugleddau
Fforwm ieuenctid cymunedol yw Cyngor Ieuenctid Aberdaugleddau sy'n cyfarfod yn wythnosol i greu a hwyluso prosiectau amrywiol i wella'r gymuned. Maent hefyd yn gweithio o fewn y gymuned i sicrhau enw da i bobl ifanc. Mae Cyngor Ieuenctid Aberdaugleddau wedi cynnal amryw o brosiectau llwyddiannus dros y blynyddoedd wrth feithrin cydberthnasau o fewn y gymuned. Mae'r bobl ifanc hefyd wedi hwyluso prosiectau sy'n gwella cydberthnasau proffesiynol anffurfiol â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar lefel leol a sirol.
Cyngor Ieuenctid Hwlffordd
Mae Cyngor Ieuenctid Hwlffordd yn cyfarfod yn wythnosol i weithio ar brosiectau amrywiol y mae pobl ifanc a’r gymuned am fod yn rhan ohonynt yn eu barn nhw. Mae'r cyngor ieuenctid wedi gweithio gyda sefydliadau o fewn y gymuned i'w wneud yn amgylchedd gwell.
Lleisiau Ifanc dros Ddewis
Fforwm ieuenctid yw Lleisiau Ifanc dros Ddewis ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol/anableddau. Maent yn dod at ei gilydd i amlygu a thrafod materion sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae'r grŵp yn rhoi cyfleoedd i sefydliadau, cwmnïau a gweithwyr proffesiynol ymgynghori ag aelodau'r fforwm ieuenctid a chanfod beth yw eu barn. Daw'r bobl ifanc at ei gilydd i greu a threfnu digwyddiadau a gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o faterion y mae pobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac anableddau yn eu profi. Mae’r grŵp hefyd yn darparu cyfleoedd gwych i gymdeithasu a chyfarfod â phobl ifanc eraill ond yn bwysicaf oll, cyfleoedd i gael hwyl!
Tim Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion
Mae’r Tîm Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion yn dîm o wyth gweithiwr ieuenctid sy’n cwmpasu’r ysgolion uwchradd canlynol yn Sir Benfro:
- Ysgol Greenhill
- Ysgol Harri Tudur
- Ysgol Gyfun Aberdaugleddau
- Ysgol Uwchradd Hwlffordd
- Ysgol Penrhyn Dewi
- Ysgol Bro Gwaun
Mae gweithwyr ieuenctid mewn ysgolion yn darparu gweithgareddau a phrofiadau anffurfiol a heb fod yn ffurfiol a chymorth personol i bobl ifanc yn eu hysgolion i ddylanwadu ar eu hymgysylltiad ag addysg, cyflogaeth a hyfforddiant mewn ffordd gadarnhaol.
Mae'r tîm yn rhedeg darpariaeth amgen trwy Ymddiriedolaeth y Tywysog o'r enw Rhaglen Cyflawni. Mae rhaglen Ymddiriedolaeth y Tywysog yn cynnig cyfle i bobl ifanc ennill cymhwyster mewn Datblygiad Personol a Sgiliau Cyflogadwyedd. Mae'r cymwysterau'n hyblyg a gellir eu cyflwyno mewn amrywiaeth o leoliadau a'u teilwra i ddiwallu anghenion y bobl ifanc.
Mae gweithwyr ieuenctid mewn ysgolion yn gweithio gyda phobl ifanc ar sail un i un sydd wedi'i theilwra o amgylch iechyd a lles emosiynol. Yma hefyd, mae gwaith grŵp pwysig yn edrych ar sgiliau cymdeithasol, gwaith grŵp, meithrin tîm ac ati.
Gellir gwneud atgyfeiriadau trwy drafod gyda'r gweithiwr ieuenctid yn uniongyrchol neu uwch-swyddog y tîm – Tristy McDermott.
Am fwy o wybodaeth am waith ieuenctid mewn ysgolion o fewn ysgolion Sir Benfro, anfonwch e-bost i: sbyw@pembrokeshire.gov.uk