Ieuenctid Sir Benfro

Y Tîm Digartrefedd Ieuenctid

Nod y Tîm Atal Digartrefedd Ieuenctid yw cynorthwyo, addysgu ac uwchsgilio pobl ifanc er mwyn osgoi digartrefedd. Lle nad yw hyn yn bosibl, rydym yn ceisio sicrhau bod y sefyllfaoedd hyn yn brin, yn fyr ac yn anfynych. Er mwyn gwneud hyn rydym yn hwyluso ystod eang o gymorth a chefnogaeth:

Llety â Chymorth Dros Dro

Ar hyn o bryd mae gennym dair uned llety (dwy fflat ac un tŷ) sy’n darparu amgylchedd diogel, cadarnhaol lle gall pobl ifanc 18-25 oed ddatblygu ystod o sgiliau byw’n annibynnol cyn byw ar eu pen eu hun. Mae’r lleoliadau yn para am uchafswm o ddwy flynedd.

Cymorth lle bo’r angen

Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth i wneud cais am lety priodol, ei sicrhau a’i gadw, wrth fod yn aelod gweithgar o’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Cynllun benthyca dodrefn ac offer

Gall cyfarparu cartrefi fod yn ddrud ac yn anodd am nifer o resymau. Mae’r cynllun hwn yn sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at amrywiaeth o ddodrefn ac offer cartref y mae eu hangen i wneud tŷ yn gartref. Mae mynediad at yr eitemau yn seiliedig yn unig ar ymgysylltu gweithredol ar ein rhaglenni cymorth eraill.

Y Ganolfan Byw’n Annibynnol (ILC)

Credwn fod dysgu trwy brofiad yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddatblygu ystod o sgiliau y mae eu hangen i wneud llwyddiant o fyw’n annibynnol. Mae gan ein Canolfan Byw yn Annibynnol adnoddau ac offer arbenigol sy’n galluogi pobl ifanc i brofi’r hyn y mae ei angen i redeg cartref. Cynigir y gweithdai hyn ar sail un-i-un ond hefyd mewn grwpiau.

Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE)

Mae’r platfform rhyngweithiol hwn yn rhoi mynediad i bobl ifanc at ystod o ddeunyddiau dysgu gan gynnwys fideos, clipiau sain, heriau rhyngweithiol a chwisiau, sy’n eu galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau byw’n annibynnol ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw, mewn amgylchedd y maent yn gyfforddus ag ef. Mae yna hefyd gyfleuster sy’n caniatáu iddynt gysylltu â gweithwyr ieuenctid o’r tu mewn i’r platfform pe bai angen unrhyw gyngor, arweiniad neu ychydig eglurder ar rywbeth.

Codi Ymwybyddiaeth

Mae amrywiaeth o ffactorau cyfrannol ac amddiffynnol yn gysylltiedig â digartrefedd. Weithiau ni all llwybrau cymorth fod yn amlwg. Rydyn ni’n cynnig Gweithdai Digartrefedd i ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant a grwpiau cymunedol, lle rydyn ni’n ymweld â’r lleoliadau hyn ac yn darparu ystod o weithdai yn seiliedig ar anghenion y bobl ifanc sy’n mynychu.

Grymuso pobl ifanc

Mae profiadau, safbwyntiau a barn pobl ifanc sy’n rhyngweithio â gwasanaethau tai a digartrefedd yn bwysig i helpu i lunio a datblygu’r cymorth a gynigir. Mae gan y tîm nifer o ffyrdd i sicrhau bod y rhai sydd â phrofiadau byw o’r fath yn cael eu clywed gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn cael cyfle i lywio darpariaethau.

 

Am ragor o wybodaeth neu unrhyw ymholiadau cysylltwch â: youth.support.team@pembrokeshire.gov.uk

ID: 11026, adolygwyd 09/11/2023