Cynhelir y ras nofio 2.4 milltir o hyd ym Mae Caerfyrddin oddi ar Draeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod. Dechrau torfol oddi ar y traeth a dwywaith o amgylch y cwrs.
Ffyrdd ar Gau
Bydd rhai ffyrdd wedi’u cau ar ddiwrnod y ras a bydd cyfyngiadau a gwyriadau yn weithredol er mwyn sicrhau diogelwch y cystadleuwyr a’r gwylwyr. Gallwch weld y rhain ar y map rhyngweithiol.
Oherwydd y gohiriadau hir y profodd modurwyr y llynedd ar y B4318, gyda thraffig yn ceisio croesi’r cwrs beicio i’r gogledd o bentref Sain Fflorens, bydd system un ffordd bob yn ail yn cael ei gweithredu eleni ar Devonshire Drive rhwng 09:00 a 16:00. Bydd rhaid defnyddio’r A478 er mwyn cael mynediad i Ddinbych-y-pysgod yn ystod y cyfnod hwn, trwy Pentlepoir a Devonshire Drive. Bydd traffig sy’n gadael Dinbych-y-pysgod yn cael ei anfon ar hyd Devonshire Drive er mwyn cysylltu â’r A478 a thu hwnt.
Map Info
Nothing Selected.Legend
Ar gau i un cyfeiriad, bore a phrynhawn | |
Ar gau yn gyfan gwbl - Bore | |
Ar gau yn gyfan gwbl – Bore a phrynhawn | |
Ar gau yn achlysurol – Trwy’r dydd | |
Cliciwch ar y ffordd berthnasol ar y llwybr i gael mwy o wybodaeth ac amseroedd. |
Parcio
Gallwch barcio mewn nifer o leoliadau yn Ninbych-y-pysgod, Penfro ac Arberth.
Sylwch nad oes unrhyw barcio ar y stryd yn gyfagos at Bentref y Ras. Defnyddiwch y meysydd parcio oherwydd eu bod nhw o fewn taith gerdded fer i’r lleoliad.
Beth am wneud parcio yn Sir Benfro hyd yn oed yn haws trwy ymgeisio am Drwydded Barcio?
Bydd y drwydded hon yn eich galluogi chi i barcio yn nifer o feysydd parcio Cyngor Sir Penfro am gyfnodau amhenodol am £25 yr wythnos yn unig.
Mae rhestr lawn o’r meysydd parcio sy’n rhan o’r cynllun hwn a mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.
Costia Meysydd Parcio
Gwybodaeth i Ddeiliaid Trwydded Preswylwyr (darpariaeth parcio amgen a chyfyngiadau)
Maes Parcio Dinbych-y-pysgod
Maes Parcio Aml-lawr Upper Park Road, SA70 7LT
Y maes parcio mwyaf yn y dref a thaith gerdded fer o Bentref y Ras uwchben Traeth y De. Ar ddiwrnod y ras, rhwng 7am a 9:30am, tra bydd yr athletwyr yn gadael yr ardal bontio, ni fydd mynediad i’r maes parcio hwn.
.
Maes Parcio Traeth y Gogledd, Gas Lane, Dinbych-y-pysgod SA70 8AG
(Mynediad cyfyngedig ar ddydd Sul rhwng 11:30 a 00:00)
Maes parcio Traeth y Gogledd yw’r lleoliad delfrydol i athletwyr sy’n dod i Ddinbych-y-pysgod ac sy’n dymuno gadael eu ceir mewn un lleoliad. Gallwch brynu tocynnau parcio ar gyfer mwy nag un diwrnod.
Salterns, Dinbych-y-pysgod SA70 8EQ
Y Maes Dinbych-y-pysgod SA70 8ES
Maes Parcio Traeth y De, Dinbych-y-pysgodSA70 7EL
Bydd athletwyr sydd angen parcio’u ceir ar fore’r ras yn cael eu cyfarwyddo i Faes Parcio Salterns (sylwch fod costau parcio arferol yn weithredol)
Am weddill y diwrnod, bydd pob maes parcio, ar wahân i Faes Parcio Traeth y Gogledd¸ ar gael i’w defnyddio. Fodd bynnag, bydd angen i geir groesi’r cwrs beicio wrth i’r cystadleuwyr deithio trwy’r dref, felly gofynnwn i chi fod yn ofalus a dilyn cyfarwyddiadau’r swyddogion.
Twitter
#IronManWales
Tweets about "#imwales OR #ironmanwales OR #impembs"@Pembrokeshire
Tweets about "#imwales OR #ironmanwales OR #impembs from:Pembrokeshire"@Ironman_Wales
Tweets by @ironman_wales