Lleihad yn y Dreth Gyngor

Beth yw Gostyngiad y Dreth Gyngor?

Ar y dudalen hon:

Beth yw Gostyngiad y Dreth Gyngor?

Pwy a all wneud cais?

Sut ydych chi’n cyfrifo faint o Ostyngiad y Dreth Gyngor y mae gen i hawl iddo?

Sut i wneud cais

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Rheoli fy ngostyngiad yn y dreth gyngor ar-lein

 



Beth yw Gostyngiad y Dreth Gyngor?

Os ydych chi ar incwm isel, gall Gostyngiad y Dreth Gyngor helpu i leihau eich bil Treth Gyngor.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer gostyngiadau, diystyriadau disgownt neu esemptiadau eraill, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, nid dim ond eich incwm.

Dysgwch ragor am y canlynol:



Pwy a all wneud cais?

Efallai y bydd Gostyngiad y Dreth Gyngor ar gael os ydych chi:

  • yn talu’r Dreth Gyngor ar yr eiddo lle’r ydych chi fel arfer yn byw
  • naill ai’n rhentu neu’n berchen ar eich eiddo

 

 Gallwch hawlio os ydych chi:

  • yn cael budd-daliadau eraill, credydau treth, neu bensiynau (gan gynnwys Credyd Cynhwysol)
  • yn gweithio
  •  yn ddi-waith
  • yn methu gweithio oherwydd salwch neu anabledd
  • yn gofalu am blentyn neu oedolyn
  • wedi ymddeol 

 

Sylwer: os oes gennych chi gynilion, eiddo neu asedau eraill gwerth £16,000 neu ragor, ni fyddwch yn gymwys oni bai eich bod yn cael Credyd Gwarantedig Credyd Pensiwn.

 

Sut ydych chi’n cyfrifo faint o Ostyngiad y Dreth Gyngor y mae gen i hawl iddo?

Mae faint o ostyngiad a gewch chi yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion chi.

Rydym yn edrych ar y canlynol:

  • Faint mae’r llywodraeth yn dweud y mae angen i chi fyw arno (yn seiliedig ar amgylchiadau eich teulu)
  • Eich incwm gwirioneddol (os ydyw’n uwch na’r swm y mae ei angen arnoch, bydd eich gostyngiad yn llai)
  • A oes oedolion eraill yn byw yn eich cartref (gall hyn hefyd leihau eich hawl chi)

 

Os caiff eich cais ei gymeradwyo:

  • Mae’r gostyngiad yn dechrau o’r dyddiad y bydd eich cais yn dod i law
  • Caiff ei gymhwyso’n uniongyrchol i’ch cyfrif treth gyngor
  • Fe gewch chi fil newydd yn dangos eich balans a’ch rhandaliadau wedi’u diweddaru

 

Sut i wneud cais

Gwneud cais

  1. Cwblhewch ffurflen gais am Ostyngiad y Dreth Gyngor 
  2. Lanlwythwch dystiolaeth ategol (os nad ydych eisoes wedi gwneud hyn fel rhan o’ch cais cychwynnol)

 

Bydd angen Fy Nghyfrif arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

 

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif

Gallwch naill ai greu cyfrif trwy glicio 'Cofrestru' a darparu cyfeiriad e-bost a chyfrinair

Yna bydd angen i chi:

  1. Ychwanegu eich cyfeirnod cyfrif Treth Gyngor i Hafan Fy Nghyfrif
  2. Dewis 'Gweld fy Nghyfrif Treth Gyngor'.
  3. Dewiswch 'Hawliadau newydd' a 'Gwneud wawliad newydd' o dan y pennawd Budd-daliadau.

 

Ar ôl i chi wneud cais

  • Nodwch rif cyfeirnod eich cais rhag ofn y bydd angen i chi gysylltu â ni
  • Byddwn yn adolygu eich ffurflen gais ac yn cysylltu â chi os bydd arnom angen rhagor o wybodaeth

 

Ffyrdd eraill o wneud cais:

 

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau (neu newidiadau mewn amgylchiadau unrhyw aelod o’ch aelwyd) er mwyn osgoi problemau gyda’ch budd-daliadau.

Ceir rhagor o wybodaeth yma: Sut ydw i’n rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau?



Rheoli fy ngostyngiad yn y dreth gyngor ar-lein

Gallwch reoli eich Gostyngiad y Dreth Gyngor ar-lein gan ddefnyddio’r cyfrifon canlynol:



Cyfrif Gostyngiad y Dreth Gyngor

Gallwch wneud y canlynol:

  • Gweld taliadau yn y gorffennol
  • Cael prawf o’ch hawl

 

Bydd angen Fy Nghyfrif arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif

Gallwch naill ai greu cyfrif trwy glicio 'Cofrestru' a darparu cyfeiriad e-bost a chyfrinair

  1. Ychwanegu eich cyfeirnod cyfrif Treth Gyngor i Hafan Fy Nghyfrif
  2. Dewis 'Gweld fy Nghyfrif Treth Gyngor'.
  3. Dewiswch 'Cofrestru' o dan y pennawd Budd-daliadau.

 

I gofrestru neu fewngofnodi am y tro cyntaf, bydd arnoch angen y canlynol:
  • Eich rhif cyfeirnod Gostyngiad y Dreth Gyngor (fe welwch hwn ar unrhyw lythyrau yn ymwneud â Gostyngiad y Dreth Gyngor yr ydym wedi’u hanfon)
  • Eich rhif Yswiriant Gwladol

 

Sylwer: rhaid i chi fod yn hawlio Gostyngiad y Dreth Gyngor eisoes i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

 

Mewngofnodi i’ch cyfrif Gostyngiad y Dreth Gyngor 

 

 

ID: 122, revised 15/01/2026