Lles Cyhoeddus a Diogelu'r Amgylchedd
Arlwyo a Diogelwch Bwyd
Cysylltwch ag arlwywyr lleol a defnyddiwch gynnyrch lleol lle bynnag y bo modd.
Dylai trefnwyr digwyddiadau sicrhau bod yr holl gonsesiynau bwyd ac arlwywyr eraill wedi'u cofrestru gydag Awdurdod Lleol fel Gweithredwr Busnes Bwyd.
Yn ychwanegol at fod wedi cofrestru, argymhellir yn gryf y dylai trefnwyr wirio bod gan bob arlwywr sgôr hylendid bwyd o 3 neu uwch. Gellir gwirio hyn yr ASB
Dylid darparu rhestr o enwau, cyfeiriadau, manylion cyswllt a manylion hylendid bwyd pob ciosg bwyd (gan gynnwys y rhai sy'n rhoi bwyd i ffwrdd fel rhan o arddangosiad) i'r Tîm Diogelwch Bwyd 21 diwrnod cyn y digwyddiad.
Ychydig o werth sydd mewn cael tystysgrifau hyfforddiant hylendid bwyd gan nad ydynt yn ofyniad ac ni fydd pob un (yn enwedig busnesau risg isel) yn eu cael.
Dylai unedau arlwyo gael eu lleoli yn synhwyrol, megis i ffwrdd oddi wrth ardaloedd gweithgarwch plant ac yn ymyl cyflenwadau dŵr ac ati.
Dylid gadael digon o le rhwng cyfleusterau arlwyo er mwyn atal unrhyw berygl y bydd tân yn lledaenu.
Mae hefyd yn arfer da i gael cyfleusterau toiled ar wahân ar gyfer trinwyr bwyd sy’n cynnwys cyfleusterau golchi dwylo, gan gynnwys dŵr poeth a sebon a thywelion. Dylech hefyd sicrhau, wrth benodi busnes bwyd, bod ganddynt eu cyfleusterau eu hunain o fewn eu stondinau, unedau, ac ati, i olchi dwylo, offer a lle bo angen, bwyd, gan gynnwys trefniadau ar gyfer darparu / storio dŵr poeth yn eu stondin fwyd y byddant yn eu defnyddio yn ystod y digwyddiad.
Gweler y ddolen i’r Rhestr Wirio Arlwyo Awyr Agored a Gymdeithas Arlwywyr Genedlaethol (NCASS). Mae NCASS yn gymdeithas fasnachol a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer arlwyo symudol, arlwyo allanol, ac arlwyo bwyd mewn digwyddiadau ac ar y stryd. Yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol arall, mae eu gwefan yn cynnwys dau ganllaw ar ddiogelwch nwy petroliwm hylifol ar gyfer ôl-gerbydau / faniau wedi'u trawsnewid a senarios yn ymwneud â phebyll mawr / pebyll / stondinau.
Cysylltwch â'r tîm Diogelwch Bwyd am ragor o wybodaeth os oes angen yn foodsafety@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 764551.
Bydd angen caniatâd Masnachu ar y Stryd i werthu bwyd neu nwyddau ar y briffordd. Cysylltwch â Thîm Gofal Strydoedd ar 01437 765441 neu streetcare@pembrokeshire.gov.uk