Lles Cyhoeddus a Diogelu'r Amgylchedd
Baw anifeiliaid
Dylai'r rhai sy'n cynllunio defnydd hamdden o borfa anifeiliaid (a ddefnyddir ar gyfer anifeiliaid sy’n pori) fod yn ymwybodol o'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig ag E.Coli 0157. Mae plant mewn perygl arbennig.
Yn ddelfrydol i osgoi perygl o heintio gan E.Coli 0157 o'r ffynhonnell hon, ni ddylid defnyddio caeau a ddefnyddir ar gyfer pori neu gadw anifeiliaid ar gyfer gwersylla, picnic a mannau chwarae.
Gall y risgiau gael eu lleihau'n sylweddol trwy fabwysiadu'r rhagofalon synhwyrol canlynol:
- Cadwch anifeiliaid fferm oddi ar y caeau 3 wythnos cyn eu defnyddio;
- Symudwch unrhyw faw gweladwy, yn ddelfrydol ar ddechrau'r cyfnod o 3 wythnos;
- Torrwch y glaswellt, cadwch ef yn fyr a symudwch y glaswellt sydd wedi’i dorri cyn i'r caeau gael eu defnyddio ar gyfer hamdden;
- Cadwch anifeiliaid fferm oddi ar y caeau pan fyddant yn cael eu defnyddio;
- Atgoffwch bobl i olchi eu dwylo cyn bwyta, yfed ac ysmygu a darparwch gyfleusterau iddynt wneud hyn.
Gellir canfod canllawiau ar ddefnydd hamdden tir pori
ID: 4833, adolygwyd 09/03/2023