Lles Cyhoeddus a Diogelu'r Amgylchedd

Bioddiogelwch y mor, dyfrffyrdd ac afonydd

Os yw'ch digwyddiad naill ai'n defnyddio dyfrffyrdd fel afonydd neu gyrff dŵr fel y môr neu lynnoedd mewndirol, cynghorir eich bod yn gofyn i gyfranogwyr fod yn ymwybodol o fioddiogelwch. Os yw pobl yn dod â'u cychod neu gaiacau eu hunain neu offer arall fel gwiail pysgota ac abwyd, yna mae angen cymryd gofal i sicrhau nad yw clefydau a phlanhigion  ymledol (anfrodorol) yn cael eu lledaenu. Mae pawb sy'n ymweld â chorff dŵr yn gyfrifol am helpu i osgoi lledaenu rhywogaethau anfrodorol ar eu dillad, eu cyfarpar a phopeth arall sy'n dod i gysylltiad â dŵr.

Mae canllawiau ar gael ar  Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau anfrodorol Prydain (yn agor mewn tab newydd). Mae hon yn nodi cyfarwyddiadau syml a allai helpu pawb i atal trosglwyddo rhywogaethau anfrodorol yn ddamweiniol. Mae nifer o bosteri "Ataliwch y Lledaenu" hefyd ar gael i'w lawrlwytho yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

ID: 4840, adolygwyd 12/06/2025