Lles Cyhoeddus a Diogelu'r Amgylchedd

Cwn mewn digwyddiadau ac yng nghefn gwlad

Os yw'ch digwyddiad yn croesawu cŵn, cynghorir eich bod yn gofyn i bobl fod yn berchnogion cyfrifol a dilyn y camau hyn i gadw anifeiliaid anwes a phobl yn ddiogel ac amddiffyn yr amgylchedd:

  • Cynigiwch fagiau baw cŵn am ddim a chynghorwch y cyfranogwyr os na fyddant yn codi llanast cŵn y gofynnir iddynt adael y digwyddiad.
  • Cofiwch na ddylid gadael cŵn mewn ceir mewn tywydd poeth.
  • Dylid cadw cŵn dan reolaeth fel na fyddant yn codi ofn ar bobl, nac yn tarfu ar anifeiliaid fferm, adar neu fywyd gwyllt arall.
  • Os ydych yn cerdded dros Dir Mynediad (cefn gwlad agored dynodedig neu dir comin), rhaid cadw cŵn ar dennyn byr rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf - a dylent fod ar lîd trwy’r flwyddyn yn ymyl da byw - a dylid cadw at unrhyw arwyddion ychwanegol a allai gynghori perchnogion cŵn ynghylch cyfyngiadau (Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000).
  • Cynghorwch berchnogion cŵn i roi cŵn ar lîd ar lwybrau cyhoeddus, yn enwedig ar lwybr yr arfordir lle mae'r risg o syrthio yn uchel.
  • Cadwch gi ar lîd bob amser os na all perchnogion ddibynnu y bydd yn ufudd iddynt.
  • Cofiwch, yn ôl y gyfraith, fod gan ffermwyr yr hawl i ddinistrio ci sy'n anafu neu’n poeni eu hanifeiliaid.
  • Os yw anifail fferm yn rhedeg ar eich ôl pan fyddwch gyda'ch ci, mae'n fwy diogel gadael y ci oddi ar y lîd - a pheidiwch â pheryglu cael eich brifo wrth geisio ei ddiogelu.
ID: 4839, adolygwyd 09/03/2023