Lles Cyhoeddus a Diogelu'r Amgylchedd
Cyflenwad Dŵr Glân
Bwriedir i'r cyhoeddiad Canllawiau ar gyfer Darparu Cyflenwadau Dŵr Yfed Dros Dro mewn Digwyddiadau gael ei ddefnyddio gan drefnwyr digwyddiadau mawr megis yr Eisteddfod, sioeau amaethyddol neu garnifalau sydd angen cyflenwad dros dro o ffynhonnell gyhoeddus neu breifat neu o danceri neu dancer storio. Mae'n berthnasol i bob digwyddiad sydd angen cysylltiad newydd â'r cyflenwad dŵr yn ogystal â digwyddiadau sy'n cysylltu â chyflenwad presennol, ee digwyddiadau blynyddol sy’n cael eu cynnal ar yr un maes.
Am arweiniad pellach gweler Atodiad Cyflenwadau Dŵr Preifat yn Rhestr Wirio Trefnydd y Digwyddiad.
ID: 4831, adolygwyd 09/03/2023