Lles Cyhoeddus a Diogelu'r Amgylchedd
Darparu Cyfleusterau Toiledau
Gofalwch fod darpariaeth iechydol ddigonol yn cael ei gwneud ar gyfer nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu'ch digwyddiad, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer pobl ag anableddau.
Lle bo hynny'n bosibl, lleolwch doiledau ar wahanol bwyntiau o gwmpas y lleoliad yn hytrach nag mewn dim ond un ardal i leihau problemau gorlenwi a chiwio.
Dylid darparu toiledau hefyd gyda chyfleusterau golchi dwylo, gan gynnwys dŵr poeth a sebon a thywelion, yn enwedig unrhyw gyfleusterau a ddarperir ar gyfer trinwyr bwyd.
Mae'r tabl canlynol yn dangos y canllawiau cyffredinol ar gyfer darparu cyfleusterau lles:
Ar gyfer digwyddiadau gydag amser agor y giatiau o 6 awr neu fwy:
- Benyw: 1 toiled ar gyfer pob 100 o fenywod.
- Gwryw: 1 toiled ar gyfer pob 500 o ddynion, ynghyd ag 1 wrinal ar gyfer pob 150 o ddynion.
Ar gyfer digwyddiadau gydag amser agor y giatiau o lai na 6 awr:
- Benyw: 1 toiled ar gyfer pob 150 o fenywod.
- Gwryw: 1 toiled ar gyfer pob 600 o ddynion, ynghyd ag 1 wrinal ar gyfer pob 175 o ddynion.
Am ragor o fanylion am ddarpariaethau cyfleusterau glanweithdra, cyfeiriwch at BS 6465: Rhan 1 2006 neu'r Purple Guide.
ID: 4828, adolygwyd 09/03/2023