Lles Cyhoeddus a Diogelu'r Amgylchedd
Diogelwch plant
Mae angen i chi ystyried a oes angen gorsaf plant ar goll ar eich digwyddiad.
Dylai pob aelod o'r staff yn yr orsaf blant ar goll gael ei gofrestru o dan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dylid cadw cofrestr o'r holl blant / unigolion sydd wedi mynd ar goll sy'n cynnwys:
- dyddiad ac amser pryd y rhoddwyd gwybod bod y plentyn ar goll
- manylion y personau coll (enw, dyddiad geni)
- manylion pwy oedd gyda nhw
- manylion pryd a ble y cawsant eu gweld ddiwethaf.
Unwaith y bydd rhywun wedi rhoi gwybod am berson sydd wedi mynd ar goll:
- Rhowch neges i'r rhieni / gwarcheidwad yn gofyn iddynt ddod i'r orsaf cyn gynted ag y bo modd. Meddyliwch am sut y gellir gwneud hyn yn eich digwyddiad.
- Yna dylai staff DBS wedyn wirio hunaniaeth y personau i sicrhau mai nhw yw’r rhieni / gwarcheidwaid.
- Rhaid i’r staff DBS ddiweddaru trefnwyr y digwyddiad gyda manylion drwy'r amser.
ID: 4835, adolygwyd 09/03/2023