Lles Cyhoeddus a Diogelu'r Amgylchedd
Rheoli Llygredd - Goleuadau Llachar
Os na chânt eu rheoli'n iawn, gallai goleuadau llachar achosi niwsans i eraill.
Oherwydd lefelau cymharol isel o lygredd golau mae gan Sir Benfro awyr nos ysblennydd, ac mae partneriaid allweddol yn Sir Benfro, gan gynnwys Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ymdrechu i gadw ein sêr yn ddisglair. Os yw'ch digwyddiad yn mynd ymlaen i'r nos, meddyliwch am sut y gallwch leihau llygredd golau trwy oleuo'r hyn y mae angen i bobl ei weld fel y ddaear, yn hytrach na gadael i oleuni ymledu i'r awyr - rydych chi'n debygol o leihau eich costau ynni a gwella amgylchedd unigryw Sir Benfro eich digwyddiad.
Mae Sefydliad Gweithwyr Proffesiynol Goleuo - Canllawiau ar gyfer lleihau golau ymwthiol yn cynnig awgrymiadau ar sut i leihau'r broblem.
ID: 4837, adolygwyd 09/03/2023