Lles Cyhoeddus a Diogelu'r Amgylchedd

Lles Cyhoeddus a Diogelu'r Amgylchedd

Mae yna nifer o weithgareddau mewn digwyddiadau mewn perthynas â lles y cyhoedd a diogelu'r amgylchedd y mae'n rhaid eu hystyried. Mae'r rhain yn cynnwys:

  •  Darparu Cyfleusterau Toiledau
  •  Gofal meddygol i'r gynulleidfa
  • Materion sy'n ymwneud ag alcohol (cyffuriau a sylweddau eraill)
  • Cyflenwad Dŵr Glân
  • Arlwyo a Diogelwch Bwyd
  • Baw anifeiliaid
  • Diogelwch plant
  • Rheoli Llygredd - Sŵn
  • Rheoli Llygredd - Goleuadau Llachar
  •  Gwastraff / sbwriel
  •  Cŵn mewn digwyddiadau ac yng nghefn gwlad ac yng nghefn gwlad
  • Bioddiogelwch y Môr, Dyfrffyrdd ac Afonydd
  • Traethau a Diogelwch Dŵr
  •  Ffilmio a dronau

 

ID: 4827, adolygwyd 09/03/2023

Gofal meddygol i'r gynulleidfa

Gofalwch y bydd gennych ddigon o gymorth meddygol ac ambiwlansys ar y safle a chysylltwch â'ch gwasanaeth GIG a gwasanaethau ambiwlans lleol er mwyn iddynt allu cydbwyso'ch anghenion yn erbyn eu capasiti lleol. Ac eithrio ar gyfer digwyddiadau bach, risg isel lle nad oes angen ambiwlansys o bosibl, ac mewn digwyddiadau lle nad ydynt ar y safle, dylid llunio cynlluniau ar y cyd â gwasanaeth ambiwlans GIG lleol i egluro sut y bydd cleifion yn cael eu cludo i'r ysbyty.  Mae purple guide (yn agor mewn tab newydd) Fforwm y Diwydiant Digwyddiadau yn cynnwys cymorth cyntaf enghreifftiol ac asesiadau meddygol ar gyfer cynulleidfa mewn digwyddiad.

ID: 4829, adolygwyd 29/11/2023

Darparu Cyfleusterau Toiledau

Gofalwch fod darpariaeth iechydol ddigonol yn cael ei gwneud ar gyfer nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu'ch digwyddiad, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer pobl ag anableddau.

Lle bo hynny'n bosibl, lleolwch doiledau ar wahanol bwyntiau o gwmpas y lleoliad yn hytrach nag mewn dim ond un ardal i leihau problemau gorlenwi a chiwio.

Dylid darparu toiledau hefyd gyda chyfleusterau golchi dwylo, gan gynnwys dŵr poeth a sebon a thywelion, yn enwedig unrhyw gyfleusterau a ddarperir ar gyfer trinwyr bwyd.

Mae'r tabl canlynol yn dangos y canllawiau cyffredinol ar gyfer darparu cyfleusterau lles:

 

Ar gyfer digwyddiadau gydag amser agor y giatiau o 6 awr neu fwy:

  • Benyw: 1 toiled ar gyfer pob 100 o fenywod.  
  • Gwryw: 1 toiled ar gyfer pob 500 o ddynion, ynghyd ag 1 wrinal ar gyfer pob 150 o ddynion.

Ar gyfer digwyddiadau gydag amser agor y giatiau o lai na 6 awr:

  • Benyw: 1 toiled ar gyfer pob 150 o fenywod. 
  • Gwryw: 1 toiled ar gyfer pob 600 o ddynion, ynghyd ag 1 wrinal ar gyfer pob 175 o ddynion.  

Am ragor o fanylion am ddarpariaethau cyfleusterau glanweithdra, cyfeiriwch at BS 6465: Rhan 1 2006 neu'r Purple Guide.

ID: 4828, adolygwyd 09/03/2023

Materion sy'n ymwneud ag alcohol (cyffuriau a sylweddau eraill)

Os bydd cyfranogwyr neu wylwyr yn eich digwyddiad yn yfed alcohol, mae'n bwysig eich bod chi'n ystyried yr effeithiau a'r risg bosibl o hyn.

Nid oes rhaid i’r ffaith fod yna ddiodydd alcoholaidd mewn digwyddiad achosi risgiau iechyd cyhyd â bod rhagofalon yn cael eu cymryd.  Os yw person yn yfed dŵr, gallant leihau'r risg o ddadhydradu a gorludded yn y gwres.

Dylid hyfforddi stiwardiaid i weld arwyddion o orludded mewn gwres yn gynnar. Am arweiniad ar yr arwyddion edrychwch ar  y GIG 

Er mwyn helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol neu sy'n gysylltiedig â chyffuriau, meddyliwch am gael:

  • Ardaloedd ymlacio
  • mannau i gael dŵr am ddim.
ID: 4830, adolygwyd 09/03/2023

Cyflenwad Dŵr Glân

Bwriedir i'r cyhoeddiad  Canllawiau ar gyfer Darparu Cyflenwadau Dŵr Yfed Dros Dro mewn Digwyddiadau  gael ei ddefnyddio gan drefnwyr digwyddiadau mawr megis yr Eisteddfod, sioeau amaethyddol neu garnifalau sydd angen cyflenwad dros dro o ffynhonnell gyhoeddus neu breifat neu o danceri neu dancer storio. Mae'n berthnasol i bob digwyddiad sydd angen cysylltiad newydd â'r cyflenwad dŵr yn ogystal â digwyddiadau sy'n cysylltu â chyflenwad presennol, ee digwyddiadau blynyddol sy’n cael eu cynnal ar yr un maes.

Am arweiniad pellach gweler Atodiad Cyflenwadau Dŵr Preifat yn Rhestr Wirio Trefnydd y Digwyddiad.

ID: 4831, adolygwyd 09/03/2023

Arlwyo a Diogelwch Bwyd

Cysylltwch ag arlwywyr lleol a defnyddiwch gynnyrch lleol lle bynnag y bo modd.

Dylai trefnwyr digwyddiadau sicrhau bod yr holl gonsesiynau bwyd ac arlwywyr eraill wedi'u cofrestru gydag Awdurdod Lleol fel Gweithredwr Busnes Bwyd.

Yn ychwanegol at fod wedi cofrestru, argymhellir yn gryf y dylai trefnwyr wirio bod gan bob arlwywr sgôr hylendid bwyd o 3 neu uwch. Gellir gwirio hyn yr ASB  

Dylid darparu rhestr o enwau, cyfeiriadau, manylion cyswllt a manylion hylendid bwyd pob ciosg bwyd (gan gynnwys y rhai sy'n rhoi bwyd i ffwrdd fel rhan o arddangosiad) i'r Tîm Diogelwch Bwyd 21 diwrnod cyn y digwyddiad.

Ychydig o werth sydd mewn cael tystysgrifau hyfforddiant hylendid bwyd gan nad ydynt yn ofyniad ac ni fydd pob un (yn enwedig busnesau risg isel) yn eu cael.

Dylai unedau arlwyo gael eu lleoli yn synhwyrol, megis i ffwrdd oddi wrth ardaloedd gweithgarwch plant ac yn ymyl cyflenwadau dŵr ac ati.

Dylid gadael digon o le rhwng cyfleusterau arlwyo er mwyn atal unrhyw berygl y bydd tân yn lledaenu.

Mae hefyd yn arfer da i gael cyfleusterau toiled ar wahân ar gyfer trinwyr bwyd sy’n cynnwys cyfleusterau golchi dwylo, gan gynnwys dŵr poeth a sebon a thywelion. Dylech hefyd sicrhau, wrth benodi busnes bwyd, bod ganddynt eu cyfleusterau eu hunain o fewn eu stondinau, unedau, ac ati, i olchi dwylo, offer a lle bo angen, bwyd, gan gynnwys trefniadau ar gyfer darparu / storio dŵr poeth yn eu stondin fwyd y byddant yn eu defnyddio yn ystod y digwyddiad.

Gweler y ddolen i’r Rhestr Wirio Arlwyo Awyr Agored a Gymdeithas Arlwywyr Genedlaethol (NCASS). Mae NCASS yn gymdeithas fasnachol a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer arlwyo symudol, arlwyo allanol, ac arlwyo bwyd mewn digwyddiadau ac ar y stryd. Yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol arall, mae eu gwefan yn cynnwys dau ganllaw ar ddiogelwch nwy petroliwm hylifol ar gyfer ôl-gerbydau / faniau wedi'u trawsnewid a senarios yn ymwneud â phebyll mawr / pebyll / stondinau.

Cysylltwch â'r tîm Diogelwch Bwyd am ragor o wybodaeth os oes angen yn foodsafety@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 764551.

Bydd angen caniatâd Masnachu ar y Stryd i werthu bwyd neu nwyddau ar y briffordd. Cysylltwch â Thîm Gofal Strydoedd ar 01437 765441 neu streetcare@pembrokeshire.gov.uk

ID: 4832, adolygwyd 09/03/2023

Baw anifeiliaid

Dylai'r rhai sy'n cynllunio defnydd hamdden o borfa anifeiliaid (a ddefnyddir ar gyfer anifeiliaid sy’n pori) fod yn ymwybodol o'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig ag E.Coli 0157.  Mae plant mewn perygl arbennig.

Yn ddelfrydol i osgoi perygl o heintio gan E.Coli 0157 o'r ffynhonnell hon, ni ddylid defnyddio caeau a ddefnyddir ar gyfer pori neu gadw anifeiliaid ar gyfer gwersylla, picnic a mannau chwarae.

Gall y risgiau gael eu lleihau'n sylweddol trwy fabwysiadu'r rhagofalon synhwyrol canlynol:

  • Cadwch anifeiliaid fferm oddi ar y caeau 3 wythnos cyn eu defnyddio;
  •  Symudwch unrhyw faw gweladwy, yn ddelfrydol ar ddechrau'r cyfnod o 3 wythnos;
  • Torrwch y glaswellt, cadwch ef yn fyr a symudwch y glaswellt sydd wedi’i dorri cyn i'r caeau gael eu defnyddio ar gyfer hamdden;
  • Cadwch anifeiliaid fferm oddi ar y caeau pan fyddant yn cael eu defnyddio;
  • Atgoffwch bobl i olchi eu dwylo cyn bwyta, yfed ac ysmygu a darparwch gyfleusterau iddynt wneud hyn.

Gellir canfod canllawiau ar ddefnydd hamdden tir pori  

ID: 4833, adolygwyd 09/03/2023

Diogelwch plant

Mae angen i chi ystyried a oes angen gorsaf plant ar goll ar eich digwyddiad. 

Dylai pob aelod o'r staff yn yr orsaf blant ar goll gael ei gofrestru o dan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Dylid cadw cofrestr o'r holl blant / unigolion sydd wedi mynd ar goll sy'n cynnwys:

  • dyddiad ac amser pryd y rhoddwyd gwybod bod y plentyn ar goll
  • manylion y personau coll (enw, dyddiad geni)
  • manylion pwy oedd gyda nhw 
  • manylion pryd a ble y cawsant eu gweld ddiwethaf.

Unwaith y bydd rhywun wedi rhoi gwybod am berson sydd wedi mynd ar goll:

  • Rhowch neges i'r rhieni / gwarcheidwad yn gofyn iddynt ddod i'r orsaf cyn gynted ag y bo modd. Meddyliwch am sut y gellir gwneud hyn yn eich digwyddiad.
  • Yna dylai staff DBS wedyn wirio hunaniaeth y personau i sicrhau mai nhw yw’r rhieni / gwarcheidwaid.
  • Rhaid i’r staff DBS ddiweddaru trefnwyr y digwyddiad gyda manylion drwy'r amser.
ID: 4835, adolygwyd 09/03/2023

Rheoli Llygredd - Sŵn

Byddwch yn ymwybodol o eiddo sensitif i sŵn yn y cyffiniau a'r effaith y gallai'r digwyddiad ei gael arnynt.

Meddyliwch am natur a hyd y digwyddiad.

Sicrhewch fod lefelau sŵn cerddoriaeth yn cael eu rheoli'n ddigonol i atal niwsans sŵn i breswylwyr, yn enwedig sain y bas a systemau Cyhoeddiadau Cyhoeddus (PA). Fe'ch cynghorir i leoli llwyfannau fel y bônt yn wynebu i ffwrdd oddi wrth eiddo preswyl lle bo modd.

Ystyriwch siarad â chymdogion cyn y digwyddiad a rhowch rifau cyswllt iddynt rhag ofn problemau.

Mae rhagor o wybodaeth am Niwsans Swn 

ID: 4836, adolygwyd 09/03/2023

Rheoli Llygredd - Goleuadau Llachar

Os na chânt eu rheoli'n iawn, gallai goleuadau llachar achosi niwsans i eraill. 

Oherwydd lefelau cymharol isel o lygredd golau mae gan Sir Benfro awyr nos ysblennydd, ac mae partneriaid allweddol yn Sir Benfro, gan gynnwys Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ymdrechu i gadw ein sêr yn ddisglair.  Os yw'ch digwyddiad yn mynd ymlaen i'r nos, meddyliwch am sut y gallwch leihau llygredd golau trwy oleuo'r hyn y mae angen i bobl ei weld fel y ddaear, yn hytrach na gadael i oleuni ymledu i'r awyr - rydych chi'n debygol o leihau eich costau ynni a gwella amgylchedd unigryw Sir Benfro eich digwyddiad.

 Mae Sefydliad Gweithwyr Proffesiynol Goleuo - Canllawiau ar gyfer lleihau golau ymwthiol yn cynnig awgrymiadau ar sut i leihau'r broblem.

 

ID: 4837, adolygwyd 09/03/2023

Gwastraff / sbwriel

Bydd digwyddiadau bob amser yn cynhyrchu rhywfaint o wastraff, cynwysyddion bwyd a diod yn bennaf, ac mae angen i waredu hyn fod yn rhan allweddol o gynllunio eich digwyddiad.

Ceisiwch leihau faint o wastraff sydd yn eich digwyddiad bob amser trwy feddwl am wrthod, lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu, gwneud defnydd arall o neu bydru’r adnoddau y dewiswch eu defnyddio. 

Dylech:

  • Drefnu biniau ar gyfer sbwriel a gwastraff ailgylchadwy, y tu mewn a’r tu allan i'ch digwyddiad.
  • Trefnu glanhau ychwanegol ar safle eich digwyddiad a'r ardal o gwmpas lleoliad eich digwyddiad, yn ystod ac ar ôl eich digwyddiad.
  • Annog cyfranogwyr i fod yn gyfrifol gyda'u sbwriel a gwastraff trwy gydol eich digwyddiad.
  • Cymell a rhoi adnoddau i staff a gwirfoddolwyr reoli'ch gwastraff a helpu cyfranogwyr i waredu eu gwastraff a'u sbwriel yn eich digwyddiad.
  • Trefnu i grŵp o wirfoddolwyr lleol brwdfrydig lanhau ar ôl eich digwyddiad cymunedol.

Am arweiniad pellach ar reoli gwastraff ar gyfer y digwyddiad, ewch i WRAP  

Am ragor o wybodaeth am wastraff ac ailgylchu, cysylltwch â'r Adran Rheoli Gwastraff ar 01437 764551 neu wasteandrecycling@pembrokeshire.gov.uk

ID: 4838, adolygwyd 09/03/2023

Cwn mewn digwyddiadau ac yng nghefn gwlad

Os yw'ch digwyddiad yn croesawu cŵn, cynghorir eich bod yn gofyn i bobl fod yn berchnogion cyfrifol a dilyn y camau hyn i gadw anifeiliaid anwes a phobl yn ddiogel ac amddiffyn yr amgylchedd:

  • Cynigiwch fagiau baw cŵn am ddim a chynghorwch y cyfranogwyr os na fyddant yn codi llanast cŵn y gofynnir iddynt adael y digwyddiad.
  • Cofiwch na ddylid gadael cŵn mewn ceir mewn tywydd poeth.
  • Dylid cadw cŵn dan reolaeth fel na fyddant yn codi ofn ar bobl, nac yn tarfu ar anifeiliaid fferm, adar neu fywyd gwyllt arall.
  • Os ydych yn cerdded dros Dir Mynediad (cefn gwlad agored dynodedig neu dir comin), rhaid cadw cŵn ar dennyn byr rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf - a dylent fod ar lîd trwy’r flwyddyn yn ymyl da byw - a dylid cadw at unrhyw arwyddion ychwanegol a allai gynghori perchnogion cŵn ynghylch cyfyngiadau (Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000).
  • Cynghorwch berchnogion cŵn i roi cŵn ar lîd ar lwybrau cyhoeddus, yn enwedig ar lwybr yr arfordir lle mae'r risg o syrthio yn uchel.
  • Cadwch gi ar lîd bob amser os na all perchnogion ddibynnu y bydd yn ufudd iddynt.
  • Cofiwch, yn ôl y gyfraith, fod gan ffermwyr yr hawl i ddinistrio ci sy'n anafu neu’n poeni eu hanifeiliaid.
  • Os yw anifail fferm yn rhedeg ar eich ôl pan fyddwch gyda'ch ci, mae'n fwy diogel gadael y ci oddi ar y lîd - a pheidiwch â pheryglu cael eich brifo wrth geisio ei ddiogelu.
ID: 4839, adolygwyd 09/03/2023

Bioddiogelwch y Mor, Dyfrffyrdd ac Afonydd

Os yw'ch digwyddiad naill ai'n defnyddio dyfrffyrdd fel afonydd neu gyrff dŵr fel y môr neu lynnoedd mewndirol, cynghorir eich bod yn gofyn i gyfranogwyr fod yn ymwybodol o fioddiogelwch.  Os yw pobl yn dod â'u cychod neu gaiacau eu hunain neu offer arall fel gwiail pysgota ac abwyd, yna mae angen cymryd gofal i sicrhau nad yw clefydau a phlanhigion  ymledol (anfrodorol) yn cael eu lledaenu.   Mae pawb sy'n ymweld â chorff dŵr yn gyfrifol am helpu i osgoi lledaenu rhywogaethau anfrodorol ar eu dillad, eu cyfarpar a phopeth arall sy'n dod i gysylltiad â dŵr.

Mae canllawiau ar gael ar  Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau anfrodorol Prydain. Mae hon yn nodi cyfarwyddiadau syml a allai helpu pawb i atal trosglwyddo rhywogaethau anfrodorol yn ddamweiniol. Mae nifer o bosteri "Ataliwch y Lledaenu" hefyd ar gael i'w lawrlwytho yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

ID: 4840, adolygwyd 09/03/2023

Traethau a Diogelwch Dwr

Mae Sir Benfro yn falch o fod â’r nifer uchaf o draethau sydd wedi ennill gwobrau yng Nghymru. 

I gael gwybodaeth am wobrau ansawdd traethau a gwybodaeth am achubwyr bywyd, ewch i Traethau a Diogelwch Dwr 

Ni ddylai unrhyw ddigwyddiad a gynlluniwyd ar gyfer traeth sydd wedi ennill gwobrau effeithio ar y meini prawf (ee gwaharddiadau cŵn rhannol ar draethau baner las). Mae meini prawf y gwobrau (yn ogystal â thraethau a enillodd wobrau) i'w Cadwch Gymru'n Daclus 

ID: 4841, adolygwyd 09/03/2023

Ffilmio a dronau

Mae defnyddio dronau yn cynyddu'n gyflym yn y DU a’n hawyr yw rhai o'r prysuraf yn unrhyw le yn y byd. Nid yw rhai tirfeddianwyr megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn caniatáu defnyddio dronau ar eu tir ac felly mae'n werth gwirio bob amser. Er mwyn helpu i sicrhau bod defnyddwyr dronau yn y DU yn ymwybodol o sut i hedfan eu dronau yn ddiogel ac yn gyfreithlon, heb beryglu eraill nac aflonyddu ar fywyd gwyllt, rydym yn cynghori eich bod yn cadw at y canlynol:

 

 

ID: 4842, adolygwyd 09/03/2023