Llwybrau Bysiau ac Amserlenni

Llwybrau Bysiau - Rhestr y Bysiau Arfordirol

Mae Gwasanaeth Fflecsi Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) wedi disodli Gwasanaeth 315, 360, 361 ac 405. Yn hyrtach na gweithredu llwybr penodedig ac amserlen benodol, mae Fflecsi yn gweithredu o fewn parth penodol, ac mae ar gael rhwng 7.30am a 6.30pm (dydd Llun i ddydd Sadwrn). Gall cwsmeriaid archebu lle trwy lawrlwytho Ap Fflecsi o’r App Store neu’r Play Store. Fel arall, gallwch archebu lle trwy ffonio 0300 234 0300 (Llun-Sadwrn: 7am – 7pm/Sul: 9am – 6pm).

 

387 / 388 Gwibfws yr Arfordir (Haf)    

387 / 388 Gwibfws yr Arfordir (Gaeaf)

400 Pâl Gwibio: Tyddewi - Marloes (Haf)

403 bws Y Gwibiwr Celtaidd (Haf)

404 Gwibiwr Strwmbl: (Haf)

 

A yw'r bysiau arfordirol yn teithio yn y gaeaf?

Dim ond y 387/388 Gwibfws yr Arfordir o Hydref 3ydd 2024 i Mai 22ain 2025. Yn ystod y gaeaf byddant yn teithio'n llai aml, am fod llai o alw amdanynt bryd hynny. Gwiliwch yr amserlenni am ddyddiau ac amseroedd.

387/388 Gwibfws yr Arfordir

rhwng Penfro - Angle - Bosherston - Ystagbwll - Freshwater East ar: Dydd Iau ac Dydd Sadwrn.

Yn ogystal â'r bysiau hyn, fe fydd gwasanaethau bysiau lleol ar fynd trwy'r flwyddyn. Am ragor o wybodaeth gweler y dudalen 'Amserlenni'.

Pryd mae'r bysiau'n teithio yn yr haf?

Mai 24ain i 28ain Medi 2025. Gwiliwch yr amserlenni am ddyddiau ac amseroedd.

Ble allaf i gael amserlen bws?

Mae pob un o amserlenni bysiau'r arfordir ar gael i'w lawrlwytho a'u hargraffu oddi ar y wefan hon. Cliciwch ar 'Amserlenni' yn yr adran cludiant cyhoeddus. Os hoffech inni anfon taflen atoch trwy'r post cofiwch anfon e-bost at: greenways@pembrokeshire.gov.uk

Sut allaf i fynd i gerdded ar hyd llwybr yr arfordir heb ddefnyddio car?

Mae'n rhwydd! Os ewch chi ar drên, bws neu fferi i Sir Benfro yna gallwch chi ddefnyddio'r bysiau i fynd o amgylch yr ardal wedyn. Mantais defnyddio bysiau'r arfordir yw eich bod chi’n dal bws allan i ddechrau eich taith ac yna gallwch gerdded yn ôl yn eich amser eich hun heb boeni am orfod dal y bws ar amser penodol.

Allaf i ddod â'm ci ar y bws?

Gallwch, mae croeso i'ch ci deithio ar y bws (gyda chaniatâd y gyrrwr) cyn belled â bod eich ci'n lân, ar dennyn a'i fod yn eistedd ar y llawr a heb fod dan draed y teithwyr eraill. Da chi – cofiwch fod yn berchennog cyfrifol ar eich ci a glanhau ar ôl eich cyfaill bach – a gadael ôl pawennau'n unig os gwelwch yn dda!

Beth yw'r pris teithio ar y bysiau?

Mae'n anodd rhoi union bris teithio gan mai gwasanaethau lleol cofrestredig yw bysiau'r arfordir, a chaiff y prisiau teithio eu pennu yn gyfatebol i hynny. Os hoffech gael gwybod faint yw'r pris ffoniwch y cwmni bysiau'n uniongyrchol - mae'r manylion cysylltu i'w gweld ar yr amserlenni.

Mae deiliaid Pas Hyblyg Crwydro Cymru Gyfan yn cael teithio am ddim ar fysiau'r arfordir - does raid ichi ond dangos eich cerdyn i'r gyrrwr.

Os byddwch chi'n defnyddio llawer o fysiau mewn un diwrnod mae Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru yn fargen fendigedig a gallwch ei ddefnyddio i deithio trwy'r dydd. Oedolion £8.50, Plant £4.50. Oedolion Wythnosol £34, Plant Wythnosol £16. Os ydych chi'n bwriadu defnyddio cludiant cyhoeddus er mwyn teithio i Sir Benfro, beth am gael Pas Fflecsi Crwydro Cymru, sy'n cael ei dderbyn ar bob un o fysiau'r arfordir.

Allaf i ddod â'm beic ar y bws?

Caniateir beiciau plygu. Yn anffodus mae'r bysiau ddim yn gallu cario beiciau heb blygu oherwydd deddfwriaeth gyfredol. A chofiwch y gallwch chi fynd â'ch beic ar drenau: 2 feic ar Drenau Trafnidiaeth Cymru a 6 beic ar Drenau First Great Western.

Ble allaf i ddala'r bws?

Mae'r bysiau'n cadw at amserlen, sy'n dweud ble mae'r arosfannau bysiau. Yn y trefi gallwch chi fynd ar y bysiau mewn arosfan bysiau dynodedig, ond pan fyddwch chi yng nghefn gwlad bydd y bysiau'n dilyn trefn ‘Bachu Bws' sy'n golygu nad oes rhaid ichi fynd i arosfan bysiau er mwyn dala'r bws. Ewch at y ffordd a dodwch eich llaw lan i stopio'r bws wrth iddo ddod atoch.

Sut fyddaf i'n gwybod ble y dylwn i fynd oddi ar y bws?

Mae ein gyrwyr lleol yn hynod gyfarwydd â'r ardal a byddant yn eich helpu i ddweud yn union ble mae'r mannau mynd ar ac oddi ar y bysiau, ar gyfer mynd ar deithiau cerdded. Gallant hefyd ddweud ble mae pen eich siwrnai neu argymell un ar eich cyfer!

Rydym ni'n grŵp mawr, allwn ni archebu bws?

Os ydych chi'n grŵp o 8+ unigolyn, sydd am ddefnyddio bysiau'r arfordir yna byddwch cystal â chysylltu â'r cwmni bysiau priodol, ynghylch eich cynlluniau teithio (dydd Llun - Gwener, yn ystod oriau swyddfa). Mae rhif y cwmni bysiau i'w weld ar yr amserlen bysiau.

ID: 225, adolygwyd 08/10/2024