Llwybrau Bysiau ac Amserlenni

Rhwydwaith Bysiau De-orllewin Cymru

Hydref 2025:

Mae`r arolwg hwn bellach wedi cau, diolch i chi am gymryd rhan. 

Mae Awdurdodau Lleol yn Ne-orllewin Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn cydweithio i gynnig gwneud gwelliannau i'r rhwydwaith bysiau, wrth baratoi ar gyfer diwygio bysiau yn ehangach.

Rydym am glywed gennych i helpu i fireinio ein rhwydwaith bysiau lleol arfaethedig cyn ei gyflwyno yn 2027.

Diwygio Bysiau

Golyga Masnachfreinio Bysiau y bydd penderfyniadau am wasanaethau bysiau yng Nghymru (gan gynnwys llwybrau, amserlenni, prisiau, oriau gweithredu a safonau ansawdd gwasanaeth) yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig (CJC). Gall gweithredwyr bysiau ymgeisio am gontractau o amryw faint i redeg gwasanaethau i'r manylebau y cytunir arnynt.

Fel rhan o ddiwygio bysiau, bydd awdurdodau lleol, Cyd-bwyllgorau Corfforedig, gweithredwyr bysiau, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru oll yn cydweithio i ddylunio rhwydweithiau a gwasanaethau bysiau gwell a ddarperir yn bennaf trwy fasnachfreinio. Gyda’r cyllid sydd ar gael, byddwn yn blaenoriaethu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl a chymunedau orau. Mae masnachfreinio yn dwyn ynghyd cryfderau gweithredwyr preifat, trefol a chymunedol wrth ddarparu gwasanaethau'n effeithlon o fewn rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi’i chydlynu a’i chynllunio’n effeithiol. Bydd y newid hwn o fudd i bobl Cymru wrth ddarparu ar gyfer anghenion a gwahaniaethau lleol a rhanbarthol.

Arolwg 

Bydd yr arolwg ar-lein yn ceisio casglu barn, a fydd yn helpu i fireinio ein Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig. Fodd bynnag, mae cyfleoedd 'testun rhydd' fel y gellir darparu gwybodaeth am unrhyw beth sy'n bwysig i bobl am fysiau. Bydd yr arolwg yn cynnwys y map rhyngweithiol eto i chi gyfeirio ato.

Lenwi`r arolwg ar-lein nawr (yn agor mewn tab newydd)

Sesiynau galw heibio:

  • 21ain Gorffennaf 09:00 - 17:00 HaverHub, Hwlffordd
  • 5ed Medi 09:00 - 17:00 HaverHub, Hwlffordd 
ID: 13700, adolygwyd 30/10/2025

Tarfiadau i wasanaethau bws

Oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth, megis cerbydau’n torri i lawr neu ffyrdd yn cael eu cau ar frys, efallai y bydd gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu canslo, neu'n hwyr, neu’n methu dilyn eu llwybr arferol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

Rydym yn ymwybodol o’r tarfiadau canlynol i wasanaethau bysiau lleol: 

 

  • Dyddiad / amser: 19/01/2026 am 3 misoedd
  • Llwybr: 349 & 356
  • Gweithredwr: First Cymru
  • Manylion: Oedi tebygol oherwydd y gwaith ffordd ym Mhont Westfield Pill. Bydd goleuadau traffig 2 ffordd.

 

  • Dyddiad / amser: 19/01/2026 am 3 misoedd
  • Llwybr: 356
  • Gweithredwr: First Cymru
  • Manylion: Bydd y 17.30 o Tesco Aberdaugleddau yn terfynu yn Neyland. Bydd y 17.30 o Monkton yn terfynu yn Laws Street (Doc Penfro).

 

  • Dyddiad / amser: 09/02 i 13/02
  • Llwybr: 322 & 381
  • Gweithredwr: First Cymru
  • Manylion: Oedi tebygol oherwydd y gwaith ffordd.

 

  • Dyddiad / amser: 02/03 i 06/03
  • Llwybr: 313
  • Gweithredwr: Cyngor Sir Benfro
  • Manylion: Ni fydd yn gallu defnyddio’r arhosfan bws Poyston Cross oherwydd cau ffordd.

 

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau, gallwch hefyd gysylltu â gweithredwr y bws yn uniongyrchol. 

I roi gwybod am broblem sy'n effeithio ar eich gwasanaeth bws lleol ffoniwch ni ar 01437 764551 neu anfonwch neges e-bost i public.transport@pembrokeshire.gov.uk.

ID: 12709, adolygwyd 11/02/2026

Newidiadau arfaethedig ir gwasanaeth bysiau

Bydd y newidiadau arfaethedig canlynol i wasanaethau bysiau yn cael eu cyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf.  I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod unrhyw sylwadau neu bryderon, cysylltwch â public.transport@pembrokeshire.gov.uk.

 

Yn weithredol o

Rhif Llwybr

 Llwybr

Newidiadau arfaethedig

Amserlen newydd

05/01/26

302

Hubberston - Aberdaugleddau - Hwlffordd

  • Newidiadau i amseroedd i wella amser rhedeg a phrydlondeb.

302 Hubberston-Aberdaugleddau-Hwlffordd

05/01/26

349

Hwlffordd - Doc Penfro - Dinbych-y-pysgod

  • Gwasanaeth newydd 06.25 o Hwlffordd (yn cyrraedd Dinbych-y-pysgod, South Parade am 08:16) a gwasanaeth 07:20 o Dinbych-y-pysgod (yn cyrraedd Gorsaf Fysiau Hwlffordd am 09:14). Newidiadau bach ar adegau eraill i wella prydlondeb.

349 Hwlffordd-Doc Penfro-Dinbych-y-pysgod

05/01/26

X49

Hwlffordd - Dinbych-y-pysgod

  • Yn dechrau 1 awr yn gynharach

X49 Hwlffordd - Dinbych-y-pysgod
ID: 12312, adolygwyd 12/12/2025

Map Llwybr Bws

Cliciwch ar lwybr ar y map uchod i gael rhagor o wybodaeth.

 
ID: 3718, adolygwyd 29/07/2024

Llwybrau Bysiau - Rhestr yr Holl Fysiau

223 Glandwr - Caerfyrddin

224 Hendy-gwyn - Caerfyrddin

300 Gwasanaeth Tref Aberdaugleddau

301 Gwasanaeth Tref Hwlffordd

302 LlwynHelyg-Abdaugleddau-Hubberston

307 Hwlffordd - Pont Fadlen (mewn cylch)

308 Hwlffordd - Llangwm - Burton (mewn cylch)

311 Hwlffordd - Aberllydan - Hwlffordd

313 Clarbeston Road - Hwlffordd

322 Hwlffordd - Caerfyrddin

342 Croesgoch - Hwlffordd

349 Hwlffordd - Doc Penfro - Dinbych-y-pysgod

351 Dinbych-y-pysgod - Pentywyn (Haf)

351 Dinbych-y-pysgod - Pentywyn (Gaeaf)

356 Aberdaugleddau - Doc Penfro - Cil-Maen

381 Dinbych-y-pysgod - Arberth - Hwlffordd

387 / 388 Gwibfws yr Arfordir (Haf)

387 / 388 Gwibfws yr Arfordir (Gaeaf)

400 Pâl Gwibio: Tyddewi - Marloes (Haf)

403 bws Y Gwibiwr Celtaidd (Haf)

404 Gwibiwr Strwmbl: (Haf)

408 Aberteifi - Llandudoch - Traeth Poppit

410 Gwasanaeth y Dre Abergwaun

T5 Aberteifi - Abergwaun - Hwlffordd

T5 (Dydd Sul) Aberteifi - Abergwaun - Hwlffordd

T11 Hwlffordd - Tyddewi - Abergwaun

430 Aberteifi - Crymych - Arberth

508 National express Hwlffordd i Llundain

112 National Express Hwlffordd i Birmingham

642 Crymych - Clarbeston Road

644 Rhosybwlch - Clarbeston Road

X49 Hwlfford - Dinbych-y-pysgod

Mae gwasanaeth Fflecsi Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) wedi disodil gwasanaethau 315, 360, 361 a 405. Yn hyrtach na gweithredu llwybr penoredig ac amserlen benodol, mae Fflecsi yn gweithredu o fewn parth penodol, ac mae ar gael rhwng 7.30am a 6.30pm (dydd Llun i ddydd Sadwrn). Gall cwsmeriaid archebu lle trwy lawrwytho App Fflecsi o'r App Store neu'r Play Store. Fel arall, gallwch archebu lle trwy ffonio 0300 234 0300 (Llun-Sadwrn: 7am-7pm/Sul: 9am-6pm).

Parth Canol Sir Benfro

Parth Aberdaugleddau

Parth Gogledd Orllewin Sir Benfro

Parth Poppit

Parth De Sir Benfro

 

ID: 1974, adolygwyd 15/07/2025

Llwybrau ac Amserlenni Bysiau

Mae'r dudalen hon wrthi'n cael ei chyfieithu ar hyn o bryd, felly diolch am eich amynedd wrth i ni ychwanegu'r cynnwys.

ID: 1528, adolygwyd 22/09/2022

Llwybrau Bysiau - Rhestr y Bysiau Arfordirol

Mae Gwasanaeth Fflecsi Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) wedi disodli Gwasanaeth 315, 360, 361 ac 405. Yn hyrtach na gweithredu llwybr penodedig ac amserlen benodol, mae Fflecsi yn gweithredu o fewn parth penodol, ac mae ar gael rhwng 7.30am a 6.30pm (dydd Llun i ddydd Sadwrn). Gall cwsmeriaid archebu lle trwy lawrlwytho Ap Fflecsi o’r App Store neu’r Play Store. Fel arall, gallwch archebu lle trwy ffonio 0300 234 0300 (Llun-Sadwrn: 7am – 7pm/Sul: 9am – 6pm).

 

387 / 388 Gwibfws yr Arfordir (Haf)    

387 / 388 Gwibfws yr Arfordir (Gaeaf)

400 Pâl Gwibio: Tyddewi - Marloes (Haf)

403 bws Y Gwibiwr Celtaidd (Haf)

404 Gwibiwr Strwmbl: (Haf)

 

A yw'r bysiau arfordirol yn teithio yn y gaeaf?

Dim ond y 387/388 Gwibfws yr Arfordir o Hydref 2il 2025 i Mai 21ain 2026. Yn ystod y gaeaf byddant yn teithio'n llai aml, am fod llai o alw amdanynt bryd hynny. Gwiliwch yr amserlenni am ddyddiau ac amseroedd.

387/388 Gwibfws yr Arfordir

rhwng Penfro - Angle - Bosherston - Ystagbwll - Freshwater East ar: Dydd Iau ac Dydd Sadwrn.

Yn ogystal â'r bysiau hyn, fe fydd gwasanaethau bysiau lleol ar fynd trwy'r flwyddyn. Am ragor o wybodaeth gweler y dudalen 'Amserlenni'.

Pryd mae'r bysiau'n teithio yn yr haf?

Mai 23ain i 27ain Medi 2026. Gwiliwch yr amserlenni am ddyddiau ac amseroedd.

Ble allaf i gael amserlen bws?

Mae pob un o amserlenni bysiau'r arfordir ar gael i'w lawrlwytho a'u hargraffu oddi ar y wefan hon. Cliciwch ar 'Amserlenni' yn yr adran cludiant cyhoeddus. Os hoffech inni anfon taflen atoch trwy'r post cofiwch anfon e-bost at: greenways@pembrokeshire.gov.uk

Sut allaf i fynd i gerdded ar hyd llwybr yr arfordir heb ddefnyddio car?

Mae'n rhwydd! Os ewch chi ar drên, bws neu fferi i Sir Benfro yna gallwch chi ddefnyddio'r bysiau i fynd o amgylch yr ardal wedyn. Mantais defnyddio bysiau'r arfordir yw eich bod chi’n dal bws allan i ddechrau eich taith ac yna gallwch gerdded yn ôl yn eich amser eich hun heb boeni am orfod dal y bws ar amser penodol.

Allaf i ddod â'm ci ar y bws?

Gallwch, mae croeso i'ch ci deithio ar y bws (gyda chaniatâd y gyrrwr) cyn belled â bod eich ci'n lân, ar dennyn a'i fod yn eistedd ar y llawr a heb fod dan draed y teithwyr eraill. Da chi – cofiwch fod yn berchennog cyfrifol ar eich ci a glanhau ar ôl eich cyfaill bach – a gadael ôl pawennau'n unig os gwelwch yn dda!

Beth yw'r pris teithio ar y bysiau?

Mae'n anodd rhoi union bris teithio gan mai gwasanaethau lleol cofrestredig yw bysiau'r arfordir, a chaiff y prisiau teithio eu pennu yn gyfatebol i hynny. Os hoffech gael gwybod faint yw'r pris ffoniwch y cwmni bysiau'n uniongyrchol - mae'r manylion cysylltu i'w gweld ar yr amserlenni.

Mae deiliaid Pas Hyblyg Crwydro Cymru Gyfan yn cael teithio am ddim ar fysiau'r arfordir - does raid ichi ond dangos eich cerdyn i'r gyrrwr.

Os byddwch chi'n defnyddio llawer o fysiau mewn un diwrnod mae Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru yn fargen fendigedig a gallwch ei ddefnyddio i deithio trwy'r dydd. Oedolion £9.00, Plant £4.75. Oedolion Wythnosol £36.00, Plant Wythnosol £17.00. Os ydych chi'n bwriadu defnyddio cludiant cyhoeddus er mwyn teithio i Sir Benfro, beth am gael Pas Fflecsi Crwydro Cymru, sy'n cael ei dderbyn ar bob un o fysiau'r arfordir.

Allaf i ddod â'm beic ar y bws?

Caniateir beiciau plygu. Yn anffodus mae'r bysiau ddim yn gallu cario beiciau heb blygu oherwydd deddfwriaeth gyfredol. A chofiwch y gallwch chi fynd â'ch beic ar drenau: 2 feic ar Drenau Trafnidiaeth Cymru a 6 beic ar Drenau First Great Western.

Ble allaf i ddala'r bws?

Mae'r bysiau'n cadw at amserlen, sy'n dweud ble mae'r arosfannau bysiau. Yn y trefi gallwch chi fynd ar y bysiau mewn arosfan bysiau dynodedig, ond pan fyddwch chi yng nghefn gwlad bydd y bysiau'n dilyn trefn ‘Bachu Bws' sy'n golygu nad oes rhaid ichi fynd i arosfan bysiau er mwyn dala'r bws. Ewch at y ffordd a dodwch eich llaw lan i stopio'r bws wrth iddo ddod atoch.

Sut fyddaf i'n gwybod ble y dylwn i fynd oddi ar y bws?

Mae ein gyrwyr lleol yn hynod gyfarwydd â'r ardal a byddant yn eich helpu i ddweud yn union ble mae'r mannau mynd ar ac oddi ar y bysiau, ar gyfer mynd ar deithiau cerdded. Gallant hefyd ddweud ble mae pen eich siwrnai neu argymell un ar eich cyfer!

Rydym ni'n grŵp mawr, allwn ni archebu bws?

Os ydych chi'n grŵp o 8+ unigolyn, sydd am ddefnyddio bysiau'r arfordir yna byddwch cystal â chysylltu â'r cwmni bysiau priodol, ynghylch eich cynlluniau teithio (dydd Llun - Gwener, yn ystod oriau swyddfa). Mae rhif y cwmni bysiau i'w weld ar yr amserlen bysiau.

ID: 225, adolygwyd 29/09/2025

Cysylltiadau Gweithredwyr Bws Sir Benfro

Am wybodaeth am amserlenni a chymorth i drefnu eich taith yn lleol neu'n genedlaethol, mae croeso i chi alw Traveline Cymru (yn agor mewn tab newydd) ar Radffôn 0800 464 0000. Oherwydd effaith prinder gyrwyr, mae'n bosibl y bydd gwasanaethau trafnidiaeth yn cael eu newid ar fyr rybudd. Pan fyddwch yn ffonio aelodau o dîm Traveline Cymru, byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda wrth iddynt.

I ofyn am lyfryn amserlenni ar gyfer Sir Benfro cysylltwch â'r: 

Uned Gludiant
Cyngor Sir Penfro 
Hwlffordd, SA61 1TP

Galwch 01437 764551 e-bost:public.transport@pembrokeshire.gov.uk

Cwmnïau bysiau lleol

Cyngor Sir Benfro

01437 775062
Y Garej, Tiers Cross,
Hwlffordd

First Cymru 

0870 608 2608
Llinell Ymholiadau 

First Group (yn agor mewn tab newydd)

Ystâd Ddiwydiannol Y Llwyn Helyg, Hwlffordd 01792 572255

Moduron Midway 

01239 831267
Midway Garage, Crymych 

Y Brodyr Richards 

01239 613756
Garej Trewyddel, Aberteifi

Bysiau Cwm Taf 

01994 240908
Ciffig, Yr Hendy-gwyn ar Daf

Sarah Bell Minibuses

07828 940955
Rhosyn Gwyn, Trecwn

National Express 

08705 808080
Llinell Ymholiadau 

 

ID: 226, adolygwyd 04/09/2024