Llwybrau Bysiau ac Amserlenni

Newidiadau Arfaethedig I’r Gwasanaeth Bysiau

Bydd y newidiadau arfaethedig canlynol i wasanaethau bysiau yn cael eu cyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf.  I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod unrhyw sylwadau neu bryderon, cysylltwch â public.transport@pembrokeshire.gov.uk.

 

Yn weithredol o

Rhif Llwybr

 Llwybr

Newidiadau arfaethedig

Amserlen newydd

04/01/25

 

 

351

Dinbych-y-pysgod-Llanrhath-Pentywyn

  • O hyn ymlaen, bydd gwasanaeth hefyd yn rhedeg ar ddydd Sadwrn yn ystod y gaeaf.

 351 o 4.1.25

06/01/25

 

 

 

301

Gwasanaeth Dref Hwlffordd

  • Ni fydd y gwasanaeth yn galw yn Augustine Way bellach. Mae safleoedd bws eraill ar gael yn St Thomas Green neu Horsefair.

  • Bydd safle bws newydd ar Scarrowscant Lane, ger y gyffordd â Tasker Way.

 301 o 6.1.2025

06/01/25

 

 

302

Ysbyty'r Llwyn Helyg-Hubberston

  • Mae amser ychwanegol wedi'i ychwanegu at deithiau i helpu i wella prydlondeb.

 302 o 6.1.2025

06/01/25

 

 

307

Hwlffordd-Pont Fadlen

  • Bydd gwasanaeth newydd yn ganol bore (Dydd Llun i ddydd Gwener) ac yn ganol prynhawn (Dydd Gwener yn unig).

 307 o 6.1.2025

06/01/25

 

 

308

Hwlffordd-Llangwm-Burton (Mewn Cylch)

  • Bydd taith y prynhawn yn galw ym Mharc Manwerthu Llwynhelyg ac Ysbyty Llwynhelyg.

 308 o 6.1.2025

06/01/25

 

 

311

Hwlffordd-Aberllydan

  • Bydd dwy daith ddwyffordd ychwanegol yn cael eu darparu, yn ganol bore ac yn ganol prynhawn.

 311 o 6.1.2025

06/01/25

 

 

 

 

322

Ysbyty'r Llwyn Helyg-Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin

  • Newid llwybr yng Nghaerfyrddin.  Bydd bws yn mynd o orsaf fysiau Caerfyrddin o amgylch y ffordd osgoi i ysbyty Glangwili, ac yna'n dychwelyd drwy'r dref.

  • Mae'r cysylltiad â gwasanaeth 381 yn Arberth ar gyfer teithio i/o Ddinbych-y-pysgod ar waith o hyd. 

  • Mae amser ychwanegol wedi'i ychwanegu at deithiau i helpu i wella prydlondeb.

 322 o 6.1.2025

06/01/25

 

 

 

 

 

 

 

349

Hwlffordd-Doc Penfro-Dinbych-y-pysgod

  • Newid llwybr yn Hwlffordd.  Bydd bws yn gadael o'r orsaf fysiau i ysbyty Llwynhelyg, yna o amgylch y ffordd osgoi i Picton Place.

  • Bydd gwasanaeth 2.25pm o Hwlffordd yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn, nid yn ystod gwyliau ysgol yn unig.

  • Bws newydd, hwyrach o Benfro i Hwlffordd am 7.40pm. 

  • Gwell cysylltiad â gwasanaeth 381 yn Ninbych-y-pysgod.

  • Mae amser ychwanegol wedi'i ychwanegu at deithiau i helpu i wella prydlondeb.

 349 o 6.1.2025

06/01/25

 

 

 

 

 

 

381

Hwlffordd-Arberth-Dinbych-y-pysgod

  • Newid llwybr yn Hwlffordd.  Bydd bws yn gadael o'r orsaf fysiau i ysbyty Llwynhelyg, yna o amgylch y ffordd osgoi ar ei ffordd allan o'r dref tuag at Arberth. Bydd teithwyr ar gyfer parc manwerthu Llwynhelyg yn defnyddio'r arhosfan y tu allan i Home Bargains ar gyfer teithiau yno ac yn ôl. 

  • Mae'r cysylltiad â gwasanaeth 322 yn Arberth ar gyfer teithio i/o Gaerfyrddin ar waith o hyd.

  • Gwell cysylltiad â gwasanaeth 348/381 yn Ninbych-y-pysgod.

  • Mae amser ychwanegol wedi'i ychwanegu at deithiau i helpu i wella prydlondeb.

 381 o 6.1.2025

06/01/25

T5

Hwlffordd-Abergwaun-Aberteifi-Aberystwyth

  • Bydd amserlen dros dro ar waith o 6 Ionawr 2025 am o leiaf 8 wythnos, oherwydd cau ffordd yn Nhrefdraeth.

  • Ni fydd bysus yn gallu defnyddio'r prif safle bws yn Nhrefdraeth.  Bydd safleoedd bws eraill ar gael ger Neuadd Goffa Trefdraeth a thafarn y Golden Lion.

  • Oherwydd y llwybr gwyro cul, bydd bws mini hygyrch â llawr isel yn cael ei ddarparu rhwng Abergwaun ac Aberteifi. 

  • Bydd yn rhaid i bob teithiwr newid yn Abergwaun er mwyn teithio ymlaen i Aberteifi neu Hwlffordd. 

  • Bydd y bws 7.45am o Hwlffordd yn terfynu yn Abergwaun. 

 T5 Amserlen Dros Dro (Aberteifi - Abergwaun - Hwlffordd)
ID: 12312, adolygwyd 05/12/2024