Llwybrau Bysiau ac Amserlenni
Y Cynllun Pas Teithio Mantais
Mae'r cynllun hwn yn rhoi'r hawl i bobl hŷn 60 neu fwy a phobl gydag anableddau sy'n byw yng Nghymru deithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol ym mhob rhan o Gymru.
Ni fydd y cardiau lliw gwyrdd hen arddull yn cael eu cydnabod gan ddarllenwyr electronig ar fysiau ar ôl 31 Rhagfyr 2019.
Sylwch y bydd rhaid efallai i rai ymgeiswyr sy'n gwneud cais ar sail anabledd gael ffurflen Cais am Gerdyn Teithio Mantais – Asesiad Cymhwyster Anabledd, gan y Cyngor Sir.
Dull cyffredin ar gyfer cymhwysedd
Mae'r awdurdod hwn dan ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu, ac i'r diben hwn gall ddefnyddio'r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi ar y ffurflen gais am gerdynnau teithio rhatach er mwyn atal a chanfod twyll. Gall hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus i'r dibenion hyn.
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn