Llyfrgelloedd Sir Benfro

Llyfrgell Gymunedol Arberth

3 Town Moor Mews
Arberth
SA67 7DF

e-bost narberthlibrary@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 775650  

 

Amdanom ni

Rhedir Llyfrgell Gymunedol Arberth mewn partneriaeth driphlyg gan Gyfeillion Llyfrgell Arberth, Cyngor Tref Arberth a Chyngor Sir Penfro.

  

Hysbysiad pwysig: Nid yw system mynediad heb staff Open+ ar gael

Oherwydd nam technegol ar y system larwm, nid yw mynediad heb staff Open+ ar gael ar hyn o bryd. Mae’r cwmni larwm yn mynd i’r afael â’r mater, ac rydym yn aros iddynt gadarnhau dyddiad atgyweirio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a gwerthfawrogwn eich dealltwriaeth wrth i ni weithio i ddatrys hyn cyn gynted â phosibl.

 

Hysbysiad pwysig- llyfrgell ar gau 

Byddwch yn ymwybodol ei bod yn debygol y bydd Llyfrgell Gymunedol Arberth ar gau ddydd Mawrth 24 Chwefror 2026 gan y bydd yn cael ei defnyddio fel gorsaf bleidleisio ar gyfer yr etholiadau lleol. Os y caiff hyn ei gadarnhau, ni fydd unrhyw wasanaethau llyfrgell nac Open+ ar gael ar y dyddiad hwnnw.

Bydd Llyfrgell Gymunedol Arberth yn cael ei defnyddio fel gorsaf bleidleisio ddydd Iau 7 Mai 2026 ac ni fydd unrhyw wasanaethau llyfrgell, gan gynnwys Open+, ar gael. Byddwn ar agor ddydd Gwener 8 Mai 2026 yn lle hynny rhwng 10am ac 1pm a rhwng 2pm a 5pm.

 

Oriau agor

Dydd Mawrth: 10.00 - 12.00 a 3.00 - 5.00

Dydd Mercher: 3.00 - 5.00

Dydd Iau: 10.00 - 1.00 a 2.00 - 5.00

Dydd Sadwrn: 10.00 - 1.00

 

Rhybydd i bob defnyddiwr Open+

Ni fydd mynediad at Open+ ar gael yn Llyfrgell Arberth o 5pm bob dydd Mawrth.

Mae hyn er mwyn caniatáu ar gyfer cyfarfodydd amrywiol Cyngor Tref Arberth (cyfarfodydd Cyngor Llawn a Phwyllgor) a fydd yn cael eu cynnal yn y llyfrgell.

Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. Diolch, Llyfrgell Gymunedol Arberth.

 

Cyfleusterau

  • Ardal yn y llyfrgell i blant a phobl ifanc
  • 3 cyfrifiadur cyhoeddus gyda mynediad rhad ac am ddim i'r rhyngrwyd, Microsoft Office a sganiwr
  • Wi-fi (ar ofyn)
  • Argraffydd lliw

 

Cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Er mwyn rhedeg cwrs mae angen isafswm o bobl i gymryd rhan. Ein nod yw darparu cyrsiau dwyieithog ble mae’n ymarferol bosibl. Pan fyddwch yn gofyn am gymryd rhan mewn cwrs, byddwn yn gofyn i chi os hoffech chi gymryd rhan yn Gymraeg yn unig. Byddwn yn darparu cyrsiau mewn Cymraeg yn unig pan fydd y niferoedd wedi cyrraedd yr isafswn sydd ei angen i redeg cwrs.

ID: 437, revised 26/01/2026