Llyfrgelloedd Sir Benfro

Sut i Ymuno

Mae’n rhad ac am ddim i ymuno â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Benfro a gallwch ymuno waeth beth fo eich oedran! Serch hynny, rhaid i blant dan 16 oed gael llofnod rhiant neu warcheidwad ar eu ffurflen gais a bydd angen eu caniatâd arnynt i ddefnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell.

Gallwch ymuno â’r gwasanaeth Llyfrgell gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau canlynol:

Yn y cnawd

Drwy alw yn y cnawd yn unrhyw gangen gan ddefnyddio ffurflen gais.

Ar lein

Drwy lenwi’r Ffurflen Cofrestru (sylwer os gwelwch yn dda, drwy ymuno ar-lein, rhoddir rhif llyfrgell dros dro i chi a fydd ond yn ddilys am dri mis, ac a fydd ond yn rhoi mynediad i chi i rai o’n hadnoddau e-lyfrgell 24/7. I fanteisio’n llawn ar y cyfan sydd gan Lyfrgelloedd Sir Benfro i’w cynnig, bydd angen i chi ymweld ag un o’n canghennau gan ddod â’ch rhif dros dro ac un prawf o’ch hunaniaeth gyda chi.

Bydd angen i chi ddarparu un prawf o’ch hunaniaeth sy’n dangos eich enw a’ch cyfeiriad, megis:

  • Trwydded yrru gyda chyfeiriad
  • Trwydded teledu
  • Bil cyfleustodau (a gyhoeddwyd o fewn y tri mis diwethaf)
  • Datganiad banc / cymdeithas adeiladu (a gyhoeddwyd o fewn y tri mis diwethaf)
  • Datganiad cerdyn credyd (a gyhoeddwyd o fewn y tri mis diwethaf)
  • Bil treth gyngor / llyfr rhent y Cyngor
  • Datganiad Cyllid a Thollau ei Mawrhydi
  • Pasbort sy’n cynnwys cyfeiriad (ble dangosir y cyfeiriad wedi’i roi yn ei le’n swyddogol gan yr awdurdod sy’n cyhoeddi’r pasbort)
  • Cerdyn adnabod cenedlaethol y DU neu wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd, gyda chyfeiriad
  • Trwydded aros gan y Swyddfa Gartref
  • Tystysgrif Prifysgol ar gyfer neuadd breswyl (wedi’i stampio a’i llofnodi gan y sefydliad)
  • Trwydded arfau’r DU
  • Polisi yswiriant cartref
  • Cerdyn â llun myfyrwyr rhyngwladol

Methu â mynd i gangen neu lyfrgell deithiol?

Os nad oes modd i chi ymweld â changen neu lyfrgell deithiol (yn agor mewn tab newydd) yn y cnawd, efallai yr hoffech fanteisio ar ein:

Gwasanaeth Llyfrgell yn y Cartref, ble bydd un o’n staff llyfrgell yn gallu dod ag eitemau i chi eu benthyg yn uniongyrchol i’ch cartref

Neu:

ein Gwasanaeth Llyfrgell Teulu a Ffrindiau – ble gallwch enwebu rhywun i gasglu a dychwelyd eitemau ar eich rhan o gangen neu lyfrgell deithiol. 

ID: 411, adolygwyd 30/10/2023