Llyfrgelloedd Sir Benfro

Ymuno ar-lein

Mae angen i chi wybod:   

  • I fenthyg llyfr, bydd angen eich cerdyn llyfrgell neu rif llyfrgell.   
  • I ddefnyddio cyfrifiadur llyfrgell, bydd angen gwybod eich rhif PIN.   

Gwasanaethau a fydd ar gael:   

  • Benthyg a dychwelyd llyfrau  
  • BorrowBox a Press Reader  
  • Wi-Fi y llyfrgell  
  • Cyfrifiaduron y llyfrgell  

Gwasanaethau na fydd ar gael am y tro:   

  • Archebion  
  • Catalog ar-lein   
  • Peiriannau hunanwasanaeth (12 Mai a 4 Mehefin)
  • Mynediad heb staff i Open Plus (12 Mai a 4 Mehefin)

 

Ymuno ar-leinDrwy lenwi’r ffurflen ar-lein (yn agor mewn tab newydd)

Sylwer os gwelwch yn dda, drwy ymuno ar-lein, rhoddir rhif llyfrgell dros dro i chi a fydd ond yn ddilys am dri mis, ac a fydd ond yn rhoi mynediad i chi i rai o’n hadnoddau e-lyfrgell 24/7. I fanteisio’n llawn ar y cyfan sydd gan Lyfrgelloedd Sir Benfro i’w cynnig, bydd angen i chi ymweld ag un o’n canghennau gan ddod â’ch rhif dros dro ac un prawf o’ch hunaniaeth gyda chi.

Bydd angen i chi ddarparu un prawf o’ch hunaniaeth sy’n dangos eich enw a’ch cyfeiriad, megis:

  • Trwydded yrru gyda chyfeiriad
  • Trwydded teledu
  • Bil cyfleustodau (a gyhoeddwyd o fewn y tri mis diwethaf)
  • Datganiad banc / cymdeithas adeiladu (a gyhoeddwyd o fewn y tri mis diwethaf)
  • Datganiad cerdyn credyd (a gyhoeddwyd o fewn y tri mis diwethaf)
  • Bil treth gyngor / llyfr rhent y Cyngor
  • Datganiad Cyllid a Thollau ei Mawrhydi
  • Pasbort sy’n cynnwys cyfeiriad (ble dangosir y cyfeiriad wedi’i roi yn ei le’n swyddogol gan yr awdurdod sy’n cyhoeddi’r pasbort)
  • Cerdyn adnabod cenedlaethol y DU neu wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd, gyda chyfeiriad
  • Trwydded aros gan y Swyddfa Gartref
  • Tystysgrif Prifysgol ar gyfer neuadd breswyl (wedi’i stampio a’i llofnodi gan y sefydliad)
  • Trwydded arfau’r DU
  • Polisi yswiriant cartref
  • Cerdyn â llun myfyrwyr rhyngwladol
ID: 551, adolygwyd 12/05/2026