Llygredd Golau
Beth ddylwn i wneud os wy’n dioddef o lygredd golau?
Yn gyntaf, os yw golau’n aflonyddu arnoch, ewch at bwy bynnag sy’n gyfrifol am y goleuni ac egluro’n gwrtais ac yn dawel bod y golau yn eich poeni. Er y gall hyn fod yn anodd i chi, efallai nad oes neb yn ymwybodol o’r gofid sy’n cael ei achosi gan y golau ac efallai y gallwch ddatrys y mater trwy sgwrsio yn ei gylch. Efallai mai mân addasiad yw’r cyfan sydd ei angen, neu gytuno ynghylch pryd i oleuo neu beidio.
Os bydd eich cyswllt anffurfiol yn methu, neu na allwch siarad â phwy bynnag sy’n gyfrifol am y goleuo, gallwch gysylltu â’r Tîm Iechyd Cyhoeddus a fydd yn gallu ymchwilio i’ch cwyn.
Pryd all y Cyngor weithredu?
Yn gyntaf, bydd yr Adran yn ystyried a yw’r goleuni’n dod o eiddo a eithriwyd. Os nad yw’n dod o eiddo eithriedig, rhaid i’r adran benderfynu a yw’r goleuni gwneud yn ffurfio niwsans statudol sy’n niweidiol i iechyd neu niwsans sy’n ymyrryd yn sylweddol â defnydd a mwynhad unigolion cyffredin o’u heiddo’u hunain. Nid oes modd gweithredu’n unig oherwydd bod rhywun yn ymwybodol o oleuni’n taflu ar eu heiddo o ffynhonnell arall. Bydd y camau y gall Adran Diogelu’r Cyhoedd eu cymryd hefyd yn dibynnu a yw’r goleuni’n dod o eiddo diwydiant, masnach neu fusnes, cyfleuster chwaraeon goleuedig awyr agored neu eiddo arall sydd ag amddiffyniad ‘dull gorau ymarferol’.