Llygredd Golau

Beth yw llygredd golau?

Yn ôl pob tebyg, y ffordd orau o ddisgrifio llygredd golau yw golau artiffisial sy’n cael goleuo, neu lygru, ardaloedd na fwriadwyd eu goleuo.

Mae llygredd golau’n cynnwys amryw elfennau:

  • Golau’n tresmasu – goleuni’n gollwng y tu hwnt i derfyn yr eiddo lle mae’r golau, weithiau’n taflu trwy ffenestri a llenni.
  • Golau tanbaid - disgleirdeb annifyr golau o’i weld o flaen cefndir tywyllach.
  • Gwrid yr awyr - y gwrid pinc neu oren sydd i’w weld am filltiroedd o gwmpas trefi a dinasoedd oherwydd gwasgaru golau artiffisial gan lwch a defnynnau dŵr yn yr awyr.
ID: 2406, adolygwyd 23/03/2023