Llygredd Golau
Beth yw’r gyfraith o ran llygredd golau?
Mae adran 102 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 yn diwygio adran 79 o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 i gynnwys niwsans o olau artiffisial. Fodd bynnag, eithriwyd eiddo penodol o’r ddeddfwriaeth. Hwn yw eiddo sy’n cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer cludiant ac eiddo lle mae angen goleuni llachar am resymau diogelwch a sicrwydd, gan gynnwys:
- Meysydd awyr
- Eiddo rheilffyrdd
- Gorsafoedd bysiau a chyfleusterau cysylltiedig
- Goleudai
- Carcharau
- Cyfleusterau amddiffyn
Mae’r gyfraith hefyd yn cydnabod yr angen am oleuadau diogelu masnachol a llifoleuo cyfleusterau chwaraeon ‘perthnasol’ (ond nid y rhai ar eiddo cartref) a, thra bo Adran Diogelu’r Cyhoedd yn gallu ymchwilio i gwynion yn erbyn niwsans o’r mathau hyn o oleuadau, mae gan weithredwyr y cyfleusterau hyn amddiffyniad ‘dull ymarferol gorau’ yn y gyfraith. Fodd bynnag, mae disgwyl eto iddynt ddefnyddio golau artiffisial yn gyfrifol gan ystyried amgylchiadau lleol.