Llygredd Golau
Pa ffactorau sy’n penderfynu a yw goau artiffisial yn niwsans statudol neu beidio?
Penderfynir niwsans statudol ar sail nifer o ffactorau, gan gynnwys:
- Natur y cylch, h.y. gwledig / trefol / masnachol
- Faint o ddigwyddiadau niwsans golau a fu hyd yma
- Pa mor aml mae’r golau i’w weld
- O ba adeg o’r nos mae’r golau i’w weld o a phryd gaiff ei ddiffodd
- Am ba hyd mae’r golau’n para
- Beth yw effaith y golau, e.e. pa mor llachar yw yn eich tŷ ac ar ba ystafelloedd mae’n effeithio
- A gymrwyd unrhyw gamau gan yr achwynydd i liniaru effaith y golau, e.e. defnyddio llenni neu fleindiau.
ID: 2412, adolygwyd 12/09/2022