Llygredd Golau

Sut mae cwyno’n swyddogol wrth y Cyngor?

Bydd angen i chi gysylltu â’r Tîm Iechyd Cyhoeddus a rhoi’r manylion canlynol:

  • Natur y gŵyn
  • Y cyfeiriad ble mae’r broblem yn cael ei hachosi
  • Eich enw a’ch cyfeiriad eich hun a rhif cysylltu a/neu gyfeiriad e-bost. Sylwch nad yw’r Adran yn gallu gweithredu ar gwynion dienw oherwydd gofynion cyfreithiol cyfraith niwsans a hawliau dynol, a materion ymarferol ymchwilio’n effeithiol i gwynion ynghylch niwsans.

Gaf i aros yn ddienw yn dilyn fy nghwyn?

Yn wahanol i fathau eraill o gwynion ynghylch niwsans y bydd yr adran yn ymchwilio iddynt, mae’n annhebygol y bydd modd cynnal cydgyfrinachedd achwynwyr yn ystod ymchwiliad i niwsans golau artiffisial, oherwydd y bydd bwy bynnag sy’n achosi’r niwsans eisiau cyngor penodol yr Adran ar ba addasiadau sy’n ofynnol ar y goleuo er mwyn osgoi achosi’r niwsans, ac mae hyn yn debygol o beri cyfeirio at yr eiddo dan sylw. 

ID: 2414, adolygwyd 23/03/2023