Mae modd lleihau llygredd golau’n syfrdanol gyda nifer o fesurau syml sy’n rhwydd a rhad.
Holwch eich hun...
· A oes angen y goleuni?
· A fyddai modd diogelu gyda mesurau eraill fel codi ffens neu sgrin o gwmpas ardal?
· A oes angen goleuo drwy’r nos? Diffoddwch oleuadau diangen neu osod switsh amseru. Defnyddiwch ond y golau angenrheidiol.
Os oes angen goleuo, mae modd cymryd nifer o fesurau i osgoi peri niwsans:
· Defnyddio lampau o’r watedd lleiaf. Ar gyfer goleuadau diogeledd cartref mae lamp 150W yn ddigonol. Mae lampau rhy gryf (300/500W) yn creu golau rhy danbaid gan leihau diogeledd. Mae lamp 9W yn ddigonol ar gyfer goleuo cyntedd drwy’r nos gan amlaf.
· Ongli goleuadau at i lawr fel nad ydynt ond yn goleuo’r arwyneb a fwriadwyd yn hytrach na thaflu goleuni ar eiddo cyfagos. I leihau effeithiau tanbeidrwydd dylai onglau prif belydr holl oleuadau fod islaw 70 gradd.
· Dylid addasu goleuadau diogeledd yn gywir fel eu bod yn datgelu dim ond symudiad pobl yn y cylch a fwriadwyd a dim pellach.
· Cyfeirio goleuadau at i lawr. Os oes raid defnyddio golau at i fyny, gosod cwfl neu orchudd uwchben y golau i leihau faint o olau diangen sy’n codi.
· Peidio â gosod offer sy’n gwasgaru goleuni uwchlaw’r llorweddol.