Llygredd Golau
Sut mae’r Cyngor yn ymchwilio i gwynion ynghylch llygredd golau?
Dan amgylchiadau arferol bydd y drefn ganlynol yn cael ei dilyn:
- Bydd gofyn i chi i lenwi taflenni dyddiadur i roi tystiolaeth ysgrifenedig ynghylch nifer y digwyddiadau a sut maent yn effeithio arnoch i’w dychwelyd i’r Tîm Iechyd Cyhoeddus.
- Os yw’r wybodaeth ar daflenni’r dyddiadur yn dangos y gallai fod niwsans statudol yn cael ei achosi, bydd llythyr yn cael ei anfon at berchennog yr eiddo neu bwy bynnag sy’n gyfrifol am y niwsans golau yn tynnu eu sylw at y gŵyn a wnaed yn eu herbyn.
- Os nad oes unrhyw welliant, bydd ymchwiliadau’n parhau. Yn nodweddiadol, bydd hyn yn golygu ymweliad a drefnwyd o flaen llaw gan swyddogion, a fydd yn galw heibio’r ddau eiddo os gallant.
- Os caiff yr adran dystiolaeth sy’n cyfiawnhau’r honiadau, caiff camau eu cymryd i wella’r sefyllfa. Gallai hyn ofyn gwneud rhyw fath o waith rheoli anffurfiol ond, fel arfer, bydd yn golygu rhoi rhybudd gostegu i bwy bynnag sy’n gyfrifol, yn gofyn iddynt leihau’r niwsans neu ei reoli neu leihau’r ymyriad i lefel resymol sy’n briodol ym marn y swyddog ymchwilio. Mae’n drosedd peidio â chydymffurfio â rhybudd gostegu.
ID: 2413, adolygwyd 12/09/2022