Llywodraethiant Gwybodaeth
Llywodraethu Gwybodaeth
Mae Llywodraethu Gwybodaeth yn ymwneud â sut mae'r Cyngor yn defnyddio ac yn edrych ar ôl gwybodaeth a'ch data personol. Mae'n gosod y safonau, yr egwyddorion a'r arfer gorau a fydd yn cael eu mabwysiadu er mwyn sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym yn gywir ac yn cael ei thrin yn gyfreithlon, yn ddiogel ac yn effeithlon.
Mae'r tîm Llywodraethu Gwybodaeth a Chwynion yn ymgymryd â'r swyddogaethau canlynol:-
- Sicrhau ein bod yn dilyn arfer Llywodraethu Gwybodaeth da wrth brosesu gwybodaeth.
- Sicrhau ein bod yn prosesu gwybodaeth bersonol sydd gennym yn gyfreithlon ac yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 (yn agor mewn tab newydd).
- Rheoli ac ymdrin â Cheisiadau Gwrthrych am Wybodaeth.
- Rheoli ac ymdrin â Cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth 2002 a Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
- Sicrhau bod gwybodaeth ar gael drwy'r Cynllun Cyhoeddi a'r Cofnod Datgeliadau.
- Rheoli'r polisi a'r gweithdrefnau Cwynion.
- Cofnodi a Rhannu Canmoliaeth a Sylwadau.
ID: 461, adolygwyd 16/10/2024