Llywodraethiant Gwybodaeth
Canmoliaethau a Sylwadau
Prif nod y Cyngor yw sicrhau ‘bodlonrwydd cwsmeriaid’, ac os ydych yn hapus gyda'r ffordd rydym wedi delio â chi, rhowch wybod i ni. Gallwn ddefnyddio'r ffordd honno o weithio mewn adrannau eraill o'r Cyngor. Hefyd, os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar sut y gallem wneud pethau'n well, rhowch wybod i ni. Gallwn ystyried eich awgrymiadau er mwyn gweld sut y gallai pethau weithio'n well. I gyflwyno'ch canmoliaeth neu sylw, cwblhewch y ffurflen ganlynol:
Adborth Cwsmeriaid - Canmoliaeth / Sylw
Fel arall, gallwch anfon eich cwyn neu sylwad yn ysgrifenedig at:
Canmoliaethau a Sylwadau,
Cyngor Sir Penfro,
Neuadd y Sir,
Hwlffordd,
Sir Benfro
SA61 1TP
compliments@pembrokeshire.gov.uk
Caiff eich sylw ei anfon at sylw'r cyfarwyddwr priodol a byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth cyn pen 15 niwrnod gwaith.
Byddwn yn cyhoeddi rhywfaint o'r canmoliaeth a sylwadau a dderbyniwn, oni bai eich bod yn gofyn i ni beidio. Rydym hefyd eisiau sicrhau bod y bobl hynny sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaethau rydych chi'n hapus gyda nhw yn cael eu cydnabod am eu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid.