Llywodraethiant Gwybodaeth
Diogelu Data a Mynediad Gwrthrych y Data
Mae ar Gyngor Sir Penfro angen casglu a defnyddio rhai mathau o wybodaeth ynglŷn â phobl y mae'n ymwneud â hwy. Hefyd, efallai y bydd y gyfraith yn gofyn weithiau eu bod yn casglu a defnyddio gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â gofynion adrannau'r llywodraeth a Llywodraeth Cymru.
Mae'r Rheoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn berthnasol yn unig i ddata personol sy'n fodd i adnabod pobl sy'n fyw. Mae'r Rheoliad yn darparu hefyd ar gyfer rheoleiddio'r gwaith o brosesu'r cyfryw wybodaeth bersonol yn cynnwys cael, dal, defnyddio neu ddatgelu'r cyfryw wybodaeth.
Mae Cyngor Sir Penfro yn rhwym wrth y darpariaethau hynny ac yn gorfod cydymffurfio ag wyth egwyddor y Rheoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), sef:
Rhaid i data personol:-
- Wedi’u prosesu’n gyfreithiol, yn deg ac mewn modd tryloyw.
- Wedi’u casglu ar gyfer dibenion penodol, manwl a chyfreithlon yn unig.
- Yn ddigonol, yn berthnasol ac wedi’u cyfyngu i’r hyn sydd ei angen.
- Yn fanwl gywir, a lle y bo angen, yn gyfredol.
- Wedi’u cadw mewn ffurf sy’n golygu na ellir adnabod gwrthrychau’r data am fwy o amser nag sydd ei angen.
- Wedi’u prosesu mewn modd sy’n sicrhau diogelu’r data personol mewn modd priodol.
Mae'r Ddeddf yn rhoi rha
- Hawl i wybodaeth
- Hawl i gael mynediad
- Hawl i gywiro
- Hawl i ddileu
- Hawl i gyfyngu ar brosesu
- Hawl i drosglwyddo
- Hawl i wrthwynebu
- Hawliau o ran gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomatig.
I hawliau arbennig i bobl y mae'r Awdurdod yn cadw eu data, sy'n cynnwys:-
Yr hawl sylfaenol yw hawl mynediad y gwrthrych. Mae hyn yn fodd i bobl ganfod yr hyn sy'n cael ei gadw amdanynt. Gall y data personol a gedwir fod ar ffurf cofnodion cyfrifiadurol, e-bost, TCC, ffotograffau neu gofnodion ar bapur.
Gofynnir i unigolion sy'n dymuno gwneud cais am fynediad gwrthrych lenwi'r ffurflen atodedig, gan roi cymaint o wybodaeth ag y bo modd er mwyn adnabod y data sydd eu hangen arnynt.
Dolen i'r ffurflen CMG yma: Ffurflen Cais Hawl i Weld
Mae mis gyda Chyngor Sir Penfro wedi dyddiad derbyn y ffurflen i gydymffurfio â'r cais, ar yr amod bod yn fodlon ein bod yn gwybod pwy yw'r sawl sy'n gwneud y cais a bod digon o wybodaeth gyda ni i ddod o hyd i'r wybodaeth y mae cais amdani.
Bydd yn rhaid inni gael copi o ddogfen sy’n cadarnhau beth yw'ch dyddiad geni a phwy ydych chi (tystysgrif geni) yn ogystal â chopi o un o'r canlynol er mwyn cadarnhau beth yw'ch cyfeiriad:
- Cyfriflen Banc
- Llythyr gan Gyfreithiwr
- Pasbort
- Trwydded Yrru
- Bil Cyfleustod ar gyfer y tri mis diwethaf
Gyda rhai achosion, efallai y bydd cyfyngiadau o dan y Rheoliad ar hawl unigolyn i weld yr holl ddata personol a gedwir amdano/amdani. Mae un arall o'r prif gyfyngiadau yn ymwneud â data trydydd parti - neu ddata nad yw'n ymwneud â'r unigolyn sy'n gwneud y cais. Yn yr achos hwn, ni fydd yr wybodaeth a roddir yn cynnwys unrhyw gynnwys sy'n fodd i adnabod trydydd parti, oni bai fod y trydydd parti yn cytuno y gellir ei ryddhau. Os bydd unrhyw gyfyngiadau yn berthnasol i chi, cewch wybod am hyn.
Mae rhagor o wybodaeth am Rheoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a rhagor o arweiniad i'w gweld ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth (yn agor mewn tab newydd).
Os ydych yn dymuno gwneud cais, llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a'i hanfon gyda'ch taliad at y:
Tîm Mynediad i Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost
accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn (ar gyfer unrhyw gyngor neu ymholiadau): 01437 775195 / 775216
Mae'r hawl gyffredinol gyda chi i weld gwybodaeth yr ydym yn ei dal nad yw'n ymwneud â chi fel unigolyn, ac nad ydym yn ei chyhoeddi'n rhan o'r drefn arferol, trwy wneud cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.