Llywodraethwyr Ysgol

Dod yn Llywodraethwr Ysgol

ETHOL CYNRYCHIOLWYR RHIEINI- LYWODRAETHWYR - DATGANIAD YNGLYN A’R PERSONAU A ENWEBWYD

Diolch ichi am eich diddordeb mewn bod yn llywodraethwr ysgol. Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth a ddarparwyd gennym yn eich helpu i wneud eich penderfyniad. 

Mae pobl o bob math yn dod yn llywodraethwyr ysgolion. Mae ganddyn nhw oll reswm penodol dros wasanaethu ar gorff llywodraethu (CLl). Caiff aelodaeth CLl ei rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n amrywio yn ôl categori’r ysgol a maint yr ysgol. Mae gan bob ysgol lywodraethwyr yn y categorïau canlynol:

  • Rhiant-lywodraethwyr – a etholir gan rieni disgyblion yr ysgol
  • Athrawon-lywodraethwyr – a etholir gan athrawon yr ysgol
  • Llywodraethwyr Awdurdod Lleol – a benodir gan yr ALl

Hefyd mae gan gyrff llywodraethu rai o’r llywodraethwyr canlynol, gan ddibynnu ar y math o ysgol:

  • Llywodraethwyr cymunedol – a benodir gan y CLl ei hun
  • Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol – sy’n cynrychioli’r cyngor tref/cymuned lleol
  • Llywodraethwyr cynrychioliadol – mewn Ysgolion Arbennig yn unig
  • Llywodraethwyr sefydledig – a benodir gan y Sefydliad sy’n gysylltiedig â’r ysgol, yr Eglwys fel rheol
  • Staff-lywodraethwyr – a etholir gan staff yr ysgol nad ydyn nhw’n staff dysgu
  • Disgybl-lywodraethwyr cyswllt (ysgolion uwchradd) – a benodir gan Gyngor yr Ysgol

Gan fod amodau ynghlwm wrth nifer o’r categorïau o lywodraethwyr, mae’r wybodaeth hon yn fwyaf defnyddiol i’r sawl sy’n ystyried bod yn rhiant-lywodraethwyr, yn llywodraethwyr cymunedol neu’n llywodraethwyr Awdurdod Lleol ac sy’n gallu cyflwyno cais am gael eu hystyried i fod yn aelod o Gorff Llywodraethu.

Rhiant-lywodraethwyr

I fod yn rhiant-lywodraethwr mae’n rhaid bod gennych blentyn sy’n ddisgybl yn yr ysgol lle’r ydych yn aelod o’r CLl. Etholir rhiant-lywodraethwyr er mwyn cynrychioli buddiannau rhieni’r disgyblion sy’n mynychu’r ysgol ac er mwyn rhoi safbwyntiau rhiant o ran penderfyniadau y gall y CLl fod yn eu gwneud. Rhoddir gwybod i’r rhieni am le gwag i riant-lywodraethwr, a hynny drwy lythyr a ddosberthir gan yr ysgol. Hefyd gellir rhoi gwybodaeth i rieni mewn ffyrdd eraill. Os ydych am gael gwybod pryd y bydd lle gwag ar gael nesaf yn ysgol eich plentyn, cysylltwch â GSSAdmin@pembrokeshire.gov.uk

Gall rhiant-lywodraethwr barhau yn llywodraethwr tan ddiwedd y cyfnod gwasanaethu o bedair blynedd, hyd yn oed os bydd plentyn y rhiant-lywodraethwr yn gadael yr ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Llywodraethwyr Awdurdod Lleol

Penodir llywodraethwyr Awdurdod Lleol (ALl) gan yr ALl sy’n cynnal yr ysgol. Gall llywodraethwr ALl gyflwyno barn yr ALl ond nid yw’n gennad ar ran yr ALl, gan olygu na all yr ALl fynnu bod llywodraethwyr ALl yn arddel barn benodedig.

Llywodraethwyr Cymunedol

Caiff y llywodraethwyr hyn eu gwahodd gan lywodraethwyr eraill i ymuno â’r Corff Llywodraethu ac fe’u penodir gan y Corff Llywodraethu. Mae aelodau cymunedol yn dod â’u profiad neu’u sgiliau eu hunain i’r Corff Llywodraethu, a gallan nhw weithredu fel dolen gyswllt â’r gymuned y mae’r ysgol yn ei gwasanaethu. Fel rheol mae llywodraethwyr cymunedol yn byw neu’n gweithio yng nghymuned dalgylch yr ysgol ac yn ymroddedig o ran rheolaeth dda ar yr ysgol ac o ran ei llwyddiant.

Sgiliau a Phrofiad

Dylai Cyrff Llywodraethu a’r ALl geisio penodi llywodraethwyr sy’n meddu ar wybodaeth, profiad a sgiliau penodol er mwyn sicrhau bod y CLl yn gallu manteisio ar rychwant eang o sgiliau. Dyma rai o’r prif feysydd y gall fod gan CLl ddiddordeb ynddyn nhw:

  • Her ac atebolrwydd
  • Cyfathrebu
  • Doethineb
  • Rheolaeth ariannol
  • Iechyd a diogelwch
  • Adnoddau dynol a recriwtio
  • Didueddrwydd
  • Dehongli data
  • Arweinyddiaeth
  • Monitro a gwerthuso
  • Cynllunio strategol

Ymrwymiad Amser

Yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i CLl gyfarfod o leiaf unwaith y tymor. Rhwng awr a dwy awr yw hyd tebygol y cyfarfod hwn. Mae cyfarfodydd rhai ysgolion yn digwydd ar ddiwedd y diwrnod ysgol, mae rhai eraill yn digwydd yn gynnar gyda’r hwyr. Yn achlysurol mae’n bosibl y bydd ar CLl angen cwrdd yn amlach na hyn. Hefyd mae’n debygol y byddwch yn aelod o bwyllgor sydd, unwaith eto, yn debygol o gwrdd unwaith y tymor. Yn ogystal mae’n rhaid ichi neilltuo amser i baratoi ar gyfer cyfarfodydd drwy ddarllen gwaith papur ymlaen llaw. Hefyd dylech amlygu parodrwydd i fod yn bresennol mewn digwyddiadau eraill yn yr ysgol ac, yn achlysurol, i ymweld â’r ysgol yn ystod y diwrnod gwaith - gan drefnu hynny gyda’r Pennaeth. Mae’n bosibl hefyd y gofynnir ichi wasanaethu ar bwyllgor statudol i ymdrin â gwahardd disgybl neu fater disgyblu aelod o’r staff. Yn ffodus, mae’r rhain yn ddigwyddiadau prin.

Fel y gwyddoch mae’n debyg, gwirfoddolwr di-dâl yw pob llywodraethwr; felly bydd angen ichi gadarnhau gyda’ch cyflogwr ynghylch cael amser yn rhydd i fynd i gyfarfodydd. Yn ogystal â meddu ar y sgiliau, mae’n holl bwysig eich bod yn gallu ymrwymo eich amser a’ch ymroddiad i’r CLl. Tîm yw’r CLl ac mae’n dibynnu ar gael cyfraniad llawn gan yr holl aelodau.

Os oes gennych ddiddordeb o hyd mewn bod yn llywodraethwr ysgol, darllenwch yr adrannau eraill cyn llenwi’r ffurflen gais ar-lein.  Rydym yn croesawu ceisiadau yn enwedig gan ymgeiswyr sydd am fod yn llywodraethwyr ALl a llywodraethwyr cymunedol, a hynny er mwyn ehangu’r gronfa o bobl y gellir penodi o’u plith - hyd yn oed os nad oes lle gwag ar hyn o bryd mewn ysgol yn agos ichi. Byddwn yn cadw eich manylion yn ein system ffeilio hyd nes y bydd lle gwag ar gael pryd y byddwn yn rhoi eich manylion i’r sawl sy’n gyfrifol am y penodi.

Gwybodaeth ar sut mae’r Wasanaeth Lywodraethwyr yn trin data

I gael sgwrs am rôl llywodraethwr ysgol, cysylltwch â:

Charlie Blythe

Gwasanaethau Cymorth i Lywodraethwyr

01437 775103

charlotte.blythe@pembrokeshire.gov.uk

ID: 4054, adolygwyd 05/12/2022